Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 34
Ezek WelBeibl 34:2  “Ddyn, proffwyda yn erbyn bugeiliaid Israel (sef yr arweinwyr). Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae chi, fugeiliaid Israel, sy'n gofalu am neb ond chi'ch hunain! Oni ddylai bugeiliaid ofalu am y praidd?
Ezek WelBeibl 34:3  Dych chi'n yfed eu llaeth nhw, yn gwisgo'u gwlân ac yn lladd yr ŵyn gorau i'w rhostio, ond dych chi ddim yn gofalu am y praidd!
Ezek WelBeibl 34:4  Dych chi ddim wedi helpu'r rhai gwan, gwella y rhai sy'n sâl na rhwymo briwiau y rhai sydd wedi'u hanafu. Dych chi ddim wedi edrych am y rhai sydd wedi crwydro a mynd ar goll. Na, yn lle hynny, dych chi wedi'u rheoli nhw a'u bygwth fel meistri creulon.
Ezek WelBeibl 34:5  Bellach maen nhw ar chwâl am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Maen nhw'n cael eu llarpio gan anifeiliaid gwyllt.
Ezek WelBeibl 34:6  Mae fy nefaid wedi crwydro dros y mynyddoedd a'r bryniau uchel i gyd. Maen nhw ar wasgar drwy'r byd i gyd, a does neb yn edrych a chwilio amdanyn nhw.
Ezek WelBeibl 34:7  “‘Felly, chi fugeiliaid, dyma neges yr ARGLWYDD i chi:
Ezek WelBeibl 34:8  Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr, mae fy nefaid yn cael eu llarpio gan anifeiliaid gwyllt am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Mae'r bugeiliaid wedi gofalu amdanyn nhw eu hunain yn lle mynd i edrych am y defaid.
Ezek WelBeibl 34:9  Felly, chi fugeiliaid, dyma neges yr ARGLWYDD i chi:
Ezek WelBeibl 34:10  Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dweud, “Dw i yn erbyn y bugeiliaid! Dw i'n ei dal nhw'n gyfrifol, a fyddan nhw ddim yn cael gofalu am y praidd o hyn ymlaen. Na, fydd dim mwy o ofalu am neb ond nhw eu hunain! Gân nhw ddim bwyta'r defaid eto; bydda i'n achub y defaid o'u gafael nhw.”
Ezek WelBeibl 34:11  “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i fy hun am fynd allan i chwilio am fy nefaid. A dw i'n mynd i ddod o hyd iddyn nhw.
Ezek WelBeibl 34:12  Fel mae bugail yn chwilio am ei braidd pan maen nhw wedi mynd ar chwâl, bydda i'n dod o hyd i'm praidd i. Bydda i'n eu hachub nhw o ble bynnag aethon nhw ar y diwrnod tywyll, stormus hwnnw.
Ezek WelBeibl 34:13  Dw i'n mynd i ddod â nhw adre o'r gwledydd eraill; dod â nhw yn ôl i'w tir eu hunain. Dw i'n mynd i adael iddyn nhw bori ar fryniau a dyffrynnoedd Israel, ble bynnag mae porfa iddyn nhw.
Ezek WelBeibl 34:14  Ydw, dw i'n mynd i roi porfa iddyn nhw ar ben bryniau Israel. Byddan nhw'n gorwedd mewn porfa hyfryd ac yn bwydo ar laswellt cyfoethog bryniau Israel.
Ezek WelBeibl 34:15  Dw i fy hun yn mynd i ofalu amdanyn nhw, a rhoi lle iddyn nhw orwedd i lawr, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 34:16  Dw i'n mynd i chwilio am y rhai sydd ar goll, a dod â'r rhai sydd wedi crwydro yn ôl adre. Dw i'n mynd i rwymo briwiau y rhai sydd wedi'u hanafu, a helpu'r rhai sy'n wan. Ond bydd y rhai cyfoethog a chryf yn cael eu dinistrio. Bydda i'n gofalu eu bod nhw'n cael beth maen nhw'n ei haeddu!
Ezek WelBeibl 34:17  “‘Ie, dyma beth mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi'r defaid: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall, a rhwng yr hyrddod a'r bychod geifr.
Ezek WelBeibl 34:18  Ydy bwydo ar borfa dda ddim digon i chi? Oes rhaid i chi sathru gweddill y borfa hefyd? Wrth yfed y dŵr glân oes rhaid i chi faeddu gweddill y dŵr drwy sathru'r mwd?
Ezek WelBeibl 34:19  Pam ddylai gweddill fy nefaid i orfod bwyta'r borfa sydd wedi'i sathru gynnoch chi ac yfed dŵr sydd wedi'i faeddu?
Ezek WelBeibl 34:20  “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng y defaid tewion a'r defaid tenau.
Ezek WelBeibl 34:21  Dych chi'r rhai cryfion wedi gwthio'r rhai gwan o'r ffordd. Dych chi wedi'u cornio nhw a'i gyrru nhw i ffwrdd.
Ezek WelBeibl 34:22  Ond dw i'n mynd i achub fy nefaid. Fyddan nhw ddim yn cael eu cam-drin o hyn ymlaen. Ydw, dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall.
Ezek WelBeibl 34:23  “‘Dw i'n mynd i apwyntio un bugail i ofalu amdanyn nhw, sef fy ngwas Dafydd. Bydd e'n fugail arnyn nhw.
Ezek WelBeibl 34:24  Fi, yr ARGLWYDD fydd eu Duw nhw, a'm gwas Dafydd fydd pennaeth y wlad i'w harwain nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.
Ezek WelBeibl 34:25  “‘Bydda i'n gwneud ymrwymiad i roi heddwch iddyn nhw. Bydda i'n cael gwared â'r anifeiliaid gwyllt o'r tir. Byddan nhw'n saff i aros yn yr anialwch, ac yn gallu cysgu yn y goedwig hyd yn oed.
Ezek WelBeibl 34:26  Bydda i'n eu bendithio nhw, a'r ardaloedd o gwmpas fy mryn hefyd. Bydd glaw yn disgyn ar yr adeg iawn; cawodydd yn dod â bendith!
Ezek WelBeibl 34:27  Bydd ffrwythau'n tyfu ar y coed yng nghefn gwlad, a chnydau yn tyfu o'r tir. Byddan nhw i gyd yn teimlo'n saff. Byddan nhw'n gwybod mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n torri'r iau a'u gollwng nhw'n rhydd o afael y rhai wnaeth eu caethiwo nhw,
Ezek WelBeibl 34:28  a fydd gwledydd eraill byth eto'n eu dinistrio nhw. Fydd anifeiliaid gwyllt ddim yn ymosod arnyn nhw. Byddan nhw'n hollol saff. Fyddan nhw'n ofni dim.
Ezek WelBeibl 34:29  Bydda i'n gwneud i'w cnydau nhw lwyddo, a fyddan nhw byth yn dioddef o newyn eto. A fyddan nhw byth eto'n destun sbort i'r gwledydd o'u cwmpas.
Ezek WelBeibl 34:30  Byddan nhw'n gwybod yn iawn wedyn fy mod i, yr ARGLWYDD eu Duw, gyda nhw, ac mai nhw, pobl Israel, ydy fy mhobl i.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 34:31  “Chi, fy nefaid i sy'n byw ar fy mhorfa i, ydy fy mhobl i. A fi ydy'ch Duw chi,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.