JUDGES
Chapter 10
Judg | WelBeibl | 10:1 | Ar ôl i Abimelech farw, dyma Tola, mab Pwa ac ŵyr Dodo, yn codi i achub Israel. Roedd yn perthyn i lwyth Issachar ac yn byw yn Shamîr ym mryniau Effraim. | |
Judg | WelBeibl | 10:2 | Bu'n arwain Israel am ddau ddeg tair o flynyddoedd. Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn Shamîr. | |
Judg | WelBeibl | 10:3 | Ar ôl Tola, dyn o'r enw Jair o Gilead wnaeth arwain Israel am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. | |
Judg | WelBeibl | 10:4 | Roedd gan Jair dri deg o feibion ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun, ac roedd pob un yn rheoli tref yn Gilead. Mae'r trefi yma yn Gilead yn dal i gael eu galw yn Hafoth-jair hyd heddiw. | |
Judg | WelBeibl | 10:6 | Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n addoli delwau o Baal a'r dduwies Ashtart, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a'r Philistiaid. Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD ac wedi stopio'i addoli e! | |
Judg | WelBeibl | 10:7 | Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. Dyma fe'n gadael i'r Philistiaid a'r Ammoniaid eu rheoli. | |
Judg | WelBeibl | 10:8 | Roedden nhw'n curo a cham-drin pobl Israel yn ddidrugaredd. Bu pobl Israel oedd yn byw ar dir yr Amoriaid, i'r dwyrain o afon Iorddonen (sef Gilead), yn dioddef am un deg wyth o flynyddoedd. | |
Judg | WelBeibl | 10:9 | Wedyn dyma'r Ammoniaid yn croesi'r Iorddonen i ymladd gyda llwythau Jwda, Benjamin ac Effraim. Roedd hi'n argyfwng go iawn ar Israel. | |
Judg | WelBeibl | 10:10 | Yna dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD a dweud, “Dŷn ni wedi pechu yn dy erbyn di! Dŷn ni wedi troi cefn ar ein Duw ac addoli delwau Baal.” | |
Judg | WelBeibl | 10:11 | A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Yr Eifftiaid, yr Amoriaid, yr Ammoniaid, y Philistiaid, | |
Judg | WelBeibl | 10:12 | y Sidoniaid, yr Amaleciaid, y Midianiaid…, mae pob un ohonyn nhw wedi'ch cam-drin chi. A phan oeddech chi'n gweiddi arna i am help, roeddwn i'n eich achub chi. | |
Judg | WelBeibl | 10:13 | Ond dw i ddim yn mynd i'ch achub chi eto. Dych chi wedi troi cefn arna i a mynd ar ôl duwiau eraill. | |
Judg | WelBeibl | 10:15 | Dyma bobl Israel yn dweud, “Dŷn ni wedi pechu. Ti'n iawn i'n cosbi ni. Ond plîs achub ni heddiw!” | |
Judg | WelBeibl | 10:16 | Yna dyma bobl Israel yn cael gwared â'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw, a dechrau addoli'r ARGLWYDD eto. Yn y diwedd, roedd yr ARGLWYDD wedi blino gweld pobl Israel yn dioddef. | |
Judg | WelBeibl | 10:17 | Roedd byddin yr Ammoniaid yn paratoi i fynd i ryfel ac wedi gwersylla yn Gilead, tra oedd byddin Israel yn gwersylla yn Mitspa. | |