Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JUDGES
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21
Prev Up Next
Chapter 2
Judg WelBeibl 2:1  Dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd o Gilgal i Bochîm gyda neges i bobl Israel: “Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, a'ch arwain chi i'r tir roeddwn i wedi addo'i roi i'ch hynafiaid. Dwedais wrthoch chi, ‘Wna i byth dorri'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda chi.
Judg WelBeibl 2:2  Ond rhaid i chi beidio gwneud cytundeb heddwch â'r bobl sy'n byw yn y wlad yma, a rhaid i chi ddinistrio'r allorau lle maen nhw'n addoli eu duwiau.’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i. Pam hynny?
Judg WelBeibl 2:3  Rôn i wedi'ch rhybuddio chi, ‘Os wnewch chi ddim gwrando, fydda i ddim yn gyrru'r Canaaneaid allan o'ch blaen chi. Byddan nhw'n fygythiad cyson, a byddwch yn cael eich denu gan eu duwiau nhw.’”
Judg WelBeibl 2:4  Pan oedd angel yr ARGLWYDD wedi dweud hyn wrth bobl Israel, dyma nhw'n torri allan i grio'n uchel.
Judg WelBeibl 2:5  Dyma nhw'n galw'r lle yn Bochîm, ac yn cyflwyno aberthau i'r ARGLWYDD.
Judg WelBeibl 2:6  Ar ôl i Josua adael i bobl Israel fynd, y bwriad oedd iddyn nhw i gyd feddiannu'r tir oedd wedi cael ei roi iddyn nhw.
Judg WelBeibl 2:7  Tra oedd Josua'n fyw roedden nhw wedi addoli'r ARGLWYDD. Ac roedden nhw wedi dal ati i'w addoli pan oedd yr arweinwyr eraill o'r un genhedlaeth yn dal yn fyw – y dynion oedd wedi gweld drostyn nhw eu hunain y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD dros bobl Israel.
Judg WelBeibl 2:8  Ond yna dyma Josua fab Nwn, gwas yr ARGLWYDD, yn marw, yn gant a deg.
Judg WelBeibl 2:9  Cafodd ei gladdu ar ei dir ei hun, yn Timnath-cheres ym mryniau Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaash.
Judg WelBeibl 2:10  Pan oedd y genhedlaeth yna i gyd wedi mynd, daeth cenhedlaeth ar eu holau oedd ddim wedi cael profiad personol o'r ARGLWYDD nac wedi gweld drostyn nhw eu hunain beth wnaeth e dros Israel.
Judg WelBeibl 2:11  Yna dyma bobl Israel yn gwneud rhywbeth gwirioneddol ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: addoli delwau o Baal.
Judg WelBeibl 2:12  Dyma nhw'n troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, wnaeth eu hachub nhw o wlad yr Aifft, a dechrau addoli duwiau'r bobloedd o'u cwmpas. Roedd Duw wedi digio go iawn!
Judg WelBeibl 2:13  Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, a dechrau addoli Baal a'r delwau o'r dduwies Ashtart. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel!
Judg WelBeibl 2:14  Dyma fe'n gadael i ladron ddwyn oddi arnyn nhw. Roedd y gelynion o'u cwmpas nhw yn gallu gwneud beth fynnen nhw! Doedden nhw'n gallu gwneud dim i'w rhwystro.
Judg WelBeibl 2:15  Pan oedd Israel yn mynd allan i ymladd, roedd yr ARGLWYDD yn eu herbyn nhw! Roedd e wedi rhybuddio mai dyna fyddai'n ei wneud. Roedd hi'n argyfwng go iawn arnyn nhw.
Judg WelBeibl 2:16  Yna dyma'r ARGLWYDD yn codi arweinwyr i achub pobl Israel o ddwylo eu gelynion.
Judg WelBeibl 2:17  Ond doedden nhw ddim yn gwrando ar eu harweinwyr. Roedden nhw'n puteinio drwy roi eu hunain i dduwiau eraill a'u haddoli nhw. Roedden nhw'n rhy barod i grwydro oddi ar y llwybr roedd eu hynafiaid wedi'i ddilyn. Roedd eu hynafiaid wedi bod yn ufudd i orchmynion yr ARGLWYDD, ond doedden nhw ddim.
Judg WelBeibl 2:18  Wrth i bobl Israel riddfan am fod y gelynion yn eu cam-drin nhw, roedd yr ARGLWYDD yn teimlo drostyn nhw. Roedd yn dewis arweinwyr iddyn nhw, ac yn helpu'r arweinwyr hynny i'w hachub o ddwylo eu gelynion. Wedyn roedd popeth yn iawn tra oedd yr arweinydd yn fyw,
Judg WelBeibl 2:19  ond ar ôl i'r arweinydd farw, byddai'r genhedlaeth nesaf yn ymddwyn yn waeth na'r un o'i blaen. Bydden nhw'n mynd yn ôl i addoli duwiau eraill ac yn gweddïo arnyn nhw. Roedden nhw mor ystyfnig, ac yn gwrthod stopio gwneud drwg.
Judg WelBeibl 2:20  Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. “Mae'r genedl yma wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda'u hynafiaid nhw. Maen nhw wedi gwrthod gwrando arna i,
Judg WelBeibl 2:21  felly o hyn ymlaen wna i ddim gyrru allan y bobloedd hynny oedd yn dal heb eu concro pan fuodd Josua farw.
Judg WelBeibl 2:22  Cawson nhw eu gadael i brofi Israel. Rôn i eisiau gweld fyddai'r bobl yn ufuddhau i'r ARGLWYDD fel roedd eu hynafiaid wedi gwneud.”
Judg WelBeibl 2:23  Dyna'r rheswm pam wnaeth yr ARGLWYDD ddim gyrru'r bobloedd yna allan yn syth, na gadael i Josua eu concro nhw i gyd.