Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
HOSEA
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14
Prev Up Next
Chapter 2
Hose WelBeibl 2:1  “Byddi'n galw dy frawd yn Ammi (sef ‛fy mhobl‛), a dy chwaer yn Rwhama (sef ‛trugaredd‛)!
Hose WelBeibl 2:2  Plediwch yn daer gyda'ch mam (Dydy hi ddim yn wraig i mi, a dw i ddim yn ŵr iddi hi.) Plediwch arni i stopio peintio ei hwyneb fel putain, a dangos ei bronnau i bawb.
Hose WelBeibl 2:3  Neu bydda i'n rhwygo'i dillad oddi arni – bydd hi'n hollol noeth, fel ar ddiwrnod ei geni. Bydda i'n troi'r wlad yn anialwch. Bydd fel tir sych; a bydd hi'n marw o syched.
Hose WelBeibl 2:4  Fydda i'n dangos dim trugaredd at ei phlant, am mai plant siawns ydyn nhw, am iddi buteinio.
Hose WelBeibl 2:5  Hwren anffyddlon ydy eu mam nhw; mae hi wedi ymddwyn yn warthus. Roedd hi'n dweud: ‘Dw i'n mynd at fy nghariadon. Maen nhw'n rhoi bwyd a dŵr i mi, gwlân, llin, olew, a diodydd.’
Hose WelBeibl 2:6  Felly, dw i am gau ei ffordd gyda drain a chodi wal i'w rhwystro, fel ei bod hi'n colli ei ffordd.
Hose WelBeibl 2:7  Wedyn, pan fydd hi'n rhedeg ar ôl ei chariadon, bydd hi'n methu'u cyrraedd nhw. Bydd hi'n chwilio, ond yn methu'u ffeindio nhw. Bydd hi'n dweud wedyn, ‘Dw i am fynd yn ôl at fy ngŵr. Roedd pethau lot gwell arna i bryd hynny.’
Hose WelBeibl 2:8  “Dydy hi ddim yn barod i gydnabod mai fi sy'n rhoi'r ŷd a'r sudd grawnwin a'r olew olewydd iddi. A fi wnaeth roi'r holl arian a'r aur iddi hefyd – ond aeth ei phobl a rhoi'r cwbl i Baal!
Hose WelBeibl 2:9  Felly, dw i'n mynd i gymryd yr ŷd yn ôl, a'r cynhaeaf grawnwin hefyd. Dw i'n mynd i gymryd yn ôl y gwlân a'r llin oeddwn i wedi'i rhoi iddi i'w gwisgo.
Hose WelBeibl 2:10  Yn fuan iawn, dw i'n mynd i wneud iddi sefyll yn noethlymun o flaen ei chariadon. Fydd neb yn gallu ei helpu hi!
Hose WelBeibl 2:11  Bydd ei holl bartïo ar ben: ei gwyliau crefyddol, ei dathliadau misol a'i Sabothau wythnosol – pob un parti!
Hose WelBeibl 2:12  Bydda i'n difetha ei gwinllannoedd a'i choed ffigys – roedd hi'n honni mai tâl gan ei chariadon oedd y cwbl. Bydda i'n troi'r cwbl yn ddrysni llawn chwyn wedi tyfu'n wyllt; dim ond anifeiliaid gwyllt fydd yn bwyta'u ffrwyth.
Hose WelBeibl 2:13  Bydda i'n ei chosbi am bob diwrnod y buodd hi'n llosgi arogldarth i ddelwau o Baal. Roedd hi'n gwisgo'i chlustdlysau a'i gemwaith i fynd ar ôl ei chariadon, ond yn fy anghofio i!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Hose WelBeibl 2:14  “Felly, dw i'n mynd i'w denu hi yn ôl ata i. Dw i'n mynd i'w harwain hi yn ôl i'r anialwch a siarad yn rhamantus gyda hi eto.
Hose WelBeibl 2:15  Wedyn, dw i'n mynd i roi ei gwinllannoedd iddi, a throi Dyffryn y Drychineb yn Giât Gobaith Bydd hi'n canu fel pan oedd hi'n ifanc, pan ddaeth hi allan o wlad yr Aifft.
Hose WelBeibl 2:16  Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “byddi'n galw fi, ‛fy ngŵr‛; fyddi di byth eto'n fy ngalw i, ‛fy meistr‛.
Hose WelBeibl 2:17  Bydda i'n gwneud i ti anghofio enwau'r delwau o Baal; fyddi di ddim yn eu defnyddio byth eto.
Hose WelBeibl 2:18  Bryd hynny, bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda'r anifeiliaid gwyllt, yr adar, a'r holl bryfed ar y ddaear Bydda i'n cael gwared ag arfau rhyfel – y bwa saeth a'r cleddyf; A bydd fy mhobl yn byw'n saff a dibryder.
Hose WelBeibl 2:19  Bydda i'n dy gymryd di'n wraig i mi am byth. Bydda i'n dy drin di'n deg, yn gyfiawn, ac yn dangos cariad a charedigrwydd atat.
Hose WelBeibl 2:20  Bydda i'n ffyddlon i ti bob amser, a byddi di'n fy nabod i, yr ARGLWYDD.
Hose WelBeibl 2:21  Bryd hynny, bydda i'n ymateb i ti'n frwd,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydda i'n rhoi cymylau i'r awyr, a bydd yr awyr yn rhoi glaw i'r tir.
Hose WelBeibl 2:22  Bydd y tir yn rhoi dŵr i'r ŷd, y grawnwin a'r olewydd. A bydd ffrwyth y tir ar gael i Jesreel.
Hose WelBeibl 2:23  Bydda i'n ei phlannu i mi fy hun yn y tir. Bydd ‛heb drugaredd‛ yn cael profi trugaredd. Bydda i'n dweud wrth ‛nid fy mhobl‛, ‛dych chi'n bobl i mi‛. A byddan nhw'n ateb, ‘Ti ydy'n Duw ni!’.”