Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 22
Ezek WelBeibl 22:2  “Wel ddyn, wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn? Wnei di farnu dinas y tywallt gwaed? Gwna iddi wynebu'r ffaith ei bod wedi gwneud pethau hollol ffiaidd!
Ezek WelBeibl 22:3  Dwed wrthi, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: O ddinas, mae cymaint o waed wedi'i dywallt ynot ti, mae dydd barn wedi dod i ti. Mae cymaint o eilun-dduwiau ynot ti, rwyt ti wedi llygru dy hun yn llwyr.
Ezek WelBeibl 22:4  Ti'n euog o lofruddiaeth ac addoli eilun-dduwiau. Ti wedi gwneud i dy ddiwedd ddod yn agos. Dw i'n mynd i dy wneud di'n destun sbort i'r gwledydd o dy gwmpas. Byddi di'n jôc drwy'r byd i gyd.
Ezek WelBeibl 22:5  Bydd pawb ym mhobman yn gwneud hwyl ar dy ben. Byddi'n enwog am dy ddrygioni a dy helyntion.
Ezek WelBeibl 22:6  “‘“Mae arweinwyr Israel sy'n byw ynot ti wedi defnyddio'i hawdurdod i dywallt gwaed.
Ezek WelBeibl 22:7  Mae yna bobl ynot ti sy'n dirmygu tad a mam, yn gormesu mewnfudwyr, ac yn cam-drin plant amddifad a gwragedd gweddwon.
Ezek WelBeibl 22:8  Mae dy bobl wedi trin y pethau sanctaidd sy'n cael eu cyflwyno i mi yn ysgafn, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i chi!
Ezek WelBeibl 22:9  Mae rhai ynot ti wedi dweud celwydd a hel clecs am bobl ac yn gyfrifol am dywallt eu gwaed. Mae eraill yn bwyta aberthau paganaidd ar y mynyddoedd, ac yn gwneud pethau hollol ffiaidd.
Ezek WelBeibl 22:10  Mae yna rai sy'n cael rhyw gyda gwraig eu tad, neu'n gorfodi gwragedd sy'n diodde o'r misglwyf i gael rhyw gyda nhw.
Ezek WelBeibl 22:11  Mae un yn cam-drin gwraig ei gymydog yn rhywiol; ac un arall yn gorfodi ei ferch-yng-nghyfraith i gael rhyw, neu'n treisio ei chwaer neu ei hanner chwaer.
Ezek WelBeibl 22:12  Mae yna rai sy'n derbyn tâl i lofruddio. Dych chi'n cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciadau, ac yn gorfodi arian oddi ar bobl. Dych chi wedi fy anghofio i,” meddai'r ARGLWYDD, y Meistr.
Ezek WelBeibl 22:13  “‘“Dw i'n ysgwyd fy nwrn arnoch chi. Mae'r holl elwa anonest yma, a'r holl dywallt gwaed yn eich plith chi yn gwneud i mi wylltio.
Ezek WelBeibl 22:14  Cawn weld faint o blwc sydd gynnoch chi! Tybed pa mor ddewr fyddwch chi pan fydda i'n delio gyda chi? Fi ydy'r ARGLWYDD, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd!
Ezek WelBeibl 22:15  Bydda i'n eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd, ac yn rhoi stop ar y cwbl.
Ezek WelBeibl 22:16  Dw i'n fodlon i'm henw da i gael ei sarhau gan y cenhedloedd o'ch achos chi. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”’”
Ezek WelBeibl 22:18  “Ddyn, mae pobl Israel fel yr amhuredd sydd ar ôl pan mae metel yn cael ei goethi mewn ffwrnais! Maen nhw fel y slag diwerth sy'n cael ei adael pan mae copr, tin, haearn a phlwm yn cael ei goethi.
Ezek WelBeibl 22:19  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi'n ddim byd ond amhuredd dw i'n mynd i'ch casglu chi at eich gilydd i ganol Jerwsalem.
Ezek WelBeibl 22:20  Dw i'n ddig, a dw i'n mynd i'ch casglu chi yno a'ch toddi chi, yn union fel mae arian, copr, haearn, plwm a tin yn cael eu rhoi mewn ffwrnais i'w toddi yn y tân.
Ezek WelBeibl 22:21  Dw i'n mynd i'ch casglu chi yno, a'ch toddi chi gyda tân fy ffyrnigrwydd!
Ezek WelBeibl 22:22  Byddwch chi'n cael eich toddi fel arian mewn ffwrnais. Byddwch chi'n sylweddoli fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tywallt fy llid ffyrnig arnoch chi!’”
Ezek WelBeibl 22:24  “Ddyn, dywed wrth Jerwsalem, ‘Pan fydda i'n dangos fy llid fydd dim glaw na hyd yn oed cawod ysgafn yn disgyn ar dy dir.’
Ezek WelBeibl 22:25  Mae ei harweinwyr yn cynllwynio fel llewod sy'n rhuo wrth rwygo'r ysglyfaeth. Maen nhw'n dwyn arian a phopeth gwerthfawr oddi ar bobl, ac yn gadael llawer o wragedd yn weddwon.
Ezek WelBeibl 22:26  Mae'r offeiriaid yn torri fy nghyfraith ac yn halogi'r pethau sanctaidd sy'n cael eu cyflwyno i mi. Dŷn nhw ddim yn gwahaniaethu rhwng y cysegredig a'r cyffredin, na rhwng y glân a'r aflan. Maen nhw'n diystyru'r Sabothau rois i iddyn nhw. Maen nhw'n pardduo fy enw i!
Ezek WelBeibl 22:27  Mae ei swyddogion fel bleiddiaid yn rheibio – yn tywallt gwaed a dinistrio bywydau – er mwyn elw anonest.
Ezek WelBeibl 22:28  Mae ei phroffwydi yn honni eu bod wedi cael gweledigaeth neu neges gan Dduw pan nad ydyn nhw go iawn. ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud,’ medden nhw. Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dweud y fath beth! Maen nhw'n meddwl fod peintio drosti yn mynd i wneud wal simsan yn saff!
Ezek WelBeibl 22:29  Mae pobl y wlad wedi bod yn gorthrymu'r bobl dlawd sydd mewn angen, a dwyn oddi arnyn nhw. Maen nhw wedi gormesu mewnfudwyr a'u trin nhw'n gwbl annheg.
Ezek WelBeibl 22:30  “Dyma fi'n edrych i weld os oedd rhywun fyddai'n trwsio'r wal ac yn sefyll yn y bwlch, fel bod dim rhaid i mi ddinistrio'r ddinas. Ond doedd neb.
Ezek WelBeibl 22:31  Felly dw i wedi tywallt fy llid arnyn nhw, a'u dinistrio nhw gyda tân fy ffyrnigrwydd. Dw i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi'i wneud.” Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.