Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 3
Ezek WelBeibl 3:1  A dyma'r llais yn dweud wrtho i, “Ddyn, bwyta'r sgrôl yma sydd o dy flaen, ac wedyn mynd i siarad gyda phobl Israel.”
Ezek WelBeibl 3:2  Felly dyma fi'n agor fy ngheg, a dyma fe'n bwydo'r sgrôl i mi.
Ezek WelBeibl 3:3  A dyma fe'n dweud, “Ddyn, llenwa dy fol gyda'r sgrôl yma dw i'n ei rhoi i ti.” A dyma fi'n ei bwyta. Roedd hi'n blasu'n felys fel mêl.
Ezek WelBeibl 3:4  A dyma fe'n dweud wrtho i, “Ddyn, dos at bobl Israel a dweud beth ydy fy neges i iddyn nhw.
Ezek WelBeibl 3:5  Dw i ddim yn dy anfon di at bobl sy'n siarad iaith wyt ti ddim yn ei deall. Pobl Israel ydyn nhw.
Ezek WelBeibl 3:6  Petawn i'n dy anfon di at dyrfa o bobl sy'n siarad iaith wyt ti ddim yn ei deall, mae'n siŵr y byddai'r rheiny yn gwrando arnat ti!
Ezek WelBeibl 3:7  Ond fydd pobl Israel ddim yn gwrando arnat ti, achos dŷn nhw ddim yn fodlon gwrando arna i. Maen nhw'n bobl ofnadwy o benstiff ac ystyfnig.
Ezek WelBeibl 3:8  Felly dw i'n mynd i dy wneud di'r un mor benderfynol a phenstiff ag ydyn nhw!
Ezek WelBeibl 3:9  Bydda i'n dy wneud di yn galed fel diemwnt (sy'n gletach na charreg fflint!) Paid bod ag ofn. Paid gadael iddyn nhw dy ddychryn di. Maen nhw'n griw o rebeliaid.
Ezek WelBeibl 3:10  “Felly, gwranda di'n ofalus ar bopeth dw i'n ddweud, a'i gymryd o ddifrif.
Ezek WelBeibl 3:11  Dos at dy gydwladwyr, y bobl gafodd eu symud yma yn gaethion gyda ti. Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.’ Dw i am i ti wneud hyn os ydyn nhw'n dewis gwrando neu beidio.”
Ezek WelBeibl 3:12  Yna cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr. Clywais sŵn rymblan y tu ôl i mi wrth i ysblander yr ARGLWYDD godi o'i le.
Ezek WelBeibl 3:13  Adenydd y creaduriaid byw oedd yn rhwbio yn erbyn ei gilydd, a sŵn yr olwynion wrth eu hymyl yn troi. Roedd fel sŵn rymblan mawr.
Ezek WelBeibl 3:14  Cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr, a'm cario i ffwrdd. Rôn i'n teimlo'n flin ac yn llawn emosiwn. Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i ac roedd yn rheoli beth oedd yn digwydd i mi yn llwyr.
Ezek WelBeibl 3:15  Dyma fi'n cyrraedd Tel-abib, sydd wrth ymyl Camlas Cebar. Bues i yno am wythnos, yn eistedd yn syfrdan yng nghanol y bobl oedd wedi cael eu caethgludo.
Ezek WelBeibl 3:16  Yna ar ôl wythnos dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:
Ezek WelBeibl 3:17  “Ddyn, dw i'n dy benodi di yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i'n rhoi neges i ti.
Ezek WelBeibl 3:18  Pan dw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a tithau ddim wedi'i rybuddio a'i annog i newid ei ffyrdd a byw, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu a bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol ei fod wedi marw.
Ezek WelBeibl 3:19  Ond os byddi di wedi'i rybuddio, ac yntau wedi gwrthod newid ei ffyrdd, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun.
Ezek WelBeibl 3:20  “Ar y llaw arall, os ydy rhywun sydd fel arfer yn gwneud beth sy'n iawn yn newid ei ffyrdd ac yn dechrau gwneud pethau drwg, bydda i'n achosi i rywbeth ddigwydd fydd yn gwneud i'r person hwnnw syrthio. Bydd e'n marw. Os na fyddi di wedi'i rybuddio bydd e'n marw am ei fod wedi pechu. Fydd y pethau da wnaeth e o'r blaen ddim yn cyfrif. A bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol am beth fydd yn digwydd.
Ezek WelBeibl 3:21  Ond os byddi di wedi'i rybuddio fe i beidio pechu, ac yntau wedi gwrando arnat ti, bydd e'n cael byw, a byddi di hefyd wedi achub dy hun.”
Ezek WelBeibl 3:22  Dyma ddylanwad yr ARGLWYDD yn dod arna i, a dyma fe'n dweud, “Cod ar dy draed. Dos allan i'r dyffryn, a bydda i'n siarad gyda ti yno.”
Ezek WelBeibl 3:23  Felly dyma fi'n codi'n syth, ac yn mynd allan i'r dyffryn. A dyma fi'n gweld ysblander yr ARGLWYDD eto, yn union yr un fath ag wrth Gamlas Cebar. Syrthiais ar fy wyneb ar lawr.
Ezek WelBeibl 3:24  Ond yna dyma ysbryd yn mynd i mewn i mi ac yn fy nghodi ar fy nhraed. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Dos, a chau dy hun i mewn yn dy dŷ.
Ezek WelBeibl 3:25  Bydd y bobl yma'n dy rwymo di gyda rhaffau, er mwyn dy rwystro di rhag cymysgu gyda nhw y tu allan.
Ezek WelBeibl 3:26  Bydda i'n gwneud i dy dafod di sticio i dop dy geg a fyddi di ddim yn gallu siarad na dweud wrthyn nhw beth maen nhw'n ei wneud o'i le. Maen nhw'n griw o rebeliaid.
Ezek WelBeibl 3:27  Ond pan fydd gen i rywbeth i'w ddweud wrthot ti, bydda i'n agor dy geg di i ti allu dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.’ Cân nhw ddewis os ydyn nhw am wrando neu beidio. Maen nhw'n griw o rebeliaid.”