Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next
Chapter 2
Ezek WelBeibl 2:1  Dyma'r llais yn dweud, “Ddyn, saf ar dy draed; dw i eisiau siarad â ti.”
Ezek WelBeibl 2:2  Dyma ysbryd yn dod i mewn i mi a gwneud i mi sefyll ar fy nhraed. A dyma'r llais oedd yn siarad â mi
Ezek WelBeibl 2:3  yn dweud: “Ddyn, dw i'n dy anfon di at bobl Israel. Maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i – nhw a'u hynafiaid hefyd.
Ezek WelBeibl 2:4  Maen nhw'n bobl benstiff ac ystyfnig. Rwyt i ddweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud.’
Ezek WelBeibl 2:5  Os byddan nhw'n gwrando neu beidio – wedi'r cwbl maen nhw'n griw o rebeliaid – byddan nhw o leia'n gwybod fod proffwyd wedi bod gyda nhw.
Ezek WelBeibl 2:6  “Ond paid dychryn pan fyddan nhw'n dy fygwth di. Bydd fel cael mieri a drain o dy gwmpas di ym mhobman, neu eistedd yng nghanol sgorpionau – ond paid ti bod ag ofn wrth iddyn nhw fygwth ac edrych yn gas arnat ti.
Ezek WelBeibl 2:7  Dwed di wrthyn nhw beth ydy'r neges gen i, os ydyn nhw am wrando neu beidio. Maen nhw'n griw anufudd.
Ezek WelBeibl 2:8  Gwna di'n siŵr dy fod ti'n gwrando arna i. Paid ti â thynnu'n groes. Agor dy geg a bwyta'r hyn dw i'n ei roi i ti.”
Ezek WelBeibl 2:9  A dyna pryd gwelais i law wedi'i hestyn allan ata i. Roedd y llaw yn dal sgrôl.
Ezek WelBeibl 2:10  Dyma'r sgrôl yn cael ei hagor o mlaen i. Roedd ysgrifen ar y ddwy ochr – a'r teitl oedd “Caneuon o alar, tristwch a gwae”.