Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 39
Ezek WelBeibl 39:1  “Ddyn, proffwyda yn erbyn Gog, a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti Gog, tywysog Meshech a Twbal!
Ezek WelBeibl 39:2  Dw i'n mynd i dy droi di rownd, a dy lusgo di o'r gogledd pell i ymosod ar fynyddoedd Israel.
Ezek WelBeibl 39:3  Ond wedyn bydda i'n taro'r bwa o dy law dde a'r saethau o dy law chwith.
Ezek WelBeibl 39:4  Byddi di a dy filwyr, a phawb arall sydd gyda ti, yn syrthio'n farw ar fynyddoedd Israel. Byddi'n fwyd i bob math o adar rheibus ac anifeiliaid gwyllt.
Ezek WelBeibl 39:5  Byddi'n disgyn yn farw ar dir agored. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.
Ezek WelBeibl 39:6  Bydda i'n anfon tân ar Magog a'r bobl sy'n byw ar yr arfordir, ac sy'n teimlo'u bod nhw mor saff. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 39:7  Dw i ddim yn mynd i adael i fy enw sanctaidd i gael ei sarhau o hyn allan. A bydd y cenhedloedd yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel.
Ezek WelBeibl 39:8  “‘Mae'n dod! Ydy, mae'n mynd i ddigwydd!’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Dyma'r diwrnod soniais i amdano.
Ezek WelBeibl 39:9  Bydd y rhai sy'n byw yn y trefi yn Israel yn mynd allan i losgi'r arfau rhyfel i gyd – y tarianau bach a mawr, pob bwa saeth, pastwn rhyfel a gwaywffon – byddan nhw'n dal i'w llosgi am saith mlynedd!
Ezek WelBeibl 39:10  Fydd dim angen coed o gefn gwlad na thorri coed o'r fforestydd. Byddan nhw'n llosgi'r arfau. Byddan nhw'n ysbeilio a rheibio'r bobl oedd wedi'u rheibio nhw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 39:11  “‘Bydda i wedi paratoi mynwent anferth yn Israel i Gog a'i filwyr – yn Nyffryn y Teithwyr, i'r dwyrain o'r Môr Marw. Bydd y dyffryn yn cael ei gau i deithwyr, am fod Gog a'i fyddin i gyd wedi'u claddu yno. Byddan nhw'n galw'r dyffryn yn Ddyffryn Hamon-Gog o hynny ymlaen.
Ezek WelBeibl 39:12  Bydd yn cymryd saith mis i bobl Israel lanhau y tir o'r cyrff, a'u claddu nhw i gyd.
Ezek WelBeibl 39:13  Bydd pawb yn Israel yn gorfod helpu gyda'r gwaith. Bydd y diwrnod y bydda i'n dangos mor wych ydw i yn ddiwrnod mawr i bobl Israel.
Ezek WelBeibl 39:14  “‘Ar ddiwedd y saith mis bydd criwiau o ddynion yn cael eu penodi i chwilio drwy'r wlad am unrhyw gyrff sydd wedi'u gadael ar ôl, a'u claddu nhw. Byddan nhw gwneud yn siŵr fod y tir wedi'i lanhau'n gyfan gwbl.
Ezek WelBeibl 39:15  Pan fydd un o'r dynion yn dod o hyd i asgwrn dynol byddan nhw'n marcio'r fan gydag arwydd er mwyn i'r rhai sy'n eu claddu ei gymryd i ffwrdd a'i gladdu yn y fynwent dorfol yn Nyffryn Hamon-Gog.
Ezek WelBeibl 39:16  (Bydd tref o'r enw Hamonâ yno hefyd.) Byddan nhw'n glanhau'r tir.’
Ezek WelBeibl 39:17  “A ti, ddyn, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Galw'r adar a'r anifeiliaid gwyllt at ei gilydd. Dwed wrthyn nhw, “Dewch yma. Dw i wedi paratoi lladdfa – gwledd i chi ar fynyddoedd Israel! Dewch i fwyta eu cnawd ac yfed eu gwaed.
Ezek WelBeibl 39:18  Cewch fwyta cyrff milwyr ac yfed gwaed penaethiaid y gwledydd – hyrddod, ŵyn, bychod geifr, teirw, a lloi wedi'u pesgi yn Bashan.
Ezek WelBeibl 39:19  Byddwch yn stwffio eich hunain ar fraster, ac yn meddwi ar waed yn y wledd dw i wedi'i pharatoi i chi.
Ezek WelBeibl 39:20  Byddwch yn dod at fy mwrdd ac yn gwledda ar gnawd ceffylau a marchogion, arwyr a milwyr o bob math,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 39:21  “‘Bydda i'n dangos fy ysblander i'r cenhedloedd. Bydd y gwledydd i gyd yn fy ngweld i'n eu barnu nhw, ac mor rymus ydw i.
Ezek WelBeibl 39:22  O hynny ymlaen, bydd pobl Israel yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw.
Ezek WelBeibl 39:23  Bydd y cenhedloedd yn deall fod pobl Israel wedi'u cymryd yn gaeth am bechu drwy fod yn anffyddlon i mi. Felly dyma fi'n troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw ac yn gadael i'w gelynion eu lladd nhw.
Ezek WelBeibl 39:24  Dyma nhw'n cael beth roedden nhw'n ei haeddu am wneud pethau mor aflan a gwrthryfela yn fy erbyn i.’
Ezek WelBeibl 39:25  “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i adfer sefyllfa pobl Jacob, a dangos trugaredd at bobl Israel. Dw i'n mynd i ddangos fy sêl dros fy enw sanctaidd.
Ezek WelBeibl 39:26  Byddan nhw'n teimlo cywilydd go iawn am fod mor anffyddlon i mi, pan fyddan nhw'n byw yn saff yn y wlad a neb yn eu dychryn nhw.
Ezek WelBeibl 39:27  Bydda i'n dangos mor wych ydw i drwy beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Bydda i wedi dod â nhw adre o wledydd eu gelynion.
Ezek WelBeibl 39:28  Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw. Fi wnaeth eu cymryd nhw'n gaeth i'r cenhedloedd, a fi fydd yn eu casglu nhw'n ôl i'w gwlad eu hunain. Fydda i'n gadael neb ar ôl.
Ezek WelBeibl 39:29  Fydda i ddim yn troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw byth eto. Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar bobl Israel.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.