GALATIANS
Chapter 5
Gala | WelBeibl | 5:1 | Dŷn ni'n rhydd! Mae'r Meseia wedi'n gollwng ni'n rhydd! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn aros felly, a gwrthod cario'r baich o fod yn gaeth byth eto. | |
Gala | WelBeibl | 5:2 | Gwrandwch yn ofalus! Dyma dw i, Paul, yn ei ddweud wrthoch chi – os dych chi'n mynd drwy'r ddefod o gael eich enwaedu yn y gobaith o blesio Duw, does gan y Meseia ddim i'w gynnig i chi bellach. | |
Gala | WelBeibl | 5:3 | Dw i'n eich rhybuddio chi eto – os ydy dyn yn cael ei enwaedu, mae ganddo gyfrifoldeb wedyn i wneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. | |
Gala | WelBeibl | 5:4 | Os dych chi'n ceisio cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau'r Gyfraith, dych chi wedi'ch torri i ffwrdd oddi wrth y Meseia! Dych chi wedi colli gafael ar rodd Duw. | |
Gala | WelBeibl | 5:5 | Ond wrth gredu a byw yn nerth yr Ysbryd dŷn ni'n gallu edrych ymlaen yn frwd at gael perthynas hollol iawn gyda Duw – dyna'n gobaith sicr ni. | |
Gala | WelBeibl | 5:6 | Os oes gynnoch chi berthynas gyda'r Meseia Iesu does dim gwahaniaeth os dych chi wedi bod drwy'r ddefod o gael eich enwaedu neu beidio. Credu sy'n bwysig – ffydd yn mynegi ei hun mewn bywyd o gariad. | |
Gala | WelBeibl | 5:7 | Roeddech chi'n dod ymlaen mor dda. Pwy wnaeth eich rhwystro chi rhag ufuddhau i'r gwir? | |
Gala | WelBeibl | 5:8 | Does gan y fath syniadau ddim byd i'w wneud â'r Duw wnaeth eich galw chi ato'i hun! | |
Gala | WelBeibl | 5:9 | Fel mae'r hen ddywediad yn dweud: “Mae mymryn bach o furum yn lledu drwy'r toes i gyd.” Dyna mae drwg yn ei wneud! | |
Gala | WelBeibl | 5:10 | Dw i'n hyderus y bydd yr Arglwydd yn eich cadw chi rhag credu'n wahanol. Ond bydd Duw yn cosbi'r un sydd wedi bod yn eich drysu chi, pwy bynnag ydy e. | |
Gala | WelBeibl | 5:11 | Frodyr a chwiorydd, os ydw i'n dal i bregethu bod rhaid mynd drwy ddefod enwaediad, pam ydw i'n dal i gael fy erlid? Petawn i'n gwneud hynny, fyddai'r groes ddim problem i neb. | |
Gala | WelBeibl | 5:12 | Byddai'n dda gen i petai'r rhai sy'n creu'r helynt yn eich plith chi yn mynd yr holl ffordd ac yn sbaddu eu hunain! | |
Gala | WelBeibl | 5:13 | Ydych, ffrindiau annwyl, dych chi wedi'ch galw i fod yn rhydd. Ond dw i ddim yn sôn am benrhyddid, sy'n esgus i adael i'r chwantau eich rheoli chi. Sôn ydw i am y rhyddid i garu a gwasanaethu eich gilydd. | |
Gala | WelBeibl | 5:14 | Mae yna un gorchymyn sy'n crynhoi'r cwbl mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.” | |
Gala | WelBeibl | 5:15 | Ond os dych chi'n gwneud dim byd ond cega ac ymosod ar eich gilydd, gwyliwch eich hunain! Byddwch chi'n dinistrio'ch gilydd. | |
Gala | WelBeibl | 5:16 | Beth dw i'n ei ddweud ydy y dylech adael i'r Ysbryd reoli'ch bywydau chi, wedyn fyddwch chi ddim yn gwneud beth mae'r chwantau eisiau. | |
Gala | WelBeibl | 5:17 | Mae ein natur bechadurus ni am i ni wneud drwg – yn hollol groes i beth mae'r Ysbryd eisiau. Ond mae'r Ysbryd yn rhoi'r awydd i ni wneud fel arall, sef y gwrthwyneb i beth mae'r natur bechadurus eisiau. Mae brwydr barhaus yn mynd ymlaen – allwch chi ddim dianc rhagddi. | |
Gala | WelBeibl | 5:18 | Ond os ydy'r Ysbryd yn eich arwain chi, dych chi ddim yn gaeth i'r Gyfraith Iddewig bellach. | |
Gala | WelBeibl | 5:19 | Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a phenrhyddid llwyr; | |
Gala | WelBeibl | 5:20 | hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, | |
Gala | WelBeibl | 5:21 | eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i'n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o'r blaen, fydd pobl sy'n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw. | |
Gala | WelBeibl | 5:22 | Ond dyma'r ffrwyth mae'r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, | |
Gala | WelBeibl | 5:24 | Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gyda'i nwydau a'i chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes. | |
Gala | WelBeibl | 5:25 | Felly os ydy'r Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael i'r Ysbryd ein harwain ni. | |