Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II SAMUEL
Prev Up Next
Chapter 14
II S WelBeibl 14:1  Roedd Joab (mab Serwia) wedi sylwi fod Dafydd ddim yn gallu stopio meddwl am Absalom.
II S WelBeibl 14:2  Felly dyma fe'n anfon rhywun i nôl gwraig ddoeth oedd yn byw yn Tecoa. Meddai wrthi, “Dw i eisiau i ti esgus dy fod yn galaru. Rho ddillad galar amdanat, peidio gwisgo colur, a gwneud i ti dy hun edrych fel rhywun sydd wedi bod yn galaru am amser hir iawn.
II S WelBeibl 14:3  Yna dos at y brenin a dweud fel yma: …” (Dyma Joab yn dweud wrthi yn union beth i'w ddweud.)
II S WelBeibl 14:4  Felly dyma'r wraig o Tecoa yn mynd at y brenin. Aeth ar ei gliniau ac ymgrymu o'i flaen gyda'i hwyneb ar lawr. “Plîs helpa fi, o frenin.”
II S WelBeibl 14:5  “Beth sy'n bod?” meddai Dafydd. A dyma hi'n ateb, “Gwraig weddw ydw i. Mae'r gŵr wedi marw.
II S WelBeibl 14:6  Roedd gen i ddau fab, a dyma nhw'n dechrau ymladd allan yng nghefn gwlad. Doedd yna neb o gwmpas i'w gwahanu nhw, a dyma un yn taro'r llall a'i ladd.
II S WelBeibl 14:7  A nawr mae aelodau'r clan i gyd wedi troi yn fy erbyn i, ac yn mynnu, ‘Rho dy fab i ni. Rhaid iddo farw am lofruddio ei frawd.’ Ond fe ydy'r etifedd. Os gwnân nhw hynny, bydd y fflam olaf sydd gen i wedi diffodd! Fydd yna neb ar ôl i gadw enw'r gŵr yn fyw.”
II S WelBeibl 14:8  Dyma'r brenin Dafydd yn dweud wrth y wraig, “Dos adre. Gwna i setlo'r achos i ti.”
II S WelBeibl 14:9  A dyma'r wraig yn dweud wrth y brenin, “Os bydd unrhyw broblem, arna i a'm teulu mae'r bai. Does dim bai o gwbl ar fy meistr y brenin a'i orsedd.”
II S WelBeibl 14:10  Ond dyma'r brenin yn ateb, “Os bydd unrhyw un yn cwestiynu'r peth, gwna i ddelio gydag e. Fydd e ddim yn dy blagio di byth eto!”
II S WelBeibl 14:11  A dyma hi'n gofyn, “Plîs wnei di addo i mi o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw, na fydd y perthynas agosaf yn mynnu dial ar fy mab a thywallt mwy o waed eto?” “Ar fy llw,” meddai'r brenin, “fydd neb yn cyffwrdd blewyn o wallt ei ben!”
II S WelBeibl 14:12  Yna dyma'r wraig yn gofyn, “Plîs ga i ddweud un peth arall wrthot ti, syr?” “Ie, beth?” meddai'r brenin.
II S WelBeibl 14:13  A dyma hi'n dweud, “Pam wyt ti wedi gwneud yr un math o beth yn erbyn pobl Dduw? Drwy roi'r dyfarniad yna i mi rwyt ti'n barnu dy hun yn euog. Ti ddim wedi gadael i dy fab, sy'n alltud, ddod yn ôl adre.
II S WelBeibl 14:14  Rhaid i ni i gyd farw rywbryd. Dŷn ni fel dŵr yn cael ei dywallt ar y tir a neb yn gallu ei gasglu'n ôl. Dydy Duw ddim yn cymryd bywyd rhywun cyn pryd; ond mae e'n trefnu ffordd i ddod â'r un sydd wedi'i alltudio yn ôl adre.
II S WelBeibl 14:15  Nawr, dw i wedi dod i siarad â'r brenin, fy meistr, am fod pobl yn codi ofn arna i. Rôn i'n meddwl, ‘Os gwna i siarad â'r brenin falle y bydd e'n gwneud beth dw i'n ei ofyn.
II S WelBeibl 14:16  Bydd y brenin yn siŵr o wrando. Bydd e'n fy achub i oddi wrth yr un sydd am fy ngyrru i a'm mab o'r etifeddiaeth roddodd Duw i ni.’
II S WelBeibl 14:17  Rôn i'n meddwl, ‘Bydd ateb y brenin yn dod â chysur i mi. Achos mae'r brenin fel angel Duw, yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg.’ Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda ti!”
II S WelBeibl 14:18  A dyma'r Brenin Dafydd yn ei hateb, “Dw i eisiau gwybod un peth. Paid cuddio dim oddi wrtho i.” “Gofyn, syr,” meddai'r wraig.
II S WelBeibl 14:19  “Ai Joab sydd wedi dy gael i wneud hyn?” meddai. A dyma'r wraig yn ateb, “Ie, alla i ddim gwadu'r peth syr. Joab drefnodd y cwbl, a dweud wrtho i beth i'w ddweud.
II S WelBeibl 14:20  Roedd e eisiau i ti edrych ar y sefyllfa o safbwynt gwahanol. Ond rwyt ti, syr, yn ddoeth fel angel Dduw. Ti'n deall popeth sy'n digwydd yn y wlad.”
II S WelBeibl 14:21  Yna dyma'r brenin yn galw Joab, “O'r gorau! Dyna wna i. Dos i nôl y bachgen Absalom.”
II S WelBeibl 14:22  Dyma Joab yn ymgrymu â'i wyneb ar lawr o flaen y brenin, a diolch iddo. Meddai wrtho, “Heddiw dw i'n gwybod fod gen ti ffydd yno i, dy was. Ti wedi caniatáu fy nghais i.”
II S WelBeibl 14:23  Felly dyma Joab yn mynd i lawr i Geshwr a dod ag Absalom yn ôl i Jerwsalem.
II S WelBeibl 14:24  Ond roedd y brenin wedi dweud, “Rhaid iddo fynd i'w dŷ ei hun. Gaiff e ddim fy ngweld i.” Felly dyma Absalom yn mynd i'w dŷ ei hun, heb gael gweld y brenin.
II S WelBeibl 14:25  Roedd Absalom yn cael ei ystyried y dyn mwyaf golygus yn Israel. Dyn cryf, iach, gyda'r corff perffaith.
II S WelBeibl 14:26  Roedd yn arfer torri ei wallt yn fyr bob blwyddyn am fod ei wallt wedi tyfu mor drwchus. Ar ôl torri ei wallt byddai'n ei bwyso, ac roedd dros ddau gilogram (yn ôl y safon brenhinol).
II S WelBeibl 14:27  Roedd gan Absalom dri mab ac un ferch. Enw'r ferch oedd Tamar, ac roedd hi'n ferch arbennig o hardd.
II S WelBeibl 14:28  Roedd Absalom wedi bod yn Jerwsalem am ddwy flynedd heb gael gweld y brenin,
II S WelBeibl 14:29  a dyma fe'n anfon neges at Joab i geisio'i gael i drefnu iddo gael gweld y brenin. Ond roedd Joab yn gwrthod mynd ato. Dyma fe'n anfon amdano eto, ond roedd Joab yn dal i wrthod mynd.
II S WelBeibl 14:30  Felly dyma Absalom yn dweud wrth ei weision, “Mae gan Joab gae o haidd nesa at fy nhir i. Ewch i'w roi ar dân.” A dyma weision Absalom yn gwneud hynny.
II S WelBeibl 14:31  Yna aeth Joab ar ei union i dŷ Absalom. “Pam mae dy weision di wedi rhoi fy nghae i ar dân?” meddai.
II S WelBeibl 14:32  A dyma Absalom yn ateb, “Edrych, gwnes i anfon neges atat ti am fy mod eisiau i ti fynd at y brenin, a gofyn iddo pam wnaeth e ddod â fi yn ôl o Geshwr os nad oedd e eisiau fy ngweld i. Byddai wedi bod yn well i mi aros yno! Nawr, dw i eisiau gweld y brenin. Os ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le, gad iddo fy lladd i!”
II S WelBeibl 14:33  Felly, dyma Joab yn mynd at y brenin a dweud hynny wrtho. Dyma'r brenin yn galw am Absalom, a dyma Absalom yn dod ato ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. A dyma'r brenin yn ei gyfarch gyda chusan.