Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 24
Ezek WelBeibl 24:1  Roedd hi'r nawfed flwyddyn ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r degfed mis. A dyma fi'n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:
Ezek WelBeibl 24:2  “Ddyn, dw i eisiau i ti ysgrifennu dyddiad heddiw i lawr. Heddiw ydy'r union ddiwrnod mae brenin Babilon wedi dechrau ymosod ar Jerwsalem.
Ezek WelBeibl 24:3  Rhanna'r darlun yma gyda rebeliaid anufudd Israel: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Rho'r crochan ar y tân a'i lenwi â dŵr.
Ezek WelBeibl 24:4  Rho ddarnau o gig ynddo, y darnau gorau – y goes a'r ysgwydd. Ei lenwi gyda'r esgyrn da
Ezek WelBeibl 24:5  o'r anifeiliaid gorau. Rho bentwr o goed tân oddi tano, a berwi'r cig a'i goginio a'r esgyrn yn dal ynddo.
Ezek WelBeibl 24:6  “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae ddinas y tywallt gwaed – y crochan sy'n llawn budreddi; budreddi sy'n dal ynddo! Tynnwch y darnau allan bob yn un – sdim ots am y drefn.
Ezek WelBeibl 24:7  Mae'r gwaed dywalltwyd yn dal ynddi. Cafodd ei dywallt ar garreg i bawb ei weld, yn lle ei dywallt ar lawr i'r pridd ei lyncu.
Ezek WelBeibl 24:8  Felly dw i'n mynd i dywallt ei gwaed hi ar garreg agored, er mwyn i bawb weld faint dw i wedi digio, ac mai fi sy'n dial arni!
Ezek WelBeibl 24:9  “‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae ddinas y tywallt gwaed! Dw i'n mynd i gasglu pentwr o goed;
Ezek WelBeibl 24:10  digon o goed i wneud tanllwyth o dân! Coginio'r cig yn dda gyda digon o sbeisys. Wedyn gwagio'r crochan a llosgi'r esgyrn.
Ezek WelBeibl 24:11  Yna rhoi'r crochan gwag yn ôl ar y tân golosg, a'i boethi nes bydd y copr yn gloywi, a'r amhuredd o'i fewn yn toddi a'r budreddi yn cael ei losgi.
Ezek WelBeibl 24:12  Ond mae'r holl ymdrech i ddim pwrpas – mae'r budreddi yn dal yna! Rhaid ei losgi!
Ezek WelBeibl 24:13  “‘Yr amhuredd ydy dy ymddygiad anweddus di. Dw i wedi ceisio dy lanhau di, ond i ddim pwrpas. Fyddi di ddim yn lân eto nes bydda i wedi tywallt fy llid i gyd arnat ti.
Ezek WelBeibl 24:14  Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod! Mae'r amser wedi dod i mi wneud rhywbeth! Does dim troi'n ôl. Fydda i'n dangos dim piti, nac yn teimlo'n sori am y peth. Dw i'n mynd i dy gosbi di am y cwbl rwyt ti wedi'i wneud, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr.’”
Ezek WelBeibl 24:16  “Ddyn, dw i'n gwybod fod hyn yn mynd i fod yn ergyd galed, ond dw i'n mynd i gymryd y wraig wyt ti wedi gwirioni arni oddi arnat ti. Ond paid galaru amdani. Paid wylo. Paid colli dagrau.
Ezek WelBeibl 24:17  Byddi'n drist, ond cadwa'r peth i ti dy hun. Paid galaru'n gyhoeddus. Rho dwrban ar dy ben a sandalau ar dy draed. Paid cuddio hanner isaf dy wyneb, na derbyn bwyd gan bobl sy'n dod atat ti i gydymdeimlo.”
Ezek WelBeibl 24:18  Y noson honno buodd fy ngwraig farw. Ond y bore wedyn dyma fi'n gwneud beth ddywedwyd wrtho i, a mynd allan i bregethu.
Ezek WelBeibl 24:19  A dyma'r bobl yn gofyn i mi, “Beth ydy ystyr hyn? Pam wyt fel yma?”
Ezek WelBeibl 24:20  A dyma fi'n dweud wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r neges yma i mi:
Ezek WelBeibl 24:21  “Dwed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddinistrio'r deml – ie, y deml sy'n gwneud i chi deimlo mor siŵr ohonoch chi'ch hunain, yr un dych chi wedi gwirioni'n lân arni. Bydd y plant gafodd eu gadael ar ôl yn Jwda yn cael eu lladd.
Ezek WelBeibl 24:22  Rhaid i chi wneud yr un fath â fi. Peidio cuddio hanner isaf yr wyneb na derbyn bwyd gan bobl sydd eisiau cydymdeimlo.
Ezek WelBeibl 24:23  Gwisgo twrban ar eich pennau a sandalau ar eich traed. Peidio galaru na wylo. Ond byddwch chi'n gwywo o'ch mewn, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi'i wneud.
Ezek WelBeibl 24:24  Dw i'n defnyddio Eseciel fel darlun i ddysgu gwers i chi. Rhaid i chi wneud yr un fath. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r Meistr, yr ARGLWYDD.’
Ezek WelBeibl 24:25  “A ti, ddyn, dyma fydd yn digwydd i ti ar y diwrnod y bydda i'n cymryd y ddinas sy'n eu gwneud nhw mor hapus oddi arnyn nhw, a'r deml maen nhw a'u plant wedi gwirioni'n lân arni:
Ezek WelBeibl 24:26  Ar y diwrnod hwnnw bydd ffoadur fydd wedi llwyddo i ddianc yn dod atat ti i ddweud beth ddigwyddodd.
Ezek WelBeibl 24:27  A byddi di'n cael siarad yn rhydd eto. Byddi'n siarad â'r un wnaeth ddianc, a ddim yn gorfod cadw'n dawel ddim mwy. Dw i'n dy ddefnyddio di fel darlun i ddysgu gwers i bobl Israel, iddyn nhw ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD.”