DEUTERONOMY
Chapter 7
Deut | WelBeibl | 7:1 | “Bydd yr ARGLWYDD yn eich helpu chi i gymryd y tir oddi ar saith grŵp o bobl sy'n gryfach na chi – yr Hethiaid, Girgasiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a'r Jebwsiaid. Bydd e'n eu gyrru nhw i gyd allan o'ch blaen chi. | |
Deut | WelBeibl | 7:2 | Bydd e'n rhoi'r gallu i chi i'w concro nhw, ac mae'n rhaid i chi eu dinistrio nhw'n llwyr. Peidiwch gwneud cytundeb heddwch â nhw, a pheidiwch dangos unrhyw drugaredd. | |
Deut | WelBeibl | 7:4 | rhag i'ch plant droi cefn ar yr ARGLWYDD, ac addoli duwiau eraill. Wedyn byddai'r ARGLWYDD yn gwylltio gyda chi, ac yn eich dinistrio chi'n llwyr! | |
Deut | WelBeibl | 7:5 | Na, rhaid i chi chwalu eu hallorau paganaidd nhw, malu'r colofnau cysegredig, torri polion y dduwies Ashera i lawr, a llosgi eu delwau nhw. | |
Deut | WelBeibl | 7:6 | Dych chi'n bobl sydd wedi'ch cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae wedi'ch dewis chi yn drysor sbesial iddo'i hun. | |
Deut | WelBeibl | 7:7 | Wnaeth e ddim eich dewis chi am fod mwy ohonoch chi na'r bobloedd eraill i gyd – roedd llai ohonoch chi os rhywbeth! | |
Deut | WelBeibl | 7:8 | Na, dewisodd yr ARGLWYDD chi am ei fod wedi'ch caru chi, ac am gadw'r addewid wnaeth e i'ch hynafiaid chi. Dyna pam wnaeth e ddefnyddio'i rym i'ch gollwng chi'n rhydd o fod yn gaethweision i'r Pharo, brenin yr Aifft. | |
Deut | WelBeibl | 7:9 | Felly peidiwch anghofio mai'r ARGLWYDD eich Duw chi ydy'r unig dduw go iawn. Mae e'n Dduw ffyddlon, a bydd e bob amser yn cadw'r ymrwymiad mae wedi'i wneud i'r rhai sy'n ei garu ac yn gwneud beth mae e'n ddweud. | |
Deut | WelBeibl | 7:10 | Ond mae'n talu'n ôl i'r bobl hynny sy'n ei gasáu, drwy roi iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu. | |
Deut | WelBeibl | 7:11 | Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw. | |
Deut | WelBeibl | 7:12 | “Os gwrandwch chi ar y canllawiau yma, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cadw'r ymrwymiad hael wnaeth gyda chi, fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid. | |
Deut | WelBeibl | 7:13 | Bydd e'n eich caru a'ch bendithio chi, ac yn rhoi lot o blant i chi. Bydd eich cnydau'n llwyddo, yr ŷd, y sudd grawnwin a'r olewydd; bydd eich gwartheg yn cael lloi, a'ch preiddiau yn cael lot o rai bach. | |
Deut | WelBeibl | 7:14 | Byddwch yn cael eich bendithio fwy nag unrhyw wlad arall – bydd eich teuluoedd yn tyfu, a bydd nifer eich anifeiliaid yn cynyddu. | |
Deut | WelBeibl | 7:15 | Bydd yr ARGLWYDD yn eich amddiffyn rhag salwch, a fyddwch chi ddim yn dioddef o'r heintiau wnaeth daro'r Aifft. Eich gelynion fydd yn dioddef o'r pethau yna. | |
Deut | WelBeibl | 7:16 | “Rhaid i chi ddinistrio'r bobl fydd yr ARGLWYDD yn eich galluogi chi i'w concro nhw. Peidiwch teimlo trueni drostyn nhw, a pheidiwch addoli eu duwiau, neu bydd hi ar ben arnoch chi. | |
Deut | WelBeibl | 7:17 | Falle dy fod yn gofyn, ‘Sut ydyn ni'n mynd i lwyddo i gymryd tir y bobloedd yma? Mae mwy ohonyn nhw nag sydd ohonon ni!’ | |
Deut | WelBeibl | 7:19 | Defnyddiodd ei rym a'i nerth, a gwneud gwyrthiau rhyfeddol i ddod â chi allan o'r Aifft. A bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud yr un fath eto i'r bobl yma dych chi'n eu hofni. | |
Deut | WelBeibl | 7:20 | Bydd e'n achosi panig llwyr yn eu plith nhw. Bydd rhai yn ceisio cuddio oddi wrthoch chi, ond byddan nhw i gyd yn cael eu lladd yn y diwedd. | |
Deut | WelBeibl | 7:21 | “Peidiwch bod ag ofn. Mae'r ARGLWYDD eich Duw gyda chi, ac mae e'n Dduw mawr a rhyfeddol. | |
Deut | WelBeibl | 7:22 | Bydd e, y Duw sy'n eich arwain chi, yn eu gyrru nhw i ffwrdd o dipyn i beth. Fydd e ddim yn gadael i chi gael gwared â nhw i gyd ar unwaith, neu fydd dim digon o bobl yno i gadw niferoedd yr anifeiliaid gwyllt i lawr. | |
Deut | WelBeibl | 7:23 | Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich galluogi chi i'w concro nhw. Bydd e'n achosi iddyn nhw banicio, nes byddan nhw i gyd wedi'u lladd. | |
Deut | WelBeibl | 7:24 | Byddwch chi'n dal eu brenhinoedd nhw, ac yn eu lladd. Fydd neb yn cofio eu bod nhw wedi byw erioed! | |
Deut | WelBeibl | 7:25 | Llosgwch y delwau o'u duwiau nhw. Peidiwch hyd yn oed cadw'r aur sy'n eu gorchuddio nhw, rhag i chi gael eich trapio ganddo. Mae'r pethau yma yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD eich Duw. | |