JOSHUA
Chapter 12
Josh | WelBeibl | 12:1 | Dyma'r brenhinoedd wnaeth pobl Israel eu trechu i'r dwyrain o afon Iorddonen, a'r tiroedd wnaethon nhw eu meddiannu – o Ddyffryn Arnon i Fynydd Hermon, sef yr holl dir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen: | |
Josh | WelBeibl | 12:2 | Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon ac yn teyrnasu o Aroer, ger Dyffryn Arnon. Roedd yn teyrnasu o ganol Dyffryn Arnon i Ddyffryn Jabboc, sef y ffin gyda thiriogaeth pobl Ammon – yn cynnwys hanner Gilead. | |
Josh | WelBeibl | 12:3 | Roedd ei diriogaeth yn cynnwys y tir sydd i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, yr holl ffordd o Lyn Galilea i'r Môr Marw. Yna o Beth-ieshimoth yn y dwyrain i lawr i'r de, cyn belled â llethrau Mynydd Pisga. | |
Josh | WelBeibl | 12:4 | Og, brenin Bashan – un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl. Roedd Og yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei, | |
Josh | WelBeibl | 12:5 | a'i diriogaeth yn ymestyn o Fynydd Hermon i Salca yn y gogledd; Bashan yn y dwyrain i'r ffin gyda theyrnasoedd Geshwr a Maacha yn y gorllewin; a hanner arall Gilead at y ffin gyda theyrnas Sihon, oedd yn frenin yn Cheshbon. | |
Josh | WelBeibl | 12:6 | Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, a phobl Israel wedi'u trechu nhw a rhannu eu tiroedd nhw rhwng llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse. | |
Josh | WelBeibl | 12:7 | A dyma'r brenhinoedd wnaeth Josua a phobl Israel eu trechu i'r gorllewin o afon Iorddonen – o Baal-gad yn Nyffryn Libanus yn y gogledd i lawr i Fynydd Halac i gyfeiriad Edom yn y de. (Rhannodd Josua y tiroedd yma i gyd rhwng llwythau Israel. | |
Josh | WelBeibl | 12:8 | Roedd yn cynnwys y bryniau a'r iseldir, y tir anial, y llethrau, anialwch Jwda a'r Negef, sef tiroedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid): | |