Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOHN
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21
Prev Up Next
Chapter 17
John WelBeibl 17:1  Ar ôl dweud hyn, edrychodd Iesu i fyny i'r nefoedd a dechrau gweddïo: “Dad, mae'r amser iawn wedi dod. Anrhydedda dy Fab, er mwyn i mi, y Mab hwnnw, ddangos dy ysblander di.
John WelBeibl 17:2  Rwyt wedi rhoi awdurdod i mi dros y ddynoliaeth gyfan, i mi roi bywyd tragwyddol i'r rhai roist ti i berthyn i mi.
John WelBeibl 17:3  Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy'n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi'i anfon.
John WelBeibl 17:4  Dw i wedi dy anrhydeddu di ar y ddaear drwy orffen y gwaith roist ti i mi.
John WelBeibl 17:5  Yn awr, Dad, rho i mi eto yr anrhydedd a'r ysblander oedd gen i pan oeddwn gyda ti hyd yn oed cyn i'r byd ddechrau.
John WelBeibl 17:6  “Dw i wedi dangos sut un wyt ti i'r rhai roist ti i mi allan o'r byd. Dy bobl di oedden nhw, a dyma ti'n eu rhoi nhw i mi, ac maen nhw wedi derbyn dy neges di.
John WelBeibl 17:7  Bellach maen nhw'n gwybod mai oddi wrthot ti mae popeth wyt wedi'i roi i mi wedi dod.
John WelBeibl 17:8  Dw i wedi dweud wrthyn nhw beth ddwedaist ti wrtho i, ac maen nhw wedi derbyn y cwbl. Maen nhw'n gwybod go iawn fy mod wedi dod oddi wrthot ti, ac yn credu mai ti sydd wedi fy anfon i.
John WelBeibl 17:9  “Dw i'n gweddïo drostyn nhw. Dw i ddim yn gweddïo dros y byd, ond dros y rhai rwyt ti wedi'u rhoi i berthyn i mi. Dw i'n gweddïo drostyn nhw am mai dy bobl di ydyn nhw.
John WelBeibl 17:10  Dy bobl di ydy pawb sydd gen i, a'm pobl i ydy dy bobl di, a dw i'n cael fy anrhydeddu drwyddyn nhw.
John WelBeibl 17:11  Dw i ddim yn aros yn y byd ddim mwy, ond maen nhw'n dal yn y byd. Dw i'n dod atat ti. Dad Sanctaidd, cadw'r rhai wyt ti wedi'u rhoi i mi yn saff ac yn ffyddlon i ti dy hun, er mwyn iddyn nhw ddod yn un fel dŷn ni'n un.
John WelBeibl 17:12  Tra dw i wedi bod gyda nhw, dw i wedi'u cadw nhw'n saff ac yn ffyddlon i ti. A chafodd dim un ohonyn nhw ei golli ar wahân i'r un oedd ar ei ffordd i ddinistr, er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir.
John WelBeibl 17:13  “Dw i'n dod atat ti nawr, ond dw i'n dweud y pethau yma tra dw i'n dal yn y byd er mwyn iddyn nhw gael bod yn wirioneddol hapus fel fi.
John WelBeibl 17:14  Dw i wedi rhoi dy neges di iddyn nhw ac mae'r byd wedi'u casáu nhw, am eu bod nhw ddim yn perthyn i'r byd fwy na dw i'n perthyn i'r byd.
John WelBeibl 17:15  Dw i ddim yn gweddïo ar i ti eu cymryd nhw allan o'r byd, ond ar i ti eu hamddiffyn nhw rhag yr un drwg.
John WelBeibl 17:16  Dŷn nhw ddim yn perthyn i'r byd fwy na dw i'n perthyn i'r byd.
John WelBeibl 17:17  Cysegra nhw i ti dy hun drwy'r gwirionedd; dy neges di ydy'r gwir.
John WelBeibl 17:18  Dw i yn eu hanfon nhw allan i'r byd yn union fel wnest ti fy anfon i.
John WelBeibl 17:19  Dw i'n cysegru fy hun er eu mwyn nhw, er mwyn iddyn nhw fod wedi'u cysegru drwy'r gwirionedd.
John WelBeibl 17:20  “Nid dim ond drostyn nhw dw i'n gweddïo. Dw i'n gweddïo hefyd dros bawb fydd yn credu ynof fi drwy eu neges nhw;
John WelBeibl 17:21  dw i'n gweddïo y byddan nhw i gyd yn un, Dad, yn union fel rwyt ti a fi yn un. Dw i am iddyn nhw hefyd fod wedi'u huno â ni er mwyn i'r byd gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.
John WelBeibl 17:22  Dw i wedi rhoi iddyn nhw yr ysblander roist ti i mi, er mwyn iddyn nhw fod yn un fel dŷn ni yn un:
John WelBeibl 17:23  Fi ynddyn nhw a ti ynof fi. Dw i am iddyn nhw gael eu dwyn i undod llawn, i'r byd gael gwybod mai ti sydd wedi fy anfon i, a dy fod ti wedi'u caru nhw yn union fel rwyt wedi fy ngharu i.
John WelBeibl 17:24  “Dad, dw i am i'r rhai rwyt ti wedi'u rhoi i mi fod gyda mi ble rydw i, iddyn nhw weld fy ysblander i – yr ysblander roist ti i mi am dy fod di wedi fy ngharu i ers cyn i'r byd gael ei greu.
John WelBeibl 17:25  “Dad Cyfiawn, dydy'r byd ddim yn dy nabod di, ond dw i yn dy nabod, ac mae'r rhain wedi dod i wybod mai ti sydd wedi fy anfon i.
John WelBeibl 17:26  Dw i wedi dangos pwy wyt ti iddyn nhw, a bydda i'n dal ati i wneud hynny, er mwyn iddyn nhw garu eraill fel rwyt ti wedi fy ngharu i, ac i mi fy hun fod ynddyn nhw.”