Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 7
Ezek WelBeibl 7:2  “Ddyn, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth Israel: Mae'r diwedd yn dod! Mae'r diwedd yn dod ar y wlad gyfan!
Ezek WelBeibl 7:3  Dw i wedi digio go iawn. Dw i'n mynd i'ch cosbi chi am y ffordd dych chi wedi ymddwyn. Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am yr holl bethau ffiaidd dych chi wedi'u gwneud.
Ezek WelBeibl 7:4  Fydd yna ddim trugaredd i chi! Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am eich ymddygiad, a bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau y pethau ffiaidd wnaethoch chi. Byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 7:5  “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae yna drychineb ofnadwy yn dod, un heb ei thebyg.
Ezek WelBeibl 7:6  Mae'r diwedd yn dod! Mae'n dod go iawn! Mae hi ar ben arnoch chi!
Ezek WelBeibl 7:7  Mae'r farn yn dod ar bawb sy'n byw yn y wlad yma! Mae hi ar ben! Mae'r diwrnod mawr yn agos! Bydd sŵn pobl yn gweiddi mewn panig ar y mynyddoedd yn lle sŵn pobl yn dathlu ac yn cael hwyl.
Ezek WelBeibl 7:8  Dw i'n mynd i dywallt fy llid arnoch chi nawr. Cewch weld gymaint dw i wedi gwylltio. Dw i'n mynd i'ch cosbi chi am y ffordd dych chi wedi ymddwyn. Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am yr holl bethau ffiaidd dych chi wedi'u gwneud.
Ezek WelBeibl 7:9  Fydd yna ddim trugaredd! Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am eich ymddygiad, a bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau y pethau ffiaidd wnaethoch chi. Byddwch chi'n deall wedyn mai fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi'ch taro chi.
Ezek WelBeibl 7:10  “Edrychwch! Y diwrnod mawr! Mae'r farn ar ei ffordd! Mae anghyfiawnder a drygioni wedi blodeuo!
Ezek WelBeibl 7:11  Mae trais wedi troi'n wialen i gosbi drygioni. Fydd neb ar ôl – neb o'r werin, neb o'r cyfoethog, neb o'r pwysigion.
Ezek WelBeibl 7:12  Mae'n amser! Mae'r diwrnod wedi dod! Fydd y prynwr ddim yn dathlu, na'r gwerthwr yn drist. Mae Duw wedi digio gyda phawb.
Ezek WelBeibl 7:13  Fydd y gwerthwr ddim yn cael yr eiddo'n ôl. Mae beth mae Duw wedi'i ddweud yn mynd i ddigwydd. Bydd pawb yn cael eu cosbi am eu pechod.
Ezek WelBeibl 7:14  “Mae'r utgorn yn galw pawb i fod yn barod, ond does dim ymateb a does neb yn paratoi i ymladd. Mae fy nigofaint i wedi'u parlysu nhw.
Ezek WelBeibl 7:15  Mae cleddyfau'r gelyn yn barod y tu allan i waliau'r ddinas. Mae haint a newyn yn disgwyl amdanyn nhw y tu mewn. Bydd pwy bynnag sydd yng nghefn gwlad yn cael ei ladd â'r cleddyf, a bydd pawb yn y ddinas yn marw o newyn a haint.
Ezek WelBeibl 7:16  Bydd y rhai sy'n dianc yn rhedeg i'r mynyddoedd. Byddan nhw fel colomennod yn cŵan wrth alaru am eu pechodau.
Ezek WelBeibl 7:17  Fydd pobl ddim yn gwybod beth i'w wneud, a byddan nhw'n gwlychu eu hunain mewn ofn.
Ezek WelBeibl 7:18  Byddan nhw'n gwisgo sachliain, ac yn crynu mewn ofn. Bydd y cywilydd i'w weld ar eu hwynebau, a byddan nhw wedi siafio'u pennau.
Ezek WelBeibl 7:19  “Fydd aur ac arian yn golygu dim iddyn nhw. Bydd fel sbwriel ar y stryd. Fydd eu cyfoeth ddim yn eu hachub nhw ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu! A fyddan nhw ddim yn gallu prynu bwyd gydag e. Eu harian nhw wnaeth eu baglu nhw a'u harwain nhw i bechu!
Ezek WelBeibl 7:20  Roedden nhw wedi defnyddio'u tlysau hardd i wneud delwau ffiaidd – duwiau da i ddim. Ond bydd y cwbl fel sbwriel afiach.
Ezek WelBeibl 7:21  Bydda i'n ei roi yn ysbail i bobl o wledydd eraill. Bydd paganiaid drwg yn ei gymryd ac yn poeri arno.
Ezek WelBeibl 7:22  Bydda i'n edrych i ffwrdd tra maen nhw'n treisio fy nheml i. Bydd fandaliaid yn dod i mewn i'r ddinas, yn ei threisio
Ezek WelBeibl 7:23  ac yn creu hafoc llwyr. (Bydd hyn i gyd yn digwydd o achos y tywallt gwaed ofnadwy sy'n y wlad a'r creulondeb sydd yn y ddinas.)
Ezek WelBeibl 7:24  Bydd y wlad waethaf un yn dod ac yn cymryd eu tai nhw. Bydda i'n rhoi taw ar eu holl falchder ac yn dinistrio'r holl leoedd cysegredig sydd ganddyn nhw.
Ezek WelBeibl 7:25  Byddan nhw wedi'u parlysu! Byddan nhw'n ysu am heddwch, ond yn cael dim.
Ezek WelBeibl 7:26  Bydd un drychineb ar ôl y llall, a dim byd ond newyddion drwg. Fydd gan y proffwydi ddim gweledigaeth i'w gynnig. Fydd yr offeiriaid ddim yn gallu rhoi arweiniad o'r Gyfraith, a fydd yr arweinwyr gwleidyddol ddim yn gwybod beth i'w ddweud.
Ezek WelBeibl 7:27  Bydd y brenin yn gwisgo dillad galar, a bydd y bobl gyffredin mewn sioc. Bydda i'n delio gyda nhw am y ffordd maen nhw wedi bod yn byw, ac yn eu trin nhw fel roedden nhw wedi trin pobl eraill. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!”