Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 26
Ezek WelBeibl 26:1  Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:
Ezek WelBeibl 26:2  “Ddyn, dyma mae Tyrus wedi bod yn ei ddweud am Jerwsalem: ‘Hwrê! Mae'r giât i'r ddinas fasnach ryngwladol wedi'i dryllio! Bydda i'n cael ei busnes! Dw i'n mynd i fod yn gyfoethog! Ydy, mae hi wedi'i dinistrio.’
Ezek WelBeibl 26:3  “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch eich hunain! Dw i'n mynd i ddelio gyda chi! O, Tyrus! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod yn dy erbyn di fel tonnau gwyllt y môr.
Ezek WelBeibl 26:4  Byddan nhw'n dinistrio dy waliau ac yn bwrw'r tyrau amddiffynnol i lawr.’ Bydda i'n clirio'r rwbel oddi arni ac yn gadael dim ar ôl ond craig noeth.
Ezek WelBeibl 26:5  Bydd fel ynys yng nghanol y môr, yn dda i ddim ond i daenu rhwydau pysgota. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. Bydd byddinoedd o wledydd eraill yn concro Tyrus,
Ezek WelBeibl 26:6  a bydd y pentrefi yn yr ardal o'i chwmpas yn cael eu dinistrio yn y rhyfel. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 26:7  “Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch chi! Dw i'n dod â'r brenin Nebwchadnesar, yr un sy'n frenin ar frenhinoedd, i lawr o Babilon yn y gogledd, a bydd yn ymosod ar Tyrus. Bydd ganddo geffylau, cerbydau rhyfel, marchogion a byddin enfawr.
Ezek WelBeibl 26:8  Bydd yn dinistrio'r pentrefi gwledig o dy gwmpas di. Wedyn bydd yn codi tyrau gwarchae a rampiau i ymosod arnat ti. Bydd llu o filwyr gyda'u tarianau yn dod yn dy erbyn di!
Ezek WelBeibl 26:9  Bydd yn bwrw dy waliau gyda'i hyrddod rhyfel ac yn chwalu dy dyrau amddiffynnol gyda'i arfau haearn.
Ezek WelBeibl 26:10  Bydd y llwch fydd yn cael ei godi gan yr holl geffylau rhyfel yn dy orchuddio di! Bydd sŵn y cafalri a'r holl wagenni a cherbydau rhyfel yn ddigon i ysgwyd dy waliau di. Bydd e'n dod i mewn drwy dy giatiau yn fuddugoliaethus ar ôl i'w fyddin dorri drwy'r waliau.
Ezek WelBeibl 26:11  Bydd carnau'r ceffylau yn sathru dy strydoedd. Bydd dy bobl yn cael eu lladd â'r cleddyf, a bydd dy golofnau enwog yn cael eu bwrw i lawr.
Ezek WelBeibl 26:12  Byddan nhw'n dwyn dy gyfoeth a dy eiddo i gyd. Byddan nhw'n bwrw dy waliau i lawr ac yn dinistrio dy dai gwych. Bydd y cerrig a'r coed a'r rwbel i gyd yn cael ei daflu i'r môr.
Ezek WelBeibl 26:13  Bydda i'n rhoi taw ar dy ganeuon di, a fydd neb yn clywed sŵn dy delynau byth eto.
Ezek WelBeibl 26:14  Fydd dim ar ôl ond craig noeth. Fyddi di'n ddim byd ond lle i daenu rhwydau pysgota. Gei di byth dy adeiladu eto. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!’
Ezek WelBeibl 26:15  “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth Tyrus: ‘Bydd yr arfordir cyfan yn crynu pan fyddi di'n syrthio, a sŵn dy bobl wedi'u hanafu yn griddfan wedi'r lladdfa.
Ezek WelBeibl 26:16  Bydd llywodraethwyr yr arfordir i gyd yn camu i lawr o'u gorseddau. Byddan nhw'n tynnu eu clogynnau brenhinol a'u dillad hardd. Dychryn fydd yr unig wisg amdanyn nhw. Byddan nhw'n eistedd ar lawr yn crynu drwyddynt o achos beth fydd wedi digwydd i ti.
Ezek WelBeibl 26:17  Byddan nhw'n canu'r gân yma o alar ar dy ôl: O ddinas enwog ar y môr, rwyt wedi dy ddinistrio! Ti oedd yn rheoli'r tonnau, gyda dy bobl yn codi dychryn ar y ddynoliaeth gyfan.
Ezek WelBeibl 26:18  Ond bellach mae'r arfordir yn crynu ar ddydd dy gwymp. Mae'r ynysoedd i gyd mewn sioc am dy fod wedi mynd.’
Ezek WelBeibl 26:19  “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Bydda i'n dy wneud di yn anialwch diffaith, fel trefi sy'n adfeilion gyda neb yn byw ynddyn nhw. Bydd fel tswnami, a thithau'n cael dy foddi dan donnau gwyllt y môr.
Ezek WelBeibl 26:20  Byddi'n cael dy hun yn y Pwll – pwll marwolaeth; yn gorwedd yno gyda phobl sydd wedi marw ers talwm. Byddi'n adfeilion wedi dy gladdu yn nyfnder y ddaear. Fydd neb yn byw ynot ti, a fyddi di byth eto'n cael dy barchu ar dir y byw.
Ezek WelBeibl 26:21  Bydd dy ddiwedd yn erchyll. Fydd dim sôn amdanat ti o hynny ymlaen. Bydd pobl yn chwilio amdanat ond yn methu dod o hyd i ti.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.