Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II CHRONICLES
Prev Up Next
Chapter 20
II C WelBeibl 20:1  Beth amser wedyn dyma fyddinoedd Moab ac Ammon, a rhai o'r Mewniaid gyda nhw, yn dod i ryfela yn erbyn Jehosaffat.
II C WelBeibl 20:2  Daeth negeswyr i ddweud wrth Jehosaffat, “Mae yna fyddin enfawr yn dod yn dy erbyn o gyfeiriad Edom, yr ochr draw i'r Môr Marw. Maen nhw yn Chatsason-tamar yn barod!” (Enw arall ar En-gedi oedd Chatsason-tamar.)
II C WelBeibl 20:3  Roedd Jehosaffat wedi dychryn wrth glywed hyn, a dyma fe'n troi at yr ARGLWYDD am arweiniad. Gorchmynnodd fod pawb yn Jwda i ymprydio.
II C WelBeibl 20:4  Felly dyma bobl Jwda yn dod at ei gilydd i ofyn i'r ARGLWYDD am help. Roedden nhw wedi dod o bob un o drefi Jwda.
II C WelBeibl 20:5  Safodd Jehosaffat gyda'r dyrfa o flaen yr iard newydd yn y deml.
II C WelBeibl 20:6  A dyma fe'n gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, onid ti ydy'r Duw yn y nefoedd sy'n llywodraethu dros holl deyrnasoedd y byd? Ti'n Dduw nerthol a grymus, a does neb yn gallu sefyll yn dy erbyn.
II C WelBeibl 20:7  Onid ti, ein Duw, wnaeth yrru'r bobl oedd yn byw yn y wlad yma allan o flaen dy bobl Israel? Ti wnaeth roi'r tir yma i ddisgynyddion Abraham dy ffrind, am byth.
II C WelBeibl 20:8  Maen nhw wedi byw yma, ac wedi adeiladu teml i dy anrhydeddu di, gan gredu,
II C WelBeibl 20:9  ‘Os daw unrhyw drychineb, fel byddin yn ymosod, cael ein barnu drwy haint neu newyn, gallwn ddod i sefyll yma o dy flaen, o flaen y deml (gan dy fod ti'n bresennol yma). Gallwn alw arnat ti a byddi'n gwrando ac yn ein hachub ni.’
II C WelBeibl 20:10  Ond nawr mae byddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir yn ymosod arnon ni! Dyma'r bobloedd wnest ti ddim gadael i Israel eu concro ar y ffordd allan o'r Aifft. Roedd rhaid i bobl Israel fynd heibio iddyn nhw a pheidio'u difa.
II C WelBeibl 20:11  Ac edrych sut maen nhw'n talu'n ôl i ni nawr! Maen nhw'n dod i'n gyrru ni allan o'r tir wnest ti ei roi i ni.
II C WelBeibl 20:12  Ein Duw, plîs wnei di eu cosbi nhw? Dŷn ni ddim ddigon cryf i wrthsefyll y fyddin enfawr yma sy'n ymosod arnon ni. Dŷn ni ddim yn gwybod beth i'w wneud. Dŷn ni'n troi atat ti am help.”
II C WelBeibl 20:13  Roedd dynion Jwda i gyd yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD gyda'i babis bach, eu gwragedd a'u plant.
II C WelBeibl 20:14  Yna yng nghanol y dyrfa dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn disgyn ar un o'r Lefiaid o dylwyth Asaff, sef Iachsiel fab Sechareia (ŵyr i Benaia fab Jeiel, mab Mataneia).
II C WelBeibl 20:15  Dyma fe'n dweud, “Gwrandwch bobl Jwda, a chi sy'n byw yn Jerwsalem, a'r Brenin Jehosaffat. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, ‘Peidiwch bod ag ofn a pheidiwch panicio am y fyddin fawr yma. Brwydr Duw ydy hon nid eich brwydr chi.
II C WelBeibl 20:16  Ewch allan yn eu herbyn yfory pan fyddan nhw'n dod i fyny drwy Fwlch Sis. Byddan nhw ym mhen draw'r ceunant, o flaen Anialwch Ierwel.
II C WelBeibl 20:17  Fyddwch chi ddim yn gorfod ymladd y frwydr yma. Byddwch yn sefyll lle rydych chi, ac yn gweld yr ARGLWYDD yn eich achub, bobl Jwda a Jerwsalem. Peidiwch bod ag ofn na phanicio. Ewch allan yn eu herbyn yfory; mae'r ARGLWYDD gyda chi!’”
II C WelBeibl 20:18  Yna dyma Jehosaffat yn ymgrymu â'i wyneb ar lawr, a dyma bobl Jwda a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem yn plygu i lawr i addoli'r ARGLWYDD.
II C WelBeibl 20:19  Yna dyma'r Lefiaid o deulu Cohath a theulu Cora yn sefyll a chanu mawl i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ar dop eu lleisiau.
II C WelBeibl 20:20  Yn gynnar y bore wedyn dyma nhw'n martsio allan i gyfeiriad Anialwch Tecoa. Pan oedden nhw ar fin gadael dyma Jehosaffat yn sefyll a dweud, “Gwrandwch arna i bobl Jwda, a chi sy'n byw yn Jerwsalem. Os gwnewch chi drystio'r ARGLWYDD eich Duw, byddwch yn iawn. Credwch beth ddwedodd ei broffwydi a byddwch yn llwyddo.”
II C WelBeibl 20:21  Ar ôl trafod gyda'r bobl dyma fe'n gosod cerddorion o flaen y fyddin i addoli'r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr, a chanu, “Diolchwch i'r ARGLWYDD; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”
II C WelBeibl 20:22  Wrth iddyn nhw ddechrau gweiddi a moli dyma'r ARGLWYDD yn cael grwpiau i ymosod ar fyddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir oedd yn dod i ryfela yn erbyn Jwda, a'u trechu nhw.
II C WelBeibl 20:23  Dyma filwyr Ammon a Moab yn ymosod ar filwyr Mynydd Seir a'u dinistrio nhw'n llwyr. Ar ôl iddyn nhw wneud hynny dyma nhw'n ymosod ar ei gilydd.
II C WelBeibl 20:24  Erbyn i fyddin Jwda gyrraedd y tŵr gwylio sy'n edrych allan i'r anialwch, y cwbl oedd ar ôl o'r fyddin fawr oedd cyrff marw ar lawr. Roedden nhw i gyd wedi'u lladd!
II C WelBeibl 20:25  Dyma Jehosaffat a'i filwyr yn mynd i gasglu beth allen nhw, a chael cymaint o offer, dillad a phethau gwerthfawr, roedd gormod ohono i'w gario! Cymerodd dri diwrnod cyfan iddyn nhw gasglu'r cwbl!
II C WelBeibl 20:26  Ar y pedwerydd diwrnod dyma pawb yn casglu at ei gilydd yn Nyffryn Beracha i addoli'r ARGLWYDD (Dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Beracha – sef Dyffryn y Fendith – hyd heddiw.)
II C WelBeibl 20:27  Yna dyma Jehosaffat yn arwain y dynion i gyd yn ôl i Jerwsalem yn llawen. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi rheswm da iddyn nhw ddathlu!
II C WelBeibl 20:28  Dyma nhw'n mynd i mewn i'r ddinas i sŵn nablau, telynau ac utgyrn, a dyma nhw'n mynd yn syth i deml yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 20:29  Roedd gan y gwledydd o'u cwmpas ofn Duw ar ôl clywed sut roedd yr ARGLWYDD wedi ymladd yn erbyn gelynion Israel.
II C WelBeibl 20:30  Cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch; roedd Duw wedi rhoi heddwch iddo o bob cyfeiriad.
II C WelBeibl 20:31  Daeth Jehosaffat yn frenin ar Jwda pan oedd yn dri deg pump. Bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg pump o flynyddoedd. Aswba, merch Shilchi oedd ei fam.
II C WelBeibl 20:32  Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat bethau oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
II C WelBeibl 20:33  Ond gafodd yr allorau lleol ddim eu cymryd i ffwrdd, a doedd y bobl yn dal ddim yn hollol ffyddlon i Dduw eu hynafiaid.
II C WelBeibl 20:34  Mae gweddill hanes Jehosaffat, o'r dechrau i'r diwedd, i'w cael yn Negeseuon Jehw fab Chanani, sydd wedi'i gadw yn y sgrôl, Hanes Brenhinoedd Israel.
II C WelBeibl 20:35  Yn ddiweddarach dyma Jehosaffat, brenin Jwda yn dod i gytundeb gydag Ahaseia, brenin Israel, oedd yn frenin drwg.
II C WelBeibl 20:36  Dyma nhw'n cytuno i adeiladu llongau masnach mawr ym mhorthladd Etsion-geber.
II C WelBeibl 20:37  A dyma Elieser fab Dodafa o Maresha yn proffwydo yn erbyn Jehosaffat, “Am dy fod ti wedi dod i gytundeb gydag Ahaseia, bydd yr ARGLWYDD yn dryllio dy waith.” A chafodd y llongau eu dryllio, a wnaethon nhw erioed hwylio.