EZEKIEL
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
Chapter 48
Ezek | WelBeibl | 48:1 | “Dyma enwau llwythau Israel, a'r tir mae pob un i'w dderbyn: Bydd Dan reit yn y gogledd, wrth ymyl ffordd Chethlon i Fwlch Chamath, cyn belled â Chatsar-einan ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Bydd tir Dan yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin. | |
Ezek | WelBeibl | 48:2 | Wedyn y nesaf i lawr, yn ffinio gyda Dan, ac eto'n ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin, bydd Asher. | |
Ezek | WelBeibl | 48:7 | Ac wedyn Jwda. Pob un ohonyn nhw yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin. | |
Ezek | WelBeibl | 48:8 | “Yna'n ffinio gyda Jwda bydd y tir cysegredig sy'n wyth milltir o led, a'r un hyd â thiroedd y llwythau o'r dwyrain i'r gorllewin; a bydd y cysegr yn ei ganol. | |
Ezek | WelBeibl | 48:9 | Bydd y tir sydd wedi'i gysegru a'i neilltuo i'r ARGLWYDD yn wyth milltir o hyd, a thair milltir a chwarter o led. | |
Ezek | WelBeibl | 48:10 | Bydd y tir yma sydd wedi'i gysegru yn cael ei rannu rhwng yr offeiriaid – wyth milltir o'r gogledd i'r de, a thair milltir a hanner o'r dwyrain i'r gorllewin. A bydd cysegr yr ARGLWYDD yn ei ganol. | |
Ezek | WelBeibl | 48:11 | Hwn fydd y tir i'r offeiriaid, sef disgynyddion Sadoc wnaeth ddal ati i wneud eu gwaith heb grwydro i ffwrdd fel y gwnaeth gweddill pobl Israel a'r Lefiaid. | |
Ezek | WelBeibl | 48:12 | Eu darn arbennig nhw o'r tir fydd e; y tir mwyaf cysegredig o'r cwbl, gyda thir y Lefiaid eraill drws nesa iddyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 48:13 | “Bydd tir y Lefiaid hefyd yn wyth milltir o hyd a thair milltir a chwarter o led. Bydd y cwbl gyda'i gilydd yn wyth milltir o hyd a chwe milltir a hanner o led. | |
Ezek | WelBeibl | 48:14 | Dydy'r tir arbennig yma byth i gael ei werthu na'i gyfnewid, na'i ddefnyddio gan unrhyw un arall. Mae wedi'i gysegru a'i neilltuo'n arbennig i'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 48:15 | “Bydd y gweddill – milltir a hanner o led ac wyth milltir o hyd – yn dir cyhoeddus i adeiladu tai arno neu ei gadw'n dir agored. Ond bydd y ddinas yn ei ganol. | |
Ezek | WelBeibl | 48:18 | Bydd gweddill y tir, sydd bob ochr i'r tir cysegredig yn dir amaeth, i dyfu bwyd ar gyfer y bobl sy'n gweithio yn y ddinas. Tair milltir a hanner ar yr ochr ddwyreiniol, a thair milltir a hanner i'r gorllewin. | |
Ezek | WelBeibl | 48:19 | Bydd y tir yma'n cael ei ffermio gan bobl o'r gwahanol lwythau sydd wedi dod i weithio yn y ddinas. | |
Ezek | WelBeibl | 48:20 | Bydd y darn tir i gyd (y tiroedd cysegredig a thiroedd y ddinas gyda'i gilydd) yn wyth milltir i bob cyfeiriad. | |
Ezek | WelBeibl | 48:21 | “Pennaeth y wlad fydd piau'r gweddill (sef beth sydd ar ôl bob ochr i'r tir cysegredig a thir amaeth y ddinas). Bydd yn ymestyn o ymylon yr wyth milltir o dir cysegredig, yr holl ffordd i'r ffin ddwyreiniol un ochr ac i Fôr y Canoldir yr ochr arall. A bydd y tir cysegredig a'r deml ei hun yn y canol. | |
Ezek | WelBeibl | 48:22 | Bydd tir y Lefiaid yn y canol hefyd, a thir amaeth y ddinas, gyda thir pennaeth y wlad bob ochr iddo. Bydd tir y pennaeth yn ymestyn o ffin Jwda i ffin Benjamin. | |
Ezek | WelBeibl | 48:23 | “Wedyn tiroedd gweddill y llwythau: Tir Benjamin nesaf, yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin. | |
Ezek | WelBeibl | 48:28 | A bydd tir Gad yn dilyn y ffin ddeheuol, ar draws o Tamar at Ffynnon Meriba yn Cadesh, ar hyd Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir. | |
Ezek | WelBeibl | 48:29 | Dyma'r tir sydd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 48:30 | Dyma ddisgrifiad o'r ddinas o'r tu allan: Ar yr ochr ogleddol, sydd filltir a hanner o hyd, | |
Ezek | WelBeibl | 48:31 | bydd tair giât wedi'u henwi ar ôl llwythau Israel – giât Reuben, giât Jwda, a giât Lefi. | |
Ezek | WelBeibl | 48:32 | Ar yr ochr ddwyreiniol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Joseff, giât Benjamin, a giât Dan. | |
Ezek | WelBeibl | 48:33 | Ar yr ochr ddeheuol, sydd filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Simeon, giât Issachar, a giât Sabulon. | |
Ezek | WelBeibl | 48:34 | Ac ar yr ochr orllewinol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Gad, giât Asher, a giât Nafftali. | |