EZEKIEL
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
Chapter 38
Ezek | WelBeibl | 38:2 | “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Gog o dir Magog, sef y tywysog sy'n teyrnasu dros Meshech a Twbal. Proffwyda yn ei erbyn, | |
Ezek | WelBeibl | 38:3 | a dweud: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Gog, tywysog Meshech a Twbal. | |
Ezek | WelBeibl | 38:4 | Dw i'n mynd i dy droi di rownd, rhoi bachyn yn dy ên, a dy arwain di a dy fyddin i ryfel – gyda dy geffylau a dy farchogion arfog, yn dyrfa enfawr yn cario tarianau mawr a bach ac yn chwifio'u cleddyfau. | |
Ezek | WelBeibl | 38:5 | Bydd byddinoedd Persia, dwyrain Affrica a Libia gyda nhw. Hwythau hefyd wedi'u harfogi gyda tharianau a helmedau. | |
Ezek | WelBeibl | 38:6 | Hefyd Gomer a'i byddin, a Beth-togarma o'r gogledd pell, a llawer o bobloedd eraill. | |
Ezek | WelBeibl | 38:8 | Ar ôl amser hir, byddi'n cael dy alw i wlad Israel. Gwlad wedi'i hadfer ar ôl cael ei dinistrio gan ryfel. Gwlad â'i phobl wedi'u casglu at ei gilydd ar y mynyddoedd oedd wedi bod yn anial am amser hir. Pobl wedi dod adre ac yn teimlo'n saff yn eu gwlad. | |
Ezek | WelBeibl | 38:9 | Byddi'n ymosod arnyn nhw fel storm. Byddi di a dy fyddin, a byddinoedd yr holl wledydd eraill, fel cwmwl du yn dod dros y wlad.” | |
Ezek | WelBeibl | 38:10 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny byddi di'n cael syniad, ac yn cynllwynio i wneud drwg. | |
Ezek | WelBeibl | 38:11 | “Dw i am ymosod ar Israel. Gwlad o drefi heb waliau na giatiau a barrau i'w hamddiffyn! Fydd ei phobl ddim yn disgwyl y peth; maen nhw'n teimlo mor saff! | |
Ezek | WelBeibl | 38:12 | Dw i'n mynd i ysbeilio a rheibio'r bobl sydd wedi'u casglu at ei gilydd o'r gwledydd, yn byw lle roedd adfeilion, yn ffermio gwartheg a marchnata, ac yn meddwl mai nhw ydy canolbwynt y byd!” | |
Ezek | WelBeibl | 38:13 | Bydd Sheba a Dedan a marchnatwyr Tarshish yn gofyn, “Wyt ti wedi dod i ysbeilio? Wyt ti wedi casglu dy fyddin i reibio'r wlad – cymryd yr arian a'r aur, y gwartheg a phopeth arall sydd ganddyn nhw?”’ | |
Ezek | WelBeibl | 38:14 | “Felly ddyn, proffwyda a dywed wrth Gog: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny, pan fydd fy mhobl Israel yn teimlo'n saff, bydd rhywbeth yn tynnu dy sylw. | |
Ezek | WelBeibl | 38:15 | Byddi'n gadael dy wlad yn y gogledd pell, ac yn dod gyda thyrfa enfawr – dy gafalri a dy fyddin fawr. | |
Ezek | WelBeibl | 38:16 | Byddi'n dod fel cwmwl du dros y wlad. Ac yn y dyfodol pan fydd hyn yn digwydd, Gog, bydd y gwledydd i gyd yn cydnabod pwy ydw i. Bydd beth fydd yn digwydd i ti, Gog, yn dangos yn glir iddyn nhw mor wych ydw i. | |
Ezek | WelBeibl | 38:17 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ai ti ydy'r un gwnes i sôn amdano yn y gorffennol drwy fy ngweision y proffwydi yn Israel? Roedden nhw'n proffwydo yn bell yn ôl, flwyddyn ar ôl blwyddyn, y byddwn i'n dod â ti yn eu herbyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 38:18 | “‘“Y diwrnod hwnnw, pan fydd Gog yn ymosod ar wlad Israel, bydda i wedi cynhyrfu, a gwylltio'n lân. | |
Ezek | WelBeibl | 38:19 | Bydd tân fy ffyrnigrwydd yn llosgi. Bydd daeargryn yn ysgwyd gwlad Israel bryd hynny. | |
Ezek | WelBeibl | 38:20 | Bydd pawb a phopeth yn crynu mewn ofn o mlaen i – pysgod, adar, anifeiliaid gwyllt, creaduriaid bach a phryfed, a phob person byw! Bydd y mynyddoedd yn cael eu bwrw i lawr, y clogwyni'n dryllio a phob wal sydd wedi'i hadeiladu yn syrthio. | |
Ezek | WelBeibl | 38:21 | Bydda i'n galw am gleddyf i ymosod arnat ti ar fynyddoedd Israel, Gog,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Bydd dy filwyr yn dechrau ymladd yn erbyn ei gilydd. | |
Ezek | WelBeibl | 38:22 | Bydda i'n barnu Gog gydag afiechydon ofnadwy, a thrais. Bydd storm yn arllwys i lawr arno fe a'i fyddin, a phawb arall sydd gyda nhw – cenllysg, tân a lafa. | |