II CHRONICLES
Chapter 32
II C | WelBeibl | 32:1 | Ar ôl i Heseceia fod mor ffyddlon yn gwneud y pethau yma, dyma Senacherib, brenin Asyria yn ymosod ar Jwda. Dyma fe'n gwersylla o gwmpas y trefi amddiffynnol gyda'r bwriad o'u dal nhw. | |
II C | WelBeibl | 32:3 | dyma fe'n cyfarfod gyda'i swyddogion a'i arweinwyr milwrol a phenderfynu cau'r ffynhonnau dŵr oedd tu allan i'r ddinas. | |
II C | WelBeibl | 32:4 | Daeth tyrfa o weithwyr at ei gilydd i fynd ati i gau'r ffynhonnau i gyd, a'r nant oedd yn rhedeg drwy ganol y wlad. “Pam ddylai brenhinoedd Asyria gael digon o ddŵr pan maen nhw'n dod yma?” medden nhw. | |
II C | WelBeibl | 32:5 | Wedyn, dyma'r Brenin Heseceia yn cryfhau'r amddiffynfeydd drwy drwsio'r waliau oedd wedi cwympo, codi tyrau amddiffynnol, adeiladu ail wal ar yr ochr allan, a chryfhau terasau dinas Dafydd. Gorchmynnodd wneud llawer iawn mwy o arfau a tharianau hefyd. | |
II C | WelBeibl | 32:6 | Yna dyma fe'n penodi swyddogion milwrol dros y fyddin a'u casglu at ei gilydd yn y sgwâr o flaen giât y ddinas. A dyma fe'n eu hannog nhw a dweud, | |
II C | WelBeibl | 32:7 | “Byddwch yn gryf a dewr! Peidiwch bod ag ofn na phanicio am fod brenin Asyria a'i fyddin ar eu ffordd. Mae yna Un gyda ni sy'n gryfach na'r rhai sydd gyda fe. | |
II C | WelBeibl | 32:8 | Dim ond cryfder dynol sydd ganddo fe, ond mae'r ARGLWYDD ein Duw gyda ni i'n helpu ni ac i ymladd ein brwydrau!” Roedd pawb yn teimlo'n well ar ôl clywed geiriau'r brenin. | |
II C | WelBeibl | 32:9 | Pan oedd Senacherib, brenin Asyria, a'i fyddin yn ymosod ar Lachish, dyma fe'n anfon ei weision i Jerwsalem gyda neges i Heseceia brenin Jwda a phawb oedd yn byw yn y ddinas. Dyma oedd y neges: | |
II C | WelBeibl | 32:10 | “Mae Senacherib brenin Asyria yn dweud, ‘Dw i wedi amgylchynu Jerwsalem. Beth sy'n eich gwneud chi mor siŵr y byddwch chi'n iawn? | |
II C | WelBeibl | 32:11 | “Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ein hachub ni o afael brenin Asyria,” meddai Heseceia. Ond mae e'n eich twyllo chi. Byddwch yn marw o newyn a syched! | |
II C | WelBeibl | 32:12 | Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth un allor maen nhw i fod i addoli? | |
II C | WelBeibl | 32:13 | Ydych chi ddim yn sylweddoli beth dw i a'm hynafiaid wedi'i wneud i'r holl wledydd eraill? Wnaeth duwiau'r gwledydd hynny fy rhwystro i rhag cymryd eu tiroedd nhw? | |
II C | WelBeibl | 32:14 | Pa un o dduwiau'r gwledydd gafodd eu dinistrio gan fy hynafiaid wnaeth lwyddo i achub eu pobl o'm gafael i? Beth sy'n gwneud i chi feddwl y bydd eich Duw chi yn gwneud hynny? | |
II C | WelBeibl | 32:15 | Felly peidiwch gadael i Heseceia eich twyllo a'ch camarwain chi. Peidiwch â'i gredu e. Wnaeth dim un o dduwiau'r gwledydd a'r teyrnasoedd eraill achub eu pobl o'n gafael ni. Felly pa obaith sydd gan eich duwiau chi o wneud hynny?’” | |
II C | WelBeibl | 32:16 | Aeth gweision Senacherib ymlaen i ddweud llawer mwy o bethau tebyg yn erbyn yr ARGLWYDD Dduw a'i was Heseceia. | |
II C | WelBeibl | 32:17 | Roedd Senacherib wedi ysgrifennu pethau oedd yn gwneud hwyl am ben yr ARGLWYDD, Duw Israel, ac yn ei sarhau. “Doedd duwiau y gwledydd eraill ddim yn gallu achub eu pobl o'm gafael i. A fydd duw Heseceia ddim yn gallu achub ei bobl e chwaith.” | |
II C | WelBeibl | 32:18 | Yna dyma'r negeswyr yn gweiddi'n uchel yn Hebraeg ar bobl Jerwsalem oedd ar y waliau. Y bwriad oedd eu dychryn nhw, fel bod Asyria'n gallu cymryd y ddinas. | |
II C | WelBeibl | 32:19 | Roedden nhw'n siarad am Dduw Jerwsalem fel petai'n un o'r duwiau roedd pobl y gwledydd eraill wedi'u gwneud iddyn nhw'u hunain. | |
II C | WelBeibl | 32:20 | Felly dyma'r Brenin Heseceia a'r proffwyd Eseia fab Amos yn gweddïo, a galw'n daer ar Dduw yn y nefoedd am y peth. | |
II C | WelBeibl | 32:21 | A dyma'r ARGLWYDD yn anfon angel a lladd holl filwyr, capteniaid a swyddogion byddin Asyria. Ac roedd rhaid i Senacherib fynd yn ôl i'w wlad ei hun wedi'i gywilyddio. Aeth i mewn i deml ei dduw, a dyma rai o'i feibion ei hun yn ei daro i lawr a'i ladd gyda'r cleddyf. | |
II C | WelBeibl | 32:22 | A dyna sut gwnaeth yr ARGLWYDD achub Heseceia a phobl Jerwsalem o afael Senacherib, brenin Asyria a phob gelyn arall o'u cwmpas. | |
II C | WelBeibl | 32:23 | O'r adeg yna ymlaen roedd Heseceia'n cael ei barchu gan y gwledydd eraill i gyd. Roedd llawer yn dod i Jerwsalem i roi offrwm i'r ARGLWYDD ac anrhegion gwerthfawr i Heseceia, brenin Jwda. | |
II C | WelBeibl | 32:24 | Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael – a bu bron iddo farw. Dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb a rhoi arwydd iddo y byddai'n gwella. | |
II C | WelBeibl | 32:25 | Ond doedd Heseceia ddim wedi gwerthfawrogi beth wnaeth yr ARGLWYDD iddo. Roedd e'n falch, ac roedd yr ARGLWYDD yn ddig gydag e, a gyda Jwda a Jerwsalem. | |
II C | WelBeibl | 32:26 | Ond ar ôl hynny, roedd Heseceia'n sori am iddo fod mor falch, a phobl Jerwsalem hefyd. Felly doedd yr ARGLWYDD ddim yn ddig hefo nhw wedyn tra oedd Heseceia'n dal yn fyw. | |
II C | WelBeibl | 32:27 | Roedd Heseceia'n gyfoethog iawn ac yn cael ei barchu'n fawr. Adeiladodd stordai i gadw ei holl eiddo – arian, aur, gemau gwerthfawr, perlysiau, tarianau a phob math o bethau gwerthfawr eraill. | |
II C | WelBeibl | 32:28 | Adeiladodd ysguboriau i ddal y gwenith, y sudd grawnwin a'r olew; beudai i'r gwahanol anifeiliaid a chorlannau i'r defaid a'r geifr. | |
II C | WelBeibl | 32:29 | Adeiladodd drefi lawer, a phrynu nifer fawr o ddefaid, geifr a gwartheg hefyd. Roedd Duw wedi'i wneud e'n hynod o gyfoethog. | |
II C | WelBeibl | 32:30 | Heseceia hefyd gaeodd darddiad uchaf nant Gihon a chyfeirio'r dŵr i lawr i Ddinas Dafydd yn y gorllewin. Roedd Heseceia'n llwyddiannus beth bynnag roedd e'n wneud. | |
II C | WelBeibl | 32:31 | Pan anfonodd swyddogion Babilon negeswyr ato i'w holi am yr arwydd oedd wedi digwydd yn y wlad, dyma'r ARGLWYDD yn gadael llonydd iddo, i'w brofi a gweld beth oedd ei gymhellion go iawn. | |
II C | WelBeibl | 32:32 | Mae gweddill hanes Heseceia, a'r pethau da wnaeth e i'w gweld yng ngweledigaeth y proffwyd Eseia fab Amos yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. | |