Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
DEUTERONOMY
Prev Up Next
Chapter 30
Deut WelBeibl 30:1  “Pan fyddwch chi wedi profi'r holl fendithion a melltithion yma dw i'n eu gosod o'ch blaen chi, byddwch chi'n meddwl eto am beth ddwedais i pan fyddwch yn y gwledydd lle bydd yr ARGLWYDD eich Duw wedi'ch gyrru chi.
Deut WelBeibl 30:2  Wedyn, os byddwch chi a'ch disgynyddion yn troi'n ôl at yr ARGLWYDD eich Duw, ac yn bod yn ufudd iddo â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, fel dw i'n gorchymyn i chi heddiw,
Deut WelBeibl 30:3  bydd yr ARGLWYDD yn teimlo trueni drosoch chi ac yn gadael i chi lwyddo eto. Bydd yn eich casglu chi oddi wrth y bobl roedd e wedi'ch gwasgaru chi i'w canol nhw.
Deut WelBeibl 30:4  Hyd yn oed os byddwch chi wedi cael eich gyrru i ben draw'r byd, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn dod â chi yn ôl.
Deut WelBeibl 30:5  Bydd e'n dod â chi i gymryd yn ôl y wlad wnaeth eich hynafiaid ei meddiannu. Byddwch yn fwy llwyddiannus, a bydd mwy ohonoch chi nag oedd bryd hynny!
Deut WelBeibl 30:6  Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich newid chi o'r tu mewn, i'ch gwneud chi a'ch disgynyddion yn bobl go iawn iddo. Byddwch yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, ac yn cael bywyd!
Deut WelBeibl 30:7  “Ond bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn melltithio'ch gelynion – y bobl hynny sy'n eich casáu chi ac yn eich erlid chi.
Deut WelBeibl 30:8  Bydd yn ddechrau newydd i chi! Byddwch yn gwrando ar yr ARGLWYDD, ac yn cadw'r gorchmynion dw i wedi'u rhoi i chi heddiw.
Deut WelBeibl 30:9  Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud i bopeth wnewch chi lwyddo. Byddwch chi'n cael lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael rhai bach, a bydd cynnyrch y tir yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw wrth ei fodd gyda chi, ac yn gwneud i chi lwyddo, fel roedd e wrth ei fodd gyda'ch hynafiaid chi,
Deut WelBeibl 30:10  dim ond i chi fod yn ufudd iddo, a chadw'r gorchmynion a'r rheolau sydd wedi'u hysgrifennu yn sgrôl y Gyfraith yma. Ond rhaid i chi droi ato â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.
Deut WelBeibl 30:11  “Dydy beth dw i'n ei orchymyn i chi heddiw ddim yn anodd i'w ddeall, nac yn amhosib i'w gyrraedd.
Deut WelBeibl 30:12  Dydy e ddim yn y nefoedd, fel bod rhaid i rywun ofyn, ‘Pwy wnaiff fynd i fyny i'r nefoedd i'w gael i ni, a'i gyhoeddi er mwyn i ni wneud beth mae'n ddweud?’
Deut WelBeibl 30:13  A dydy e ddim ym mhen draw'r byd, fel bod rhaid gofyn, ‘Pwy wnaiff fynd dros y môr i'w gael i ni, a'i gyhoeddi er mwyn i ni wneud beth mae'n ddweud?’
Deut WelBeibl 30:14  Mae'r gorchmynion gen ti wrth law; ti'n eu deall ac yn gallu'u dyfynnu ar y cof. Felly gwna beth maen nhw'n ddweud.
Deut WelBeibl 30:15  “Edrychwch! Dw i wedi rhoi dewis i chi heddiw – bywyd a llwyddiant, neu farwolaeth a dinistr.
Deut WelBeibl 30:16  Beth dw i'n ei orchymyn i chi ydy i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a chadw'i orchmynion, ei reolau, a'i ganllawiau. Wedyn byddwch chi'n byw ac yn llwyddo, a bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd.
Deut WelBeibl 30:17  “Ond os byddwch chi'n troi oddi wrtho a gwrthod gwrando arno, ac yn cael eich denu i addoli duwiau eraill,
Deut WelBeibl 30:18  dw i'n eich rhybuddio chi, byddwch chi'n cael eich dinistrio! Gewch chi ddim aros yn hir iawn yn y wlad dych chi'n croesi afon Iorddonen i'w chymryd.
Deut WelBeibl 30:19  “Dw i'n galw'r nefoedd a'r ddaear yn dystion yn eich erbyn chi. Dw i'n gosod dewis o'ch blaen chi – bywyd neu farwolaeth, bendith neu felltith. Felly dewiswch fywyd, a chewch chi a'ch disgynyddion fyw!
Deut WelBeibl 30:20  Rhaid i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, gwrando ar beth mae e'n ddweud ac aros yn ffyddlon iddo. Fe ydy'r un sy'n rhoi bywyd, a fe fydd yn eich galluogi chi i fyw yn y wlad wnaeth e addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi, Abraham, Isaac a Jacob.”