Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PHILEMON
1
Chapter 1
Phil WelBeibl 1:1  Llythyr gan Paul, sydd yn y carchar dros achos y Meseia Iesu. Mae'r brawd Timotheus yn anfon ei gyfarchion hefyd. At Philemon, ein ffrind annwyl sy'n gweithio gyda ni.
Phil WelBeibl 1:2  A hefyd at ein chwaer Apffia, ac at Archipus sy'n gyd-filwr dros achos Iesu gyda ni. Cofia ni hefyd at bawb arall yn yr eglwys sy'n cyfarfod yn dy gartref di.
Phil WelBeibl 1:3  Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
Phil WelBeibl 1:4  Fy ffrind annwyl, dw i'n diolch i Dduw amdanat ti bob tro dw i'n gweddïo drosot ti.
Phil WelBeibl 1:5  Dw i wedi clywed am dy ffyddlondeb di i'r Arglwydd Iesu ac am y ffordd rwyt ti'n gofalu am bawb arall sy'n credu ynddo.
Phil WelBeibl 1:6  Dw i'n gweddïo y bydd dy haelioni di wrth rannu gydag eraill yn cynyddu wrth i ti ddod i ddeall yn well gymaint o fendithion sydd gynnon ni yn ein perthynas â'r Meseia.
Phil WelBeibl 1:7  Mae dy gariad di wedi bod yn galondid ac yn achos llawenydd mawr i mi, ffrind annwyl, ac rwyt ti wedi bod yn gyfrwng i galonogi'r Cristnogion eraill hefyd.
Phil WelBeibl 1:8  Dyna pam dw i am ofyn ffafr i ti. Gallwn i siarad yn blaen a dweud wrthot ti beth i'w wneud, gan bod yr awdurdod wedi'i roi i mi gan y Meseia.
Phil WelBeibl 1:9  Ond am fy mod i'r math o berson ydw i – Paul yr hen ddyn bellach, ac yn y carchar dros achos y Meseia Iesu – mae'n well gen i apelio atat ti ar sail cariad.
Phil WelBeibl 1:10  Dw i'n apelio ar ran Onesimws, sydd fel mab i mi yn y ffydd. Ydw, dw i wedi'i arwain e i gredu tra dw i wedi bod yma yn y carchar.
Phil WelBeibl 1:11  ‛Defnyddiol‛ ydy ystyr ei enw, ac mae'n haeddu'r enw bellach, er mai ‛diwerth‛ fyddai'r enw gorau iddo o'r blaen. A bellach mae'n ddefnyddiol i mi yn ogystal ag i ti.
Phil WelBeibl 1:12  Er ein bod ni wedi dod yn ffrindiau mor glòs dw i'n ei anfon yn ôl atat ti.
Phil WelBeibl 1:13  Byddwn i wrth fy modd yn ei gadw yma, iddo fy helpu i ar dy ran di tra dw i mewn cadwyni dros y newyddion da.
Phil WelBeibl 1:14  Ond dy ddewis di fyddai hynny a byddai'n rhaid i ti gytuno – dw i ddim am dy orfodi di i wneud dim byd.
Phil WelBeibl 1:15  Mae'n bosib mai'r rheswm pam gawsoch chi eich gwahanu am ychydig oedd er mwyn i ti ei gael yn ôl am byth!
Phil WelBeibl 1:16  Dim fel caethwas o hyn ymlaen, ond yn llawer gwell na hynny – fel ffrind annwyl sy'n credu yn Iesu Grist yr un fath â ti. Mae wedi bod yn werthfawr iawn i mi, ond bydd yn fwy gwerthfawr fyth i ti, fel gwas ac fel brawd sydd fel ti yn credu yn yr Arglwydd.
Phil WelBeibl 1:17  Felly os wyt ti'n cyfri dy fod yn bartner i mi, rho'r un croeso i Onesimws ag a fyddet ti'n ei roi i mi.
Phil WelBeibl 1:18  Os gwnaeth e unrhyw ddrwg i ti neu os oes arno rywbeth i ti, gwnaf i ei dalu'n ôl i ti.
Phil WelBeibl 1:19  Dw i'n ysgrifennu'r peth ac yn ei lofnodi fy hun: Gwna i ei dalu yn ôl, Paul. (Gobeithio bod dim rhaid i mi dy atgoffa di fod arnat ti dy fywyd i mi!)
Phil WelBeibl 1:20  Gwna hyn i mi fel ffordd o wasanaethu'r Arglwydd. Fy ffrind annwyl sy'n dilyn y Meseia, wnei di godi nghalon i?
Phil WelBeibl 1:21  Dw i'n ysgrifennu atat ti am fy mod i'n hollol siŵr y gwnei di beth dw i'n ei ofyn, a mwy na hynny.
Phil WelBeibl 1:22  Un peth arall: Cadw ystafell yn rhydd i mi. Dw i wir yn gobeithio y bydd Duw wedi ateb eich gweddïau chi, ac y bydda i'n cael dod i'ch gweld chi.
Phil WelBeibl 1:23  Mae Epaffras, sydd gyda mi yn y carchar dros achos y Meseia Iesu, yn anfon ei gyfarchion.
Phil WelBeibl 1:24  A'r lleill sy'n gweithio gyda mi hefyd, sef Marc, Aristarchus, Demas a Luc.
Phil WelBeibl 1:25  Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist!