II SAMUEL
Chapter 12
II S | WelBeibl | 12:1 | a dyma fe'n anfon y proffwyd Nathan at Dafydd. Daeth ato a dweud wrtho: “Un tro roedd yna ddau ddyn yn byw yn rhyw dre. Roedd un yn gyfoethog a'r llall yn dlawd. | |
II S | WelBeibl | 12:3 | Ond doedd gan y dyn tlawd ddim ond un oen banw fach roedd wedi'i phrynu a'i magu. Roedd yr oen wedi tyfu gydag e a'i blant. Roedd yn bwyta ac yn yfed gyda nhw, ac yn cysgu yn ei freichiau, fel petai'n ferch fach iddo. | |
II S | WelBeibl | 12:4 | Cafodd y dyn cyfoethog ymwelydd. Ond doedd e ddim am ladd un o'i ddefaid neu ei wartheg ei hun i wneud bwyd iddo. Felly dyma fe'n cymryd oen y dyn tlawd a gwneud pryd o fwyd i'w ymwelydd o hwnnw.” | |
II S | WelBeibl | 12:5 | Roedd Dafydd wedi gwylltio'n lân pan glywodd hyn. Dwedodd wrth Nathan, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, mae'r dyn yna'n haeddu marw! | |
II S | WelBeibl | 12:6 | Rhaid iddo roi pedwar oen yn ôl i'r dyn tlawd am wneud y fath beth, ac am fod mor ddideimlad!” | |
II S | WelBeibl | 12:7 | A dyma Nathan yn ateb Dafydd, “Ti ydy'r dyn! Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Fi wnaeth dy osod di yn frenin ar Israel. Fi hefyd wnaeth dy achub di oddi wrth Saul. | |
II S | WelBeibl | 12:8 | Dw i wedi rhoi eiddo dy feistr i ti, a'i wragedd. A dw i wedi rhoi pobl Israel a Jwda i ti hefyd. A phetai hynny ddim yn ddigon byddwn wedi rhoi mwy eto i ti. | |
II S | WelBeibl | 12:9 | Pam wyt ti wedi fy sarhau i, yr ARGLWYDD, drwy wneud peth mor ofnadwy? Ti wedi lladd Wreia yr Hethiad, a chymryd ei wraig yn wraig i ti dy hun. Ie, ti wnaeth ei ladd, gyda chleddyf yr Ammoniaid! | |
II S | WelBeibl | 12:10 | Felly bydd cysgod y cleddyf arnat ti a dy deulu bob amser. Ti wedi fy sarhau i drwy gymryd gwraig Wreia yr Hethiad i ti dy hun!’ | |
II S | WelBeibl | 12:11 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i greu helynt i ti o fewn dy deulu dy hun. Bydda i'n cymryd dy wragedd di a'u rhoi nhw i ddyn arall. Bydd e'n cysgu gyda dy wragedd di yn gwbl agored. | |
II S | WelBeibl | 12:12 | Er dy fod ti wedi trio cuddio beth wnest ti, bydd pobl Israel i gyd yn gweld beth dw i'n mynd i'w wneud!’” | |
II S | WelBeibl | 12:13 | Dyma Dafydd yn ateb, “Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.” A dyma Nathan yn dweud, “Wyt, ond mae'r ARGLWYDD hefyd wedi maddau dy bechod. Ti ddim yn mynd i farw. | |
II S | WelBeibl | 12:14 | Ond am dy fod ti wedi bod mor amharchus o'r ARGLWYDD, bydd y plentyn gafodd ei eni yn marw.” | |
II S | WelBeibl | 12:15 | Yna aeth Nathan yn ôl adre. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud y babi gafodd gwraig Wreia i Dafydd yn sâl iawn | |
II S | WelBeibl | 12:16 | A dyma Dafydd yn mynd ati i bledio'n daer ar yr ARGLWYDD i'w wella. Roedd yn mynd heb fwyd, ac yn cysgu ar lawr bob nos. | |
II S | WelBeibl | 12:17 | Daeth ei gynghorwyr ato i geisio'i berswadio i godi oddi ar lawr, ond gwrthod wnaeth e, a gwrthod bwyta dim gyda nhw. | |
II S | WelBeibl | 12:18 | Ar ôl saith diwrnod dyma'r plentyn yn marw. Roedd gan swyddogion Dafydd ofn mynd i ddweud wrtho. “Doedd e'n cymryd dim sylw ohonon ni pan oedd y plentyn yn dal yn fyw,” medden nhw. “Sut allwn ni ddweud wrtho fod y plentyn wedi marw? Bydd e'n gwneud rhywbeth ofnadwy iddo'i hun.” | |
II S | WelBeibl | 12:19 | Ond pan sylwodd Dafydd fod ei swyddogion yn sibrwd, roedd yn amau fod y plentyn wedi marw. Felly gofynnodd iddyn nhw, “Ydy'r plentyn wedi marw?” A dyma nhw'n ateb, “Ydy, mae wedi marw.” | |
II S | WelBeibl | 12:20 | Yna dyma Dafydd yn codi oddi ar lawr, yn ymolchi, rhoi olew ar ei wyneb a newid ei ddillad. Aeth i babell yr ARGLWYDD i addoli. Wedyn aeth yn ôl adre i'r palas a bwyta pryd o fwyd. | |
II S | WelBeibl | 12:21 | A dyma'i swyddogion yn gofyn iddo, “Pam wyt ti'n ymddwyn fel yma? Pan oedd y plentyn yn dal yn fyw roeddet ti'n crio ac yn ymprydio. Ond nawr mae'r plentyn wedi marw dyma ti'n codi ac yn bwyta!” | |
II S | WelBeibl | 12:22 | Atebodd Dafydd, “Tra oedd y plentyn yn dal yn fyw rôn i'n ymprydio ac yn crio. Rôn i'n meddwl falle y byddai'r ARGLWYDD yn tosturio ac yn gadael i'r plentyn fyw. | |
II S | WelBeibl | 12:23 | Ond nawr mae e wedi marw. Does dim pwynt gwrthod bwyd bellach. Alla i ddim dod ag e'n ôl. Bydda i'n mynd ato fe, ond wnaiff e ddim dod yn ôl ata i.” | |
II S | WelBeibl | 12:24 | Yna dyma Dafydd yn mynd i gysuro ei wraig, Bathseba. Cysgodd gyda hi a chael rhyw gyda hi. Cafodd hi fab iddo, a dyma nhw'n ei alw yn Solomon. Roedd yr ARGLWYDD yn caru'r plentyn, | |
II S | WelBeibl | 12:25 | a dyma fe'n rhoi neges drwy'r proffwyd Nathan yn dweud y dylai gael ei alw'n Iedidia, sef “Mae'r ARGLWYDD yn ei garu.” | |
II S | WelBeibl | 12:26 | Roedd Joab yn dal i ryfela yn erbyn Rabba, prifddinas yr Ammoniaid, a llwyddodd i ddal y gaer frenhinol. | |
II S | WelBeibl | 12:27 | Anfonodd neges at Dafydd, “Dw i wedi ymosod ar Rabba, ac wedi cipio cronfa ddŵr y ddinas. | |
II S | WelBeibl | 12:28 | Mae'n bryd i ti gasglu gweddill y fyddin, a dod yma i warchae ar y ddinas. Wedyn ti fydd wedi'i choncro, nid fi, a fydd hi ddim yn cael ei henwi ar fy ôl i.” | |
II S | WelBeibl | 12:29 | Felly dyma Dafydd yn casglu'r fyddin i gyd a mynd i Rabba i ymladd yn ei herbyn a'i choncro. | |
II S | WelBeibl | 12:30 | Dyma fe'n cymryd coron eu brenin nhw a'i rhoi ar ei ben ei hun. Roedd y goron wedi'i gwneud o dri deg cilogram o aur, ac roedd gem werthfawr arni. Casglodd Dafydd lot fawr o ysbail o'r ddinas hefyd. | |