Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next
Chapter 36
Ezek WelBeibl 36:1  “Ddyn, dw i eisiau i ti broffwydo wrth fynyddoedd Israel, a dweud: ‘Israel fynyddig, gwrando ar neges yr ARGLWYDD:
Ezek WelBeibl 36:2  Mae'r gelyn wedi bod yn dy wawdio di. “Ha! ha!” medden nhw, “Mae'r bryniau hynafol yna'n perthyn i ni bellach!”’
Ezek WelBeibl 36:3  Felly ddyn, proffwyda a dweud: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae dy elynion wedi ymosod arnat ti o bob cyfeiriad, yn dinistrio ac yn dy gam-drin di. Mae gwledydd wedi dwyn dy dir di. Mae pobl yn hel straeon ac yn gwneud jôcs amdanat ti.
Ezek WelBeibl 36:4  Felly Israel, gwrando ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y dyffrynnoedd a'r ceunentydd, yr holl adfeilion a'r trefi gwag sydd wedi'u dinistrio a'i dilorni gan y gwledydd sydd ar ôl o dy gwmpas –
Ezek WelBeibl 36:5  Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n wyllt gyda'r gwledydd yna ac wedi siarad yn gryf yn eu herbyn nhw. Yn arbennig Edom, sydd wedi bod mor sbeitlyd tuag ata i. Roedd hi wrth ei bodd yn cymryd y tir oddi arna i.’
Ezek WelBeibl 36:6  “Felly dw i eisiau i ti broffwydo am wlad Israel, a dweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y dyffrynnoedd a'r ceunentydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n wyllt gyda'r gwledydd yna am dy fod ti wedi gorfod eu diodde nhw'n dy fychanu di.
Ezek WelBeibl 36:7  Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n addo i ti – mae ei tro nhw i gael eu bychanu yn dod!
Ezek WelBeibl 36:8  “‘Ond bydd dy ganghennau di yn tyfu, Israel fynyddig, a bydd ffrwythau'n pwyso'n drwm arnyn nhw; ffrwythau ar gyfer fy mhobl, Israel. Byddan nhw'n dod yn ôl adre'n fuan!
Ezek WelBeibl 36:9  Gwranda, dw i ar dy ochr di. Dw i'n mynd i dy helpu di. Bydd y tir yn cael ei aredig eto, a chnydau'n cael eu plannu.
Ezek WelBeibl 36:10  Bydd dy boblogaeth yn tyfu drwy'r wlad i gyd. Bydd pobl yn byw yn dy drefi, a'r adfeilion yn cael eu hadeiladu.
Ezek WelBeibl 36:11  Bydd y wlad yn fwrlwm o fywyd eto – pobl ac anifeiliaid yn magu rhai bach. Bydd pobl yn byw ynot ti unwaith eto, a bydd pethau'n well arnat ti nag erioed o'r blaen. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 36:12  Bydda i'n dod â'm pobl Israel yn ôl i bob rhan o'r wlad. Byddan nhw'n etifeddu'r tir. A fyddi di ddim yn cymryd eu plant oddi arnyn nhw byth eto.
Ezek WelBeibl 36:13  “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae pobl yn cael hwyl ar dy ben di, ac yn dweud, “Mae Israel yn wlad sy'n dinistrio'i phobl ei hun – fydd dim plant ar ôl yno!”
Ezek WelBeibl 36:14  Ond fyddwch chi ddim yn dinistrio'ch pobl a cholli'ch plant o hyn ymlaen, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 36:15  Fydda i ddim yn gadael i'r gwledydd eraill eich sarhau chi. Fydd dim rhaid i chi deimlo cywilydd o flaen pawb. Fyddwch chi ddim yn colli'ch plant.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 36:17  “Ddyn, pan oedd pobl Israel yn byw yn eu gwlad eu hunain, roedden nhw wedi llygru'r wlad drwy'r ffordd roedden nhw'n ymddwyn. Roedd yn aflan, fel gwraig pan mae'n dioddef o'r misglwyf.
Ezek WelBeibl 36:18  Felly dw i wedi tywallt fy llid arnyn nhw, am eu bod nhw wedi tywallt gwaed a llygru'r wlad gyda'u heilunod.
Ezek WelBeibl 36:19  Dw i wedi'u gyrru nhw ar chwâl drwy'r gwledydd. Dw i wedi'u cosbi nhw am y ffordd roedden nhw'n ymddwyn.
Ezek WelBeibl 36:20  “Ond wedyn, roedden nhw'n dal i sarhau fy enw sanctaidd ar ôl cyrraedd y gwledydd hynny. Roedd pobl yn dweud amdanyn nhw, ‘Maen nhw i fod yn bobl yr ARGLWYDD, ond maen nhw wedi colli eu tir!’
Ezek WelBeibl 36:21  Rôn i'n poeni am fy enw da. Roedd yn cael ei sarhau gan bobl Israel ble bynnag roedden nhw'n mynd.
Ezek WelBeibl 36:22  “Felly dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i ddim yn gwneud hyn er eich mwyn chi, bobl Israel, ond er mwyn cadw fy enw da – yr enw dych chi wedi'i sarhau ym mhobman.
Ezek WelBeibl 36:23  Dw i'n mynd i ddangos mor wych ydy fy enw i – yr enw dych chi wedi'i sarhau ym mhobman. Bydd y gwledydd i gyd yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD. Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn dangos yn glir iddyn nhw mor wych ydw i.
Ezek WelBeibl 36:24  “‘Bydda i'n eich casglu chi a dod â chi allan o'r gwledydd i gyd, a mynd â chi yn ôl i'ch gwlad eich hunain.
Ezek WelBeibl 36:25  Bydda i'n taenellu dŵr glân arnoch chi, a byddwch chi'n cael eich glanhau o bopeth sy'n eich gwneud chi'n aflan, ac yn stopio addoli eilun-dduwiau.
Ezek WelBeibl 36:26  Bydda i'n rhoi calon newydd i chi, ac yn rhoi ysbryd newydd i chi. Byddai'n cymryd y galon garreg ystyfnig i ffwrdd ac yn rhoi calon newydd dyner i chi.
Ezek WelBeibl 36:27  Dw i'n mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, i wneud yn siŵr eich bod chi'n ufudd i mi ac yn gwneud beth sy'n iawn.
Ezek WelBeibl 36:28  Wedyn byddwch chi'n cael byw yn y wlad rois i i'ch hynafiaid chi. Chi fydd fy mhobl i, a fi fydd eich Duw chi.
Ezek WelBeibl 36:29  Bydda i'n eich achub chi o ganlyniadau'r holl bethau aflan wnaethoch chi. Byddai'n gwneud i'r caeau roi cnydau mawr i chi, yn lle anfon newyn arnoch chi.
Ezek WelBeibl 36:30  Bydd digonedd o ffrwythau'n tyfu ar y coed, a bydd cnydau'r caeau i gyd yn llwyddo. Fyddwch chi byth eto'n gorfod cywilyddio am fod y gwledydd o'ch cwmpas chi'n eich gweld chi'n diodde o newyn.
Ezek WelBeibl 36:31  Byddwch chi'n edrych yn ôl ac yn cofio'r holl bethau drwg wnaethoch chi, ac yn teimlo cywilydd ofnadwy am yr holl bechodau a'r pethau ffiaidd wnaethoch chi.
Ezek WelBeibl 36:32  Ond dw i eisiau i hyn fod yn glir: Dw i ddim yn gwneud hyn er eich mwyn chi, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr. Dylech chi fod â chywilydd go iawn o'r ffordd dych chi wedi ymddwyn!
Ezek WelBeibl 36:33  “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan fydda i'n eich glanhau chi o'ch pechodau, bydda i'n dod â phobl yn ôl i fyw yn y trefi. Bydd yr adfeilion yn cael eu hadeiladu eto.
Ezek WelBeibl 36:34  Bydd y tir anial yn cael ei drin a'i aredig eto, yn lle bod pawb yn ei weld wedi tyfu'n wyllt.
Ezek WelBeibl 36:35  Bydd pobl yn dweud, “Mae'r wlad yma oedd yn anial wedi troi i fod fel gardd Eden unwaith eto. Mae'r trefi oedd yn adfeilion wedi'u hadeiladu eto, ac mae pobl yn byw ynddyn nhw!”
Ezek WelBeibl 36:36  Bydd y gwledydd sydd ar ôl o'ch cwmpas chi yn sylweddoli mai fi sydd wedi achosi i'r trefi gael eu hadeiladu ac i'r tir gael ei drin unwaith eto. Fi ydy'r ARGLWYDD, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd!’
Ezek WelBeibl 36:37  “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i adael i bobl Israel ofyn i mi wneud hyn iddyn nhw. Bydd yna gymaint o bobl ag sydd o ddefaid yn y wlad!
Ezek WelBeibl 36:38  Bydd fel yr holl ddefaid sy'n cael eu cymryd i'w haberthu yn Jerwsalem adeg y gwyliau crefyddol! Bydd yr holl drefi oedd yn adfeilion yn llawn pobl unwaith eto! A bydd pawb yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”