Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 43
Ezek WelBeibl 43:1  Yna aeth â fi at y giât oedd yn wynebu'r dwyrain.
Ezek WelBeibl 43:2  Yno gwelais ysblander Duw Israel yn dod o gyfeiriad y dwyrain. Roedd ei sŵn yn debyg i sŵn rhaeadr ac roedd ei ysblander yn goleuo'r ddaear i gyd.
Ezek WelBeibl 43:3  Roedd yr un fath â'r weledigaeth ges i pan ddaeth e i ddinistrio'r ddinas, a'r un pan oeddwn i wrth Gamlas Cebar. Dyma fi'n mynd ar fy wyneb ar lawr.
Ezek WelBeibl 43:4  A dyma ysblander yr ARGLWYDD yn mynd yn ôl i mewn i'r deml drwy'r giât oedd yn wynebu'r dwyrain.
Ezek WelBeibl 43:5  Yna cododd yr ysbryd fi a mynd â fi i'r iard fewnol. A dyna lle roeddwn i yn syllu ar ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml.
Ezek WelBeibl 43:6  A dyma fi'n clywed llais yn siarad â mi o adeilad y deml. (Roedd y dyn yn dal i sefyll wrth fy ymyl i.)
Ezek WelBeibl 43:7  Dwedodd y llais: “Ddyn, dyma lle mae fy ngorsedd i a'r lle i mi orffwys fy nhraed. Bydda i'n byw yma gyda phobl Israel am byth. Fydd pobl Israel a'u brenhinoedd ddim yn sarhau fy enw sanctaidd i eto drwy eu puteindra ysbrydol na thrwy godi cofgolofnau i'w brenhinoedd pan fyddan nhw'n marw.
Ezek WelBeibl 43:8  Wrth adeiladu eu palasau drws nesa i'm teml i, gyda dim byd ond wal denau yn eu gwahanu nhw, roedden nhw'n sarhau fy enw sanctaidd i drwy'r pethau ffiaidd roedden nhw'n eu gwneud. Felly dyma fi'n eu difa nhw pan oeddwn i'n ddig.
Ezek WelBeibl 43:9  Ond nawr rhaid i'r puteinio ysbrydol stopio a rhaid i'r cofgolofnau brenhinol fynd, ac wedyn bydda i'n byw gyda nhw am byth.
Ezek WelBeibl 43:10  “Beth dw i eisiau i ti ei wneud, ddyn, ydy disgrifio'r deml rwyt ti wedi'i gweld i bobl Israel, er mwyn iddyn nhw fod â chywilydd o'u pechod. Gwna iddyn nhw astudio'r cynllun yn fanwl
Ezek WelBeibl 43:11  wedyn bydd ganddyn nhw gywilydd go iawn o beth wnaethon nhw. Dangos gynllun y deml i gyd iddyn nhw – pob mynedfa a drws, y cyfarwyddiadau a'r rheolau i gyd. Tynna lun manwl o'r cwbl iddyn nhw, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn deall y cynllun ac yn cadw'n ffyddlon ato.
Ezek WelBeibl 43:12  “A dyma beth sydd raid ei ddeall am y deml – mae'n hollol sanctaidd! Mae top y mynydd i gyd, lle mae'r deml i gael ei hadeiladu, wedi'i gysegru'n llwyr. Mae hon yn egwyddor gwbl sylfaenol.”
Ezek WelBeibl 43:13  “A dyma fesuriadau'r allor: Mae ei gwter i fod yn bum deg dwy centimetr a hanner o ddyfnder ac yn bum deg dwy centimetr a hanner o led, gydag ymyl o tua dau ddeg centimetr o'i chwmpas. Uchder yr allor ei hun
Ezek WelBeibl 43:14  o'r llawr i'r sil isaf yn un metr, a lled y sil yn bum deg dwy centimetr a hanner. Yna o'r sil gyntaf i'r ail sil, mae'n ddau fetr arall, a lled y sil honno eto yn bum deg dwy centimetr a hanner.
Ezek WelBeibl 43:15  Wedyn mae top yr allor yn ddau fetr arall eto, gyda corn yn codi o'r pedair cornel.
Ezek WelBeibl 43:16  Mae top yr allor ei hun yn chwe metr a chwarter o hyd a chwe metr a chwarter o led,
Ezek WelBeibl 43:17  gyda sil sy'n ei gwneud yn saith metr a chwarter bob ffordd. Mae'r ymyl yn ddau ddeg chwech centimetr gyda gwter bum deg dau centimetr a hanner o led o'i chwmpas. Mae'r grisiau yn mynd i fyny ati o'r ochr ddwyreiniol.”
Ezek WelBeibl 43:18  Wedyn dyma fe'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dyma'r rheolau am yr offrymau i'w llosgi a'r gwaed sydd i'w sblasio ar yr allor pan fydd wedi'i hadeiladu.
Ezek WelBeibl 43:19  Rhaid rhoi tarw ifanc yn offrwm i lanhau o bechod i'r offeiriaid o lwyth Lefi sy'n ddisgynyddion Sadoc ac sy'n dod ata i i'm gwasanaethu i.
Ezek WelBeibl 43:20  Dylid cymryd peth o'r gwaed a'i roi ar bedwar corn yr allor, ar bedair cornel y sil a reit rownd yr ymyl. Bydd yn ei gwneud yn lân ac yn iawn i'w defnyddio.
Ezek WelBeibl 43:21  Wedyn rhaid cymryd corff y tarw sy'n offrwm i lanhau o bechod a'i losgi yn y lle iawn tu allan i'r cysegr.
Ezek WelBeibl 43:22  “‘Yna ar yr ail ddiwrnod rhaid offrymu bwch gafr sydd â dim o'i le arno yn offrwm i lanhau o bechod. Byddan nhw'n glanhau yr allor, fel y gwnaethon nhw cyn offrymu'r tarw.
Ezek WelBeibl 43:23  Ar ôl ei glanhau, rhaid offrymu tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno a hefyd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno.
Ezek WelBeibl 43:24  Rhaid eu cyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid yn taenu halen arnyn nhw, ac yna eu rhoi nhw'n offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 43:25  “‘Rwyt i gyflwyno bwch gafr bob dydd am saith diwrnod, yn offrwm i lanhau o bechod, a hefyd tarw ifanc a hwrdd, y ddau yn anifeiliaid heb unrhyw beth o'i le arnyn nhw.
Ezek WelBeibl 43:26  Am saith diwrnod byddan nhw'n gwneud yr allor yn lân ac yn iawn i'w defnyddio. Dyna sut mae'r allor i gael ei chysegru.
Ezek WelBeibl 43:27  Ar ôl gwneud hynny, o'r wythfed diwrnod ymlaen bydd yr offeiriaid yn gallu cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD; a bydda i'n eich derbyn chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.”