I CORINTHIANS
Chapter 16
I Co | WelBeibl | 16:1 | I droi at yr arian sy'n cael ei gasglu i helpu pobl Dduw: Gwnewch beth ddwedais i wrth eglwysi Galatia i'w wneud. | |
I Co | WelBeibl | 16:2 | Bob dydd Sul dylai pob un ohonoch chi roi arian o'r neilltu, faint bynnag mae'ch incwm chi'n ei ganiatáu, fel bydd dim rhaid casglu'r cwbl gyda'i gilydd pan ddof i acw. | |
I Co | WelBeibl | 16:3 | Wedyn, pan gyrhaedda i bydda i'n ysgrifennu llythyrau yn awdurdodi'r rhai fyddwch chi'n eu dewis i fynd â'ch rhodd i Jerwsalem. | |
I Co | WelBeibl | 16:5 | Dw i'n bwriadu mynd i dalaith Macedonia gyntaf, a bydda i'n dod i'ch gweld chi ar ôl hynny. | |
I Co | WelBeibl | 16:6 | Falle yr arhosa i gyda chi am dipyn – hyd yn oed dreulio'r gaeaf acw. Wedyn gallwch fy helpu i fynd ymlaen ar fy nhaith. | |
I Co | WelBeibl | 16:7 | Petawn i'n dod yn syth fyddwn i ond yn gallu taro heibio, a does gen i ddim eisiau gwneud hynny. Dw i eisiau aros gyda chi am dipyn, os Duw a'i myn. | |
I Co | WelBeibl | 16:10 | Pan ddaw Timotheus atoch chi, gwnewch yn siŵr fod ganddo ddim i boeni amdano tra bydd gyda chi. Mae e, fel fi, yn gwneud gwaith Duw. | |
I Co | WelBeibl | 16:11 | Felly ddylai neb edrych i lawr arno. A rhowch help ymarferol iddo ar ei daith yn ôl ata i. Dw i'n edrych ymlaen at ei weld e a'r brodyr eraill. | |
I Co | WelBeibl | 16:12 | Ynglŷn â'n brawd Apolos: Gwnes i bwyso arno i ddod atoch chi gyda'r lleill, ond roedd e'n benderfynol o beidio ar hyn o bryd. Ond bydd yn dod pan ddaw cyfle! | |
I Co | WelBeibl | 16:15 | Gwyddoch mai'r rhai o dŷ Steffanas oedd y bobl gyntaf yn nhalaith Achaia i ddod i gredu, ac maen nhw wedi rhoi eu hunain yn llwyr i helpu eu cyd-Gristnogion. Dw i'n eich annog chi, frodyr a chwiorydd, | |
I Co | WelBeibl | 16:16 | i barchu pobl fel nhw, a phawb arall tebyg sydd wedi rhoi eu hunain yn llwyr i'r gwaith. | |
I Co | WelBeibl | 16:17 | Rôn i mor falch pan gyrhaeddodd Steffanas, Ffortwnatus ac Achaicus ar eich rhan chi. | |
I Co | WelBeibl | 16:18 | Maen nhw wedi codi nghalon i, fel maen nhw wedi gwneud i chi hefyd. Mae'n bwysig cydnabod rhai fel nhw. | |
I Co | WelBeibl | 16:19 | Mae'r eglwysi yma yn nhalaith Asia yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Mae Acwila a Priscila yn cofio atoch chi'n frwd yn yr Arglwydd, a'r eglwys sy'n cyfarfod yn eu tŷ nhw. | |
I Co | WelBeibl | 16:20 | Yn wir, mae'r brodyr a'r chwiorydd i gyd yn anfon eu cyfarchion. Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. | |