Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 27
Ezek WelBeibl 27:2  “Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl Tyrus.
Ezek WelBeibl 27:3  Dwed wrth Tyrus, sy'n eistedd wrth borthladdoedd, ac yn ganolfan fasnachol bwysig i weddill y byd: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: O Tyrus, rwyt yn brolio mai ti ydy harddwch yn ei berffeithrwydd.
Ezek WelBeibl 27:4  Gyda dy ffiniau yng nghanol y moroedd, cest dy lunio fel y llong berffaith –
Ezek WelBeibl 27:5  dy fyrddau o goed pinwydd Senir a dy fast o goed cedrwydd Libanus.
Ezek WelBeibl 27:6  Dy rwyfau o goed derw Bashan, a dy gorff yn bren cypres, o dde Cyprus, wedi'i addurno ag ifori.
Ezek WelBeibl 27:7  Dy hwyl o liain main gorau'r Aifft wedi'i brodio'n batrymau, ac yn faner i bawb dy nabod. Y llen dros y dec yn borffor a phiws; defnydd o lannau Elisha.
Ezek WelBeibl 27:8  Arweinwyr Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr, a dynion medrus Tyrus wrth yr helm yn forwyr.
Ezek WelBeibl 27:9  Roedd arweinwyr Gebal ar dy fwrdd yn trwsio unrhyw niwed. Roedd y llongau i gyd a'u criwiau yn galw yn dy borthladdoedd i gyfnewid nwyddau.
Ezek WelBeibl 27:10  Roedd dynion o wledydd pell – Persia, Lydia a Libia – yn filwyr yn dy fyddin. Yn hongian tarian a helmed ar dy waliau; ac yn rhoi i ti enw gwych.
Ezek WelBeibl 27:11  “‘Roedd dynion Arfad a Helech yn gwarchod dy waliau, a dynion Gammad ar y tyrau amddiffynnol. Roedden nhw'n hongian eu cewyll saethau ar dy waliau, a gwneud dy harddwch yn berffaith.
Ezek WelBeibl 27:12  Roeddet ti'n masnachu gyda Tarshish bell, ac yn cyfnewid arian, haearn, tin a phlwm am dy nwyddau.
Ezek WelBeibl 27:13  Roedd Iafan, Twbal a Meshech yn cyfnewid caethweision a nwyddau pres.
Ezek WelBeibl 27:14  Beth-togarma yn cyfnewid ceffylau, meirch a mulod.
Ezek WelBeibl 27:15  Roeddet ti'n masnachu gyda phobl Rhodos, a llawer o ynysoedd eraill. Roedden nhw'n talu gydag ifori a choed eboni.
Ezek WelBeibl 27:16  Roedd Edom yn delio gyda ti am dy fod yn gwerthu cymaint o bethau gwahanol. Roedden nhw'n talu gyda meini gwerthfawr, defnydd porffor, defnydd wedi'i frodio, lliain main drud, cwrel, a rhuddem.
Ezek WelBeibl 27:17  A Jwda a gwlad Israel hefyd, yn cyfnewid gwenith o Minnith, ffigys, mêl, olew olewydd a balm.
Ezek WelBeibl 27:18  Roedd Damascus yn delio gyda ti am fod gen ti gymaint o nwyddau ac am dy fod ti mor gyfoethog. Roedden nhw'n dod â gwin o Chelbon, gwlân o Sachar,
Ezek WelBeibl 27:19  a chasgenni o win o Isal. Haearn bwrw, powdr casia a sbeisiau persawrus hefyd.
Ezek WelBeibl 27:21  Arabia a shîcs Cedar yn gwerthu ŵyn, hyrddod a geifr.
Ezek WelBeibl 27:22  Masnachwyr Sheba a Raama yn cynnig eu perlysiau gorau, meini gwerthfawr o bob math ac aur.
Ezek WelBeibl 27:23  Roedd Haran, Canne ac Eden, a masnachwyr Sheba, Ashŵr a Cilmad yn gwsmeriaid i ti hefyd,
Ezek WelBeibl 27:24  yn cynnig dillad costus, defnydd porffor, brodwaith a charpedi amryliw wedi'u clymu a'u plethu'n dynn.
Ezek WelBeibl 27:25  Roedd llongau masnach mawr yn cludo dy nwyddau ar draws y moroedd. Roeddet fel llong wedi'i llwytho'n llawn, yng nghanol y moroedd.
Ezek WelBeibl 27:26  Ond aeth dy rwyfwyr â ti i ganol storm ar y môr mawr! Daeth gwynt y dwyrain i dy ddryllio yng nghanol y moroedd.
Ezek WelBeibl 27:27  “‘Mae diwrnod dy ddryllio'n dod, a byddi'n suddo yng nghanol y môr, gyda dy gyfoeth i gyd, dy nwyddau, dy fasnach, dy forwyr, dy rwyfwyr, dy grefftwyr, dy fasnachwyr a dy filwyr – pawb sydd ar dy fwrdd.
Ezek WelBeibl 27:29  Bydd rhwyfwyr a morwyr yn gadael eu llongau a sefyll ar dir sych.
Ezek WelBeibl 27:30  Byddan nhw'n galaru'n uchel ac yn crio'n chwerw; byddan nhw'n taflu pridd ar eu pennau ac yn rholio mewn lludw.
Ezek WelBeibl 27:31  Byddan nhw'n siafio'u pennau ac yn gwisgo sachliain. Byddan nhw'n wylo'n chwerw wrth alaru ar dy ôl.
Ezek WelBeibl 27:32  Yn nadu canu cân o alar ar dy ôl: “Pwy oedd fel Tyrus, fel tŵr yng nghanol y môr?”
Ezek WelBeibl 27:33  Roedd dy nwyddau'n cael eu dadlwytho o'r moroedd, i gwrdd ag angen pobloedd. Roedd dy gyfoeth mawr a dy nwyddau yn cyfoethogi brenhinoedd i ben draw'r byd!
Ezek WelBeibl 27:34  Ond bellach rwyt yn llong wedi'i dryllio yn gorwedd ar waelod y môr. Mae dy nwyddau a'r criw i gyd wedi suddo a boddi gyda ti.
Ezek WelBeibl 27:35  Mae pobl yr arfordir i gyd wedi dychryn yn lân; brenhinoedd yn crynu mewn braw, a'r poen i'w weld ar eu hwynebau.
Ezek WelBeibl 27:36  Mae masnachwyr y gwledydd yn chwibanu mewn rhyfeddod arnat. Roedd dy ddiwedd yn erchyll a fydd dim sôn eto amdanat.’”