Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
DEUTERONOMY
Prev Up Next
Chapter 23
Deut WelBeibl 23:1  Dydy dyn sydd â'i geilliau wedi'u niweidio neu ei bidyn wedi'i dorri i ffwrdd ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 23:2  Dydy dyn gafodd ei eni tu allan i briodas ddilys ddim yn cael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na disgynyddion y person hwnnw chwaith, am byth.)
Deut WelBeibl 23:3  Dydy pobl Ammon a Moab ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na'u disgynyddion nhw chwaith, am byth.)
Deut WelBeibl 23:4  Pan ddaethoch chi allan o'r Aifft, roedden nhw wedi gwrthod rhoi dŵr a bwyd i chi. A dyma nhw hefyd yn talu Balaam fab Beor o Pethor yn Mesopotamia i'ch melltithio chi.
Deut WelBeibl 23:5  Ond dyma'r ARGLWYDD eich Duw yn gwrthod gwrando arno, ac yn troi'r felltith yn fendith! Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eich caru chi.
Deut WelBeibl 23:6  Felly peidiwch byth gwneud unrhyw beth i helpu Ammon a Moab i lwyddo a ffynnu.
Deut WelBeibl 23:7  “Ond mae pobl Edom yn perthyn i chi, felly rhaid i chi beidio'u ffieiddio nhw. A pheidiwch ffieiddio pobl yr Aifft, gan eich bod wedi byw fel mewnfudwr yn eu gwlad nhw.
Deut WelBeibl 23:8  Gall plant eu plant berthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 23:9  Pan fyddwch chi'n mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sydd ddim yn lân.
Deut WelBeibl 23:10  Er enghraifft, os ydy dyn yn gollwng ei had yn ei gwsg, mae'n aflan, a rhaid iddo adael y gwersyll, ac aros allan drwy'r dydd.
Deut WelBeibl 23:11  Yna, gyda'r nos, rhaid iddo olchi'i hun â dŵr. A bydd yn gallu mynd yn ôl i'r gwersyll ar ôl i'r haul fachlud.
Deut WelBeibl 23:12  Rhaid trefnu lle tu allan i'r gwersyll i'r dynion fynd i'r tŷ bach.
Deut WelBeibl 23:13  Rhaid i ti fynd â rhaw gyda ti i wneud twll, a gorchuddio dy garthion gyda phridd.
Deut WelBeibl 23:14  Mae'r gwersyll i'w gadw'n lân. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn cerdded o gwmpas y gwersyll; mae e gyda chi i'ch achub a'ch galluogi chi i ennill y frwydr. Does gynnoch chi ddim eisiau iddo fe weld rhywbeth afiach, a throi cefn arnoch chi.
Deut WelBeibl 23:15  Os ydy caethwas o wlad arall wedi dianc i wlad Israel, peidiwch mynd ag e'n ôl i'w feistr.
Deut WelBeibl 23:16  Mae i gael byw ble bynnag mae e eisiau. Caiff ddewis unrhyw un o'ch pentrefi i fynd i fyw yno. Peidiwch â'i gam-drin a chymryd mantais ohono.
Deut WelBeibl 23:17  Ddylai merched a dynion ifanc Israel byth wasanaethu fel puteiniaid teml.
Deut WelBeibl 23:18  Paid byth dod â thâl putain neu gyflog puteiniwr i deml yr ARGLWYDD dy Dduw er mwyn cadw addewid. Mae'r ddau beth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 23:19  Peidiwch codi llog ar fenthyciad i gyd-Israeliaid – llog ar arian, ar fwyd, nac unrhyw beth arall sydd wedi'i fenthyg.
Deut WelBeibl 23:20  Cewch godi llog ar fenthyciad i bobl sydd ddim yn Israeliaid, ond peidiwch gwneud hynny wrth fenthyg i'ch pobl eich hunain. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn bendithio popeth wnewch chi yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd, os byddwch chi'n ufudd.
Deut WelBeibl 23:21  Pan fyddwch chi'n gwneud adduned i'r ARGLWYDD eich Duw, peidiwch oedi cyn ei chyflawni, neu byddwch chi'n cael eich dal yn gyfrifol ganddo.
Deut WelBeibl 23:22  Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf.
Deut WelBeibl 23:23  Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'ch adduned, beth bynnag oedd yr adduned honno. Er enghraifft, os gwnaethoch chi addo rhoi rhywbeth iddo yn offrwm gwirfoddol.
Deut WelBeibl 23:24  Os ydych chi'n mynd drwy winllan rhywun arall, cewch fwyta faint fynnoch chi o rawnwin, ond peidiwch mynd â dim i ffwrdd mewn basged.
Deut WelBeibl 23:25  Os ydych chi'n mynd drwy gae ŷd rhywun, cewch bigo'r tywysennau gyda'ch llaw, ond peidiwch defnyddio cryman i gymryd peth o'r cnwd.