Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I THESSALONIANS
1 2 3 4 5
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 5
I Th WelBeibl 5:1  A does dim rhaid i ni ysgrifennu dim i ddweud pryd yn union fydd hyn i gyd yn digwydd. Dych chi'n gwybod yn iawn.
I Th WelBeibl 5:2  Bydd yr Arglwydd yn dod yn ôl yn gwbl annisgwyl, fel mae lleidr yn dod yn y nos.
I Th WelBeibl 5:3  Bydd pobl yn dweud, “Mae pethau'n mynd yn dda,” a “Dŷn ni'n saff,” ac yn sydyn bydd dinistr yn dod. Bydd yn dod mor sydyn â'r poenau mae gwraig yn eu cael pan mae ar fin cael babi. Fydd dim dianc!
I Th WelBeibl 5:4  Ond dych chi ddim yn y tywyllwch, ffrindiau, felly ddylai'r diwrnod hwnnw ddim dod yn annisgwyl fel lleidr yn eich profiad chi.
I Th WelBeibl 5:5  Plant y goleuni ydych chi i gyd! Plant y dydd! Dŷn ni ddim yn perthyn i'r nos a'r tywyllwch.
I Th WelBeibl 5:6  Felly rhaid i ni beidio bod yn gysglyd fel pobl eraill. Gadewch i ni fod yn effro ac yn sobr.
I Th WelBeibl 5:7  Mae pobl yn cysgu yn y nos, ac mae pobl yn meddwi yn y nos.
I Th WelBeibl 5:8  Ond dŷn ni'n perthyn i'r dydd. Gadewch i ni fyw'n gyfrifol, wedi'n harfogi gyda ffydd a chariad yn llurig, a'r gobaith sicr y cawn ein hachub yn helmed.
I Th WelBeibl 5:9  Dydy Duw ddim wedi bwriadu i ni gael ein cosbi, mae wedi dewis ein hachub ni drwy beth wnaeth yr Arglwydd Iesu Grist.
I Th WelBeibl 5:10  Buodd e farw yn ein lle ni, er mwyn i ni gael byw gydag e am byth – ie, ni sy'n dal yn fyw a hefyd y rhai sydd wedi marw.
I Th WelBeibl 5:11  Felly calonogwch eich gilydd, a daliwch ati i helpu'ch gilydd.
I Th WelBeibl 5:12  Ffrindiau annwyl, dŷn ni am i chi werthfawrogi'r bobl hynny sy'n gweithio'n galed yn eich plith chi. Maen nhw'n gofalu amdanoch chi ac yn eich dysgu chi sut i fyw yn ffyddlon i'r Arglwydd.
I Th WelBeibl 5:13  Dylech chi wir eu parchu nhw a dangos cariad mawr tuag atyn nhw o achos y gwaith maen nhw'n ei wneud. Dylech fyw'n heddychlon gyda'ch gilydd.
I Th WelBeibl 5:14  A ffrindiau annwyl, dŷn ni'n apelio ar i chi rybuddio'r bobl hynny sy'n bod yn ddiog, annog y rhai sy'n ddihyder, helpu'r rhai gwan, a bod yn amyneddgar gyda phawb.
I Th WelBeibl 5:15  Peidiwch gadael i bobl dalu'r pwyth yn ôl i eraill. Ceisiwch wneud lles i'ch gilydd bob amser, ac i bobl eraill hefyd.
I Th WelBeibl 5:18  Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy'ch sefyllfa chi. Dyna sut mae Duw am i chi ymddwyn, fel pobl sy'n perthyn i'r Meseia Iesu.
I Th WelBeibl 5:21  Dylech bwyso a mesur pob un, a dal gafael yn beth sy'n dda.
I Th WelBeibl 5:23  Dw i'n gweddïo y bydd Duw ei hun, y Duw sy'n rhoi heddwch dwfn i ni, yn eich gwneud chi'n berffaith lân, ac y bydd y person cyfan – yn ysbryd, enaid a chorff – yn cael ei gadw'n ddi-fai ganddo nes daw ein Harglwydd Iesu Grist yn ôl.
I Th WelBeibl 5:24  Mae'r Duw sy'n eich galw chi yn ffyddlon, a bydd yn gwneud hyn.
I Th WelBeibl 5:27  Dw i'n eich siarsio chi ar ran yr Arglwydd ei hun i wneud yn siŵr fod y Cristnogion i gyd yn clywed y llythyr yma yn cael ei ddarllen.
I Th WelBeibl 5:28  Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol mae ein Harglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.