Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 32
Ezek WelBeibl 32:1  Roedd hi ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r deuddegfed mis, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:
Ezek WelBeibl 32:2  “Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl y Pharo, brenin yr Aifft, a dweud wrtho: ‘Roeddet ti'n gweld dy hun fel llew yng nghanol y gwledydd, ond ti fwy fel draig yn y môr. Rwyt ti'n sblasio yn y ffosydd, yn corddi'r dŵr gyda dy draed a baeddu'r ffosydd.’
Ezek WelBeibl 32:3  Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydda i'n taflu fy rhwyd drosot ti (bydd tyrfa enfawr o bobl yno), ac yn dy lusgo allan o'r dŵr gyda'm llusgrwyd.
Ezek WelBeibl 32:4  Wedyn bydda i'n dy daflu di ar dir sych, a bydd yr adar yn dod ac yn byw arnat ti, a'r anifeiliaid gwyllt yn llenwi eu hunain arnat.
Ezek WelBeibl 32:5  Bydd dy gig ar y mynyddoedd a'r gweddillion yn y dyffrynnoedd.
Ezek WelBeibl 32:6  Bydda i'n socian y tir gyda dy waed di, yr holl ffordd i ben y mynyddoedd, a bydd dy waed yn llenwi'r ceunentydd i gyd.
Ezek WelBeibl 32:7  Pan fydda i'n dy ddiffodd bydda i'n rhoi gorchudd ar yr awyr, ac yn diffodd y sêr i gyd. Bydd cwmwl yn cuddio'r haul, ac yn rhwystro'r lleuad rhag llewyrchu.
Ezek WelBeibl 32:8  Bydd pob golau yn yr awyr yn diffodd, a bydd tywyllwch drwy'r wlad i gyd,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 32:9  “Bydd pobloedd lawer wedi cynhyrfu pan fydd y cenhedloedd yn clywed am dy ddinistr. Hyd yn oed gwledydd dwyt ti erioed wedi clywed amdanyn nhw.
Ezek WelBeibl 32:10  Bydd pobl mewn sioc o glywed beth fydd wedi digwydd i ti. Bydd brenhinoedd wedi dychryn am eu bywydau pan fydda i'n chwifio fy nghleddyf o'u blaenau nhw. Ar y diwrnod y byddi di'n syrthio byddan nhw'n crynu drwyddynt yn ofni am eu bywydau eu hunain.”
Ezek WelBeibl 32:11  Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd cleddyf brenin Babilon yn ymosod arnat ti.
Ezek WelBeibl 32:12  Bydda i'n gwneud i gleddyfau milwyr cryfion ladd dy fyddin enfawr di – nhw ydy'r milwyr mwyaf creulon sydd. Byddan nhw'n torri balchder yr Aifft, a bydd ei byddin enfawr yn cael ei dinistrio.
Ezek WelBeibl 32:13  Bydd yr anifeiliaid sy'n pori ar lan y dŵr yn cael eu lladd i gyd. Fydd y dŵr ddim yn cael ei faeddu eto gan draed dynol na charnau anifeiliaid.
Ezek WelBeibl 32:14  Bydd y dŵr drwy'r Aifft yn glir, a'r afonydd yn llifo'n llyfn fel olew. “Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 32:15  Pan fydda i'n troi gwlad yr Aifft yn anialwch ac yn dinistrio popeth sydd ynddi; Pan fydda i'n lladd pawb sy'n byw yno, byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 32:16  “Dyma'r gân angladdol fyddan nhw'n ei chanu. Bydd merched y gwledydd i gyd yn ei chanu ac yn galaru am yr Aifft a'i byddin enfawr.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 32:17  Ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pymthegfed diwrnod o'r un mis, dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 32:18  “Ddyn, uda dros fyddin yr Aifft. ‘I lawr â hi! I lawr â hi at drefi a dinasoedd y gwledydd pwerus eraill sydd yn nyfnder y ddaear. I lawr â hi gyda phawb sy'n mynd i'r Pwll!’
Ezek WelBeibl 32:19  Wyt ti'n harddach na'r gwledydd eraill? Na! Dos i lawr i orwedd gyda'r gwledydd paganaidd.
Ezek WelBeibl 32:20  Byddi'n gorwedd gyda phawb arall sydd wedi'u lladd mewn rhyfel! Mae'r cleddyf yn barod i'w taro nhw; bydd yr Aifft a'i byddin yn cael eu llusgo i ffwrdd.
Ezek WelBeibl 32:21  Bydd arweinwyr grymus y gwledydd yn gwawdio'r Aifft a'i chefnogwyr: ‘Dyma nhw wedi cyrraedd, i orwedd gyda'r paganiaid eraill sydd wedi'u lladd â'r cleddyf.’
Ezek WelBeibl 32:22  “Mae brenin Asyria yna, a beddau ei fyddin enfawr ym mhobman. Pob un wedi'i ladd â'r cleddyf.
Ezek WelBeibl 32:23  Mae eu beddau yn gorchuddio llethrau dyfnaf y Pwll, ac mae ei chefnogwyr o'i chwmpas. Ie, dyma nhw, y rhai oedd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd!
Ezek WelBeibl 32:24  “Mae Elam yna, a beddau ei byddin enfawr hithau ym mhobman. Pob un wedi'i ladd â'r cleddyf. Hwythau'n baganiaid wedi mynd i lawr i ddyfnder y ddaear, ond ar un adeg yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll!
Ezek WelBeibl 32:25  Mae hithau'n gorffwys gyda'r meirw, a beddau ei byddin enfawr ym mhobman. Paganiaid wedi'u lladd â'r cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll!
Ezek WelBeibl 32:26  “Mae Meshech a Twbal yna, a beddau eu byddinoedd hwythau ym mhobman. Paganiaid wedi'u lladd â'r cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd.
Ezek WelBeibl 32:27  Dŷn nhw ddim gydag arwyr dewr y gorffennol, wedi'u claddu'n anrhydeddus gyda'u harfau – gyda'r cleddyf wedi'i osod dan y pen a'r darian yn gorwedd ar yr esgyrn. Roedden nhw hefyd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd.
Ezek WelBeibl 32:28  A byddi dithau, y Pharo, yn gorwedd wedi dy dorri gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd â'r cleddyf!
Ezek WelBeibl 32:29  “Mae Edom yna, gyda'i brenhinoedd a'i phenaethiaid i gyd. Er eu bod mor gryf ar un adeg, maen nhw'n gorwedd gyda'r rhai sydd wedi'u lladd â'r cleddyf. Maen nhw'n gorwedd gyda'r paganiaid eraill sydd wedi mynd i lawr i'r Pwll.
Ezek WelBeibl 32:30  “Mae arweinwyr gwledydd y gogledd yno i gyd, a'r Sidoniaid. Y rhai oedd yn codi dychryn bellach yn gorwedd mewn cywilydd gyda'r meirw – gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd â'r cleddyf. Maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll.
Ezek WelBeibl 32:31  “Bydd y Pharo yn eu gweld, ac yn cael ei gysuro mai nid ei fyddin enfawr e oedd yr unig un i gael ei lladd â'r cleddyf,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 32:32  “Er fy mod wedi'u defnyddio nhw i godi dychryn ar bawb drwy'r byd, bydd y Pharo a'i fyddin yn gorwedd gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd â'r cleddyf.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.