Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next
Chapter 30
Ezek WelBeibl 30:2  “Ddyn, proffwyda a dywed: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Uda, “O na! Mae'r diwrnod wedi dod!”
Ezek WelBeibl 30:3  Ydy, mae'r diwrnod mawr yn agos; dydd barn yr ARGLWYDD! Diwrnod o gymylau duon bygythiol; amser anodd i'r gwledydd i gyd.
Ezek WelBeibl 30:4  Mae byddin yn dod i ymosod ar yr Aifft a bydd teyrnas Cwsh mewn panig wrth weld pobl yr Aifft yn syrthio'n farw, cyfoeth y wlad yn cael ei gario i ffwrdd a'i sylfeini'n cael eu dinistrio.
Ezek WelBeibl 30:5  “‘Bydd pobl o ddwyrain Affrica, Pwt, Lydia a Libia sy'n byw yn yr Aifft, a hyd yn oed pobl Israel sy'n byw yno yn cael eu lladd yn y rhyfel.’
Ezek WelBeibl 30:6  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd y rhai sy'n cefnogi'r Aifft yn syrthio. Bydd ei balchder yn ei grym yn chwilfriw! Bydd pawb yn cael eu lladd yn y brwydro yr holl ffordd o Migdol i Aswan.’” —y Meistr, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.
Ezek WelBeibl 30:7  “‘Bydd yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion.
Ezek WelBeibl 30:8  Byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n cynnau tân yn yr Aifft ac yn sathru pawb sy'n ei chefnogi.
Ezek WelBeibl 30:9  Pan fydd hynny'n digwydd bydda i'n anfon negeswyr mewn llongau i ddychryn pobl ddibryder teyrnas Cwsh. Pan glywan nhw beth sy'n digwydd i'r Aifft bydd panig yn dod drostyn nhw! Gwyliwch! Mae'n dod!’”
Ezek WelBeibl 30:10  “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddefnyddio Nebwchadnesar, brenin Babilon, i roi diwedd ar fyddin enfawr yr Aifft.
Ezek WelBeibl 30:11  Bydd e a'i fyddin, byddin y wlad fwya creulon yn y byd, yn dod i lawr i ddinistrio'r Aifft. Byddan nhw'n tynnu eu cleddyfau i ymosod, ac yn llenwi'r wlad gyda chyrff marw.
Ezek WelBeibl 30:12  Bydda i'n sychu ei ffosydd, ac yn rhoi'r wlad yn nwylo dynion drwg. Bydda i'n defnyddio byddin estron i ddinistrio'r wlad a phopeth ynddi. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!
Ezek WelBeibl 30:13  “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddinistrio dy eilunod, a chael gwared â duwiau diwerth Memffis. Fydd neb ar ôl i arwain gwlad yr Aifft. Bydd dychryn drwy'r wlad i gyd.
Ezek WelBeibl 30:14  Bydda i'n dinistrio Pathros, yn cynnau tân yn Soan ac yn cosbi Thebes.
Ezek WelBeibl 30:15  Bydda i'n tywallt fy llid ar gaer Pelwsiwm ac yn lladd holl filwyr Thebes.
Ezek WelBeibl 30:16  Ydw dw i'n mynd i gynnau tân yn yr Aifft. Bydd Pelwsiwm yn gwingo mewn poen, Thebes yn cael ei thorri i lawr a Memffis yn dioddef trais diddiwedd.
Ezek WelBeibl 30:17  Bydd milwyr ifanc Heliopolis a Bwbastis yn cael eu lladd, a'r bobl i gyd yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.
Ezek WelBeibl 30:18  Bydd hi'n ddiwrnod tywyll ar Tachpanches pan fydda i'n dod â grym gwleidyddol yr Aifft i ben. Bydd ei balchder yn ei grym wedi darfod. Bydd cwmwl yn ei gorchuddio, a bydd ei merched yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.
Ezek WelBeibl 30:19  Dw i'n mynd i farnu'r Aifft. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”
Ezek WelBeibl 30:20  Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y seithfed diwrnod o'r mis cyntaf, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:
Ezek WelBeibl 30:21  “Ddyn, dw i wedi torri braich y Pharo, brenin yr Aifft. Dydy'r fraich ddim wedi cael ei rhwymo i roi cyfle iddi wella, ac felly fydd hi byth yn ddigon cryf i drin cleddyf eto.
Ezek WelBeibl 30:22  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwyliwch chi! Dw i'n mynd i ddelio gyda'r Pharo, brenin yr Aifft. Dw i'n mynd i dorri ei freichiau – y fraich gref, a'r un sydd eisoes wedi torri – a bydd ei gleddyf yn syrthio ar lawr.
Ezek WelBeibl 30:23  Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd.
Ezek WelBeibl 30:24  Ond bydda i'n cryfhau breichiau brenin Babilon, ac yn rhoi fy nghleddyf i yn ei law. Bydda i'n torri breichiau'r Pharo, a bydd e'n griddfan mewn poen, fel dyn wedi'i anafu ac sydd ar fin marw.
Ezek WelBeibl 30:25  Bydda i'n cryfhau breichiau brenin Babilon, ond bydd breichiau'r Pharo yn llipa. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai fi sydd wedi rhoi'r cleddyf yn llaw brenin Babilon iddo ymosod ar wlad yr Aifft.
Ezek WelBeibl 30:26  Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!”