Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next
Chapter 48
Ezek WelBeibl 48:1  “Dyma enwau llwythau Israel, a'r tir mae pob un i'w dderbyn: Bydd Dan reit yn y gogledd, wrth ymyl ffordd Chethlon i Fwlch Chamath, cyn belled â Chatsar-einan ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Bydd tir Dan yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.
Ezek WelBeibl 48:2  Wedyn y nesaf i lawr, yn ffinio gyda Dan, ac eto'n ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin, bydd Asher.
Ezek WelBeibl 48:7  Ac wedyn Jwda. Pob un ohonyn nhw yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.
Ezek WelBeibl 48:8  “Yna'n ffinio gyda Jwda bydd y tir cysegredig sy'n wyth milltir o led, a'r un hyd â thiroedd y llwythau o'r dwyrain i'r gorllewin; a bydd y cysegr yn ei ganol.
Ezek WelBeibl 48:9  Bydd y tir sydd wedi'i gysegru a'i neilltuo i'r ARGLWYDD yn wyth milltir o hyd, a thair milltir a chwarter o led.
Ezek WelBeibl 48:10  Bydd y tir yma sydd wedi'i gysegru yn cael ei rannu rhwng yr offeiriaid – wyth milltir o'r gogledd i'r de, a thair milltir a hanner o'r dwyrain i'r gorllewin. A bydd cysegr yr ARGLWYDD yn ei ganol.
Ezek WelBeibl 48:11  Hwn fydd y tir i'r offeiriaid, sef disgynyddion Sadoc wnaeth ddal ati i wneud eu gwaith heb grwydro i ffwrdd fel y gwnaeth gweddill pobl Israel a'r Lefiaid.
Ezek WelBeibl 48:12  Eu darn arbennig nhw o'r tir fydd e; y tir mwyaf cysegredig o'r cwbl, gyda thir y Lefiaid eraill drws nesa iddyn nhw.
Ezek WelBeibl 48:13  “Bydd tir y Lefiaid hefyd yn wyth milltir o hyd a thair milltir a chwarter o led. Bydd y cwbl gyda'i gilydd yn wyth milltir o hyd a chwe milltir a hanner o led.
Ezek WelBeibl 48:14  Dydy'r tir arbennig yma byth i gael ei werthu na'i gyfnewid, na'i ddefnyddio gan unrhyw un arall. Mae wedi'i gysegru a'i neilltuo'n arbennig i'r ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 48:15  “Bydd y gweddill – milltir a hanner o led ac wyth milltir o hyd – yn dir cyhoeddus i adeiladu tai arno neu ei gadw'n dir agored. Ond bydd y ddinas yn ei ganol.
Ezek WelBeibl 48:16  Bydd y ddinas yn mesur milltir a hanner bob ffordd.
Ezek WelBeibl 48:17  A bydd tir agored rhyw gant tri deg metr o led o gwmpas y ddinas i gyd.
Ezek WelBeibl 48:18  Bydd gweddill y tir, sydd bob ochr i'r tir cysegredig yn dir amaeth, i dyfu bwyd ar gyfer y bobl sy'n gweithio yn y ddinas. Tair milltir a hanner ar yr ochr ddwyreiniol, a thair milltir a hanner i'r gorllewin.
Ezek WelBeibl 48:19  Bydd y tir yma'n cael ei ffermio gan bobl o'r gwahanol lwythau sydd wedi dod i weithio yn y ddinas.
Ezek WelBeibl 48:20  Bydd y darn tir i gyd (y tiroedd cysegredig a thiroedd y ddinas gyda'i gilydd) yn wyth milltir i bob cyfeiriad.
Ezek WelBeibl 48:21  “Pennaeth y wlad fydd piau'r gweddill (sef beth sydd ar ôl bob ochr i'r tir cysegredig a thir amaeth y ddinas). Bydd yn ymestyn o ymylon yr wyth milltir o dir cysegredig, yr holl ffordd i'r ffin ddwyreiniol un ochr ac i Fôr y Canoldir yr ochr arall. A bydd y tir cysegredig a'r deml ei hun yn y canol.
Ezek WelBeibl 48:22  Bydd tir y Lefiaid yn y canol hefyd, a thir amaeth y ddinas, gyda thir pennaeth y wlad bob ochr iddo. Bydd tir y pennaeth yn ymestyn o ffin Jwda i ffin Benjamin.
Ezek WelBeibl 48:23  “Wedyn tiroedd gweddill y llwythau: Tir Benjamin nesaf, yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.
Ezek WelBeibl 48:28  A bydd tir Gad yn dilyn y ffin ddeheuol, ar draws o Tamar at Ffynnon Meriba yn Cadesh, ar hyd Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir.
Ezek WelBeibl 48:29  Dyma'r tir sydd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 48:30  Dyma ddisgrifiad o'r ddinas o'r tu allan: Ar yr ochr ogleddol, sydd filltir a hanner o hyd,
Ezek WelBeibl 48:31  bydd tair giât wedi'u henwi ar ôl llwythau Israel – giât Reuben, giât Jwda, a giât Lefi.
Ezek WelBeibl 48:32  Ar yr ochr ddwyreiniol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Joseff, giât Benjamin, a giât Dan.
Ezek WelBeibl 48:33  Ar yr ochr ddeheuol, sydd filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Simeon, giât Issachar, a giât Sabulon.
Ezek WelBeibl 48:34  Ac ar yr ochr orllewinol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Gad, giât Asher, a giât Nafftali.
Ezek WelBeibl 48:35  Mae'r ddinas yn mesur chwe milltir o'i chwmpas i gyd, ac enw'r ddinas o hynny ymlaen fydd Iahwe-Shamma: “Mae'r ARGLWYDD yna.”