Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next
Chapter 37
Ezek WelBeibl 37:1  Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i, a dyma'i Ysbryd yn mynd â fi i ffwrdd ac yn fy ngosod yng nghanol dyffryn llydan. Roedd y dyffryn yn llawn o esgyrn.
Ezek WelBeibl 37:2  Gwnaeth i mi gerdded o gwmpas drwy'i canol nhw, yn ôl ac ymlaen. Roedden nhw ym mhobman! Esgyrn sychion ar lawr y dyffryn i gyd.
Ezek WelBeibl 37:3  Yna gofynnodd i mi, “Ddyn, oes gobaith i'r esgyrn yma ddod yn ôl yn fyw eto?” A dyma fi'n ateb, “Meistr, ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gwybod hynny.”
Ezek WelBeibl 37:4  Yna dyma fe'n gofyn i mi broffwydo dros yr esgyrn, a dweud wrthyn nhw: “Esgyrn sychion, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 37:5  Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi anadl ynoch chi, a dod â chi yn ôl yn fyw.
Ezek WelBeibl 37:6  Dw i'n mynd i roi cnawd arnoch chi, gewynnau a chyhyrau, a rhoi croen amdanoch chi. Wedyn bydda i'n rhoi anadl ynoch chi, a byddwch chi'n dod yn ôl yn fyw. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”
Ezek WelBeibl 37:7  Felly, dyma fi'n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i. Ac wrth i mi wneud hynny dyma fi'n clywed sŵn ratlo, a dyma'r esgyrn yn dod at ei gilydd, pob un yn ôl i'w le.
Ezek WelBeibl 37:8  Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld gewynnau a chyhyrau'n dod arnyn nhw, a chroen yn ffurfio amdanyn nhw, ond doedd dim anadl ynddyn nhw.
Ezek WelBeibl 37:9  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Proffwyda i'r anadl ddod. Ddyn, proffwyda a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Tyrd anadl, o'r pedwar gwynt. Anadla ar y cyrff yma, iddyn nhw ddod yn ôl yn fyw.’”
Ezek WelBeibl 37:10  Felly, dyma fi'n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i a dyma nhw'n dechrau anadlu. Roedden nhw'n fyw! A dyma nhw'n sefyll ar eu traed, yn un fyddin enfawr.
Ezek WelBeibl 37:11  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, pobl Israel ydy'r esgyrn yma. Maen nhw'n dweud, ‘Does dim gobaith! – dŷn ni wedi'n taflu i ffwrdd, fel esgyrn sychion.’
Ezek WelBeibl 37:12  Ond dw i eisiau i ti broffwydo a dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i agor eich beddau, a dod â chi allan yn fyw! O fy mhobl, dw i'n mynd i'ch arwain chi yn ôl i wlad Israel!
Ezek WelBeibl 37:13  Pan fydda i'n agor eich beddau a dod â chi allan, byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 37:14  Dw i'n mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, a byddwch yn byw. Dw i'n mynd i'ch setlo chi i lawr yn ôl yn eich gwlad eich hunain, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Mae beth dw i'n ddweud yn mynd i ddigwydd,’” meddai'r ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 37:16  “Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd ffon, ac ysgrifennu arni, ‛Jwda a holl bobl Israel sydd gydag e.‛ Yna cymer ffon arall, ac ysgrifennu arni hi, ‛ffon Joseff, sef Effraim, a holl bobl Israel sydd gydag e.‛
Ezek WelBeibl 37:18  Yna pan fydd dy bobl yn gofyn, ‘Wyt ti am esbonio i ni beth rwyt ti'n wneud?’
Ezek WelBeibl 37:19  Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i gymryd y ffon sy'n cynrychioli Joseff a'r llwythau sydd gydag e, a'i chysylltu hi gyda ffon Jwda. Byddan nhw'n un ffon yn fy llaw i.’
Ezek WelBeibl 37:20  Dal y ffyn rwyt ti wedi ysgrifennu arnyn nhw o'u blaenau,
Ezek WelBeibl 37:21  a dweud fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i gasglu pobl Israel o'r gwledydd lle'r aethon nhw. Dw i'n mynd i'w casglu nhw o'r gwledydd hynny, a dod â nhw adre i'w gwlad eu hunain.
Ezek WelBeibl 37:22  Dw i'n mynd i'w gwneud nhw'n un genedl eto, ar fynyddoedd Israel. Un brenin fydd ganddyn nhw, a fyddan nhw byth eto wedi'u rhannu'n ddwy wlad ar wahân.
Ezek WelBeibl 37:23  Fyddan nhw ddim yn llygru eu hunain yn addoli eu heilunod ffiaidd, nac yn gwrthryfela yn fy erbyn i. Dw i'n mynd i'w hachub nhw er eu bod nhw wedi troi oddi wrtho i a phechu. Dw i'n mynd i'w glanhau nhw. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw.
Ezek WelBeibl 37:24  Fy ngwas Dafydd fydd yn frenin arnyn nhw. Yr un bugail fydd ganddyn nhw i gyd. Byddan nhw'n ufudd i mi, ac yn gwneud beth sy'n iawn.
Ezek WelBeibl 37:25  “‘Byddan nhw'n byw ar y tir rois i i'm gwas Jacob, lle roedd eu hynafiaid yn byw. Byddan nhw'n cael byw yno, a'u plant, a'u disgynyddion am byth. Fy ngwas Dafydd fydd eu pennaeth nhw am byth.
Ezek WelBeibl 37:26  Bydda i'n gwneud ymrwymiad i roi heddwch iddyn nhw – ymrwymiad fydd yn para am byth. Bydda i'n eu setlo nhw yn y tir, yn gwneud i'r boblogaeth dyfu eto, a gosod y deml yn eu canol nhw am byth.
Ezek WelBeibl 37:27  Bydda i'n byw gyda nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.
Ezek WelBeibl 37:28  Pan fydd fy nheml yn eu canol nhw am byth, bydd y cenhedloedd yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi cysegru Israel i mi fy hun.’”