Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next
Chapter 25
Ezek WelBeibl 25:2  “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu gwlad Ammon a proffwydo yn eu herbyn nhw.
Ezek WelBeibl 25:3  Dwed wrth bobl Ammon, ‘Gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD, i chi. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: “Ha, ha!” meddech chi. Roeddech chi'n chwerthin pan gafodd y deml ei dinistrio, gwlad Israel ei gadael yn anial, a phobl Jwda eu caethgludo.
Ezek WelBeibl 25:4  Ond gwyliwch chi'ch hunain! Dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n gaethweision i bobl y dwyrain. Maen nhw'n dod i godi eu pebyll a symud i fyw yn eich plith chi. Byddan nhw'n cymryd eich ffrwythau chi ac yn yfed llaeth eich preiddiau chi.
Ezek WelBeibl 25:5  Bydda i'n gwneud Rabba yn dir comin i gamelod bori arno ac Ammon yn gorlan i ddefaid. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 25:6  “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi ysgwyd dwrn a stampio'ch traed ar Israel, a dathlu a gweiddi hwrê yn sbeitlyd pan gafodd y wlad ei dinistrio,
Ezek WelBeibl 25:7  dw i'n mynd i'ch taro chi'n galed! Dw i'n mynd i adael i'r cenhedloedd eich cymryd chi. Byddwch chi'n peidio bod yn genedl. Dw i'n mynd i'ch dinistrio chi'n llwyr. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’”
Ezek WelBeibl 25:8  “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae Moab a Seir yn honni fod pobl Jwda ddim gwahanol i neb arall!
Ezek WelBeibl 25:9  Felly dyma dw i'n mynd i'w wneud iddyn nhw: dw i'n mynd i agor ffin ddwyreiniol Moab a dinistrio'r trefi hyfryd sydd yno – Beth-ieshimoth, Baal-meon a Ciriathaim.
Ezek WelBeibl 25:10  Dw i'n mynd i roi eich tir a'ch pobl yn nwylo'r llwythau o'r dwyrain. Bydd Ammon yn peidio bod yn genedl.
Ezek WelBeibl 25:11  A dw i'n mynd i farnu Moab hefyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’”
Ezek WelBeibl 25:12  “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae pobl Edom yn euog. Am eu bod wedi dal ati i ddial mor gas ar Jwda, maen nhw'n euog.’
Ezek WelBeibl 25:13  Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro Edom yn galed, a lladd pawb sy'n byw yno, pobl ac anifeiliaid. Bydd y wlad yn anialwch diffaith. Bydd pawb yn cael eu lladd yn y rhyfel, yr holl ffordd o Teman i Dedan yn y de.
Ezek WelBeibl 25:14  Bydda i'n defnyddio fy mhobl Israel i ddial ar Edom. Bydd y ffordd fyddan nhw'n delio gydag Edom yn dangos faint dw i wedi gwylltio, a bydd pobl Edom yn gwybod mai fi sy'n dial arnyn nhw, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.’”
Ezek WelBeibl 25:15  “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae'r Philistiaid wedi bod yn gwbl farbaraidd tuag at Jwda. Maen nhw wedi bod mor sbeitlyd tuag at Jwda, a bob amser wedi bod eisiau'i dinistrio hi.
Ezek WelBeibl 25:16  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwyliwch chi! Dw i'n mynd i daro'r Philistiaid yn galed. Dw i'n mynd i ladd y Cerethiaid a dinistrio pawb fydd ar ôl ar yr arfordir.
Ezek WelBeibl 25:17  Dw i'n mynd i ddial arnyn nhw a'u cosbi nhw'n wyllt. A phan fydda i'n dial, byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’”