EZEKIEL
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
Chapter 14
Ezek | WelBeibl | 14:3 | “Ddyn, mae'r dynion yma wedi troi at eilunod. Maen nhw wedi rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu. Pam ddylwn i adael iddyn nhw ofyn unrhyw beth i mi? | |
Ezek | WelBeibl | 14:4 | Felly dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Os ydy unrhyw un yn Israel yn troi at eilunod, a rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu, ac wedyn yn dod at broffwyd i geisio arweiniad, bydda i, yr ARGLWYDD, yn rhoi iddyn nhw'r ateb maen nhw a'u heilunod yn ei haeddu! | |
Ezek | WelBeibl | 14:5 | Bydda i'n gwneud hyn i'w galw nhw i gyfri, am eu bod nhw wedi pellhau oddi wrtho i a mynd ar ôl eu heilunod i gyd.’ | |
Ezek | WelBeibl | 14:6 | “Felly dw i am i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Trowch yn ôl ata i! Dw i eisiau i chi droi cefn ar eich eilunod, a stopio gwneud y pethau ffiaidd dych chi wedi bod yn eu gwneud. | |
Ezek | WelBeibl | 14:7 | Os ydy unrhyw un yn Israel (hyd yn oed mewnfudwyr sy'n byw yn y wlad) yn troi cefn arna i, mynd ar ôl eilunod a rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu, ac wedyn yn mynd at broffwyd i geisio arweiniad, bydda i, yr ARGLWYDD, yn rhoi iddyn nhw'r ateb maen nhw'n ei haeddu! | |
Ezek | WelBeibl | 14:8 | Bydda i'n troi yn erbyn pobl felly, ac yn eu gwneud nhw'n destun sbort. Bydda i'n gwneud esiampl ohonyn nhw, ac yn eu torri nhw i ffwrdd o gymdeithas fy mhobl. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 14:9 | “‘A phan fydd proffwyd yn cael ei dwyllo i roi neges sydd ddim yn wir, bydda i, yr ARGLWYDD, yn gwneud ffŵl ohono. Bydda i'n ei daro a'i daflu allan o gymdeithas pobl Israel. | |
Ezek | WelBeibl | 14:10 | Bydd y ddau ohonyn nhw'n cael eu cosbi am eu pechod – y proffwyd, a'r un oedd wedi mynd ato i ofyn am arweiniad. | |
Ezek | WelBeibl | 14:11 | Wedyn fydd pobl Israel ddim yn crwydro oddi wrtho i, a llygru eu hunain drwy wrthryfela yn fy erbyn i. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 14:13 | “Ddyn, os ydy gwlad yn pechu yn fy erbyn i drwy fod yn anffyddlon, a finnau wedyn yn eu taro nhw drwy wneud bwyd yn brin, a pheri i newyn ladd pobl ac anifeiliaid, | |
Ezek | WelBeibl | 14:14 | hyd yn oed petai Noa, Daniel a Job yn byw yno, fyddai eu daioni nhw yn achub neb ond nhw eu hunain.” Dyna ydy neges y Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 14:15 | “Neu petawn i'n gadael i anifeiliaid gwyllt fynd drwy'r wlad yn lladd y plant i gyd, a bod neb yn gallu teithio drwy'r wlad am ei bod hi'n rhy beryglus. | |
Ezek | WelBeibl | 14:16 | Hyd yn oed petai'r tri dyn yna'n byw yno ar y pryd, fyddai neb ond nhw eu hunain yn cael eu hachub. Byddai'r wlad yn cael ei difetha'n llwyr, a fydden nhw ddim hyd yn oed yn gallu achub eu plant eu hunain,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 14:17 | “Neu petawn i'n gadael i fyddin ymosod ar y wlad, a dweud, ‘Mae cleddyf y gelyn i gael lladd pobl ac anifeiliaid drwy'r wlad i gyd!’ | |
Ezek | WelBeibl | 14:18 | Hyd yn oed petai'r tri dyn yna'n byw yno ar y pryd, fyddai neb ond nhw eu hunain yn cael eu hachub. Fydden nhw ddim hyd yn oed yn gallu achub eu plant eu hunain,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 14:19 | “Neu petawn i'n anfon afiechydon ofnadwy ac yn tywallt fy llid arnyn nhw, nes bod pobl ac anifeiliaid yn marw. | |
Ezek | WelBeibl | 14:20 | Hyd yn oed petai Noa, Daniel a Job yn byw yno ar y pryd, fyddai neb ond nhw eu hunain yn cael eu hachub. Fydden nhw ddim hyd yn oed yn gallu achub eu plant eu hunain,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 14:21 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd hi'n erchyll pan fydda i'n anfon y pedwar yma i farnu Jerwsalem – cleddyf, newyn, anifeiliaid gwyllt, ac afiechydon ofnadwy – i ladd pobl ac anifeiliaid. | |
Ezek | WelBeibl | 14:22 | Ond creda neu beidio, bydd yna rai yn llwyddo i ddod allan yn fyw! Byddan nhw'n dod yma i Babilon atat ti. Pan fyddi di'n gweld sut maen nhw'n ymddwyn, byddi'n teimlo'n well am beth fydd wedi digwydd i Jerwsalem, a'r cwbl wnes i iddi. | |