Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOSHUA
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 24
Josh WelBeibl 24:1  Dyma Josua yn galw llwythau Israel i gyd at ei gilydd yn Sichem. Galwodd y cynghorwyr a'r arweinwyr i gyd, y barnwyr, a'r swyddogion, a mynd â nhw i sefyll o flaen Duw.
Josh WelBeibl 24:2  Yna dwedodd wrth y bobl, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Yn bell, bell yn ôl roedd eich hynafiaid (hyd at Tera, tad Abraham a Nachor) yn byw yr ochr draw i afon Ewffrates. Roedden nhw'n addoli duwiau eraill.
Josh WelBeibl 24:3  Ond dyma fi'n cymryd Abraham o'r wlad honno, a dod ag e i wlad Canaan, a rhoi lot fawr o ddisgynyddion iddo. Rhoddais ei fab Isaac iddo,
Josh WelBeibl 24:4  ac wedyn rhoi Jacob ac Esau i Isaac. Cafodd Esau fyw ar fryniau Seir. Ond aeth Jacob a'i feibion i lawr i'r Aifft.
Josh WelBeibl 24:5  Wedyn anfonais Moses ac Aaron i'ch arwain chi allan o wlad yr Aifft, a tharo pobl yr Aifft gyda plâu.
Josh WelBeibl 24:6  Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, dyma nhw'n cyrraedd y môr, ac roedd marchogion a cherbydau rhyfel yr Eifftiaid wedi dod ar eu holau. Wrth y Môr Coch,
Josh WelBeibl 24:7  dyma'ch hynafiaid yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fi'n rhoi tywyllwch rhyngoch chi a'r Eifftiaid, ac yn eu boddi nhw yn y môr. Gwelsoch gyda'ch llygaid eich hunain beth wnes i yn yr Aifft. Wedyn buoch chi'n byw yn yr anialwch am flynyddoedd lawer.
Josh WelBeibl 24:8  Yna dyma fi'n dod â chi i dir yr Amoriaid, sef y bobl oedd yn byw i'r dwyrain o afon Iorddonen. Dyma nhw'n ymladd yn eich erbyn chi, ond dyma fi'n eu dinistrio nhw'n llwyr o'ch blaenau chi. Chi gafodd ennill y frwydr, a choncro eu tir nhw.
Josh WelBeibl 24:9  Roedd Balac fab Sippor, brenin Moab, yn paratoi i ymosod ar Israel, ac wedi cael Balaam fab Beor i'ch melltithio chi.
Josh WelBeibl 24:10  Ond wnes i ddim gwrando ar Balaam. Yn lle hynny, dyma fe'n proffwydo pethau da amdanoch chi dro ar ôl tro! Fi wnaeth eich achub chi oddi wrtho.
Josh WelBeibl 24:11  Wedyn, ar ôl i chi groesi afon Iorddonen, dyma chi'n dod i Jericho. Daeth arweinwyr Jericho i ymladd yn eich erbyn chi, a'r Amoriaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hethiaid, Girgasiaid, Hefiaid a Jebwsiaid hefyd, ond dyma fi'n gwneud i chi ennill.
Josh WelBeibl 24:12  Dyma fi'n achosi panig llwyr, a gyrru dau frenin yr Amoriaid allan o'ch blaen chi. Fi wnaeth ennill y frwydr i chi, nid eich arfau rhyfel chi.
Josh WelBeibl 24:13  Fi wnaeth roi'r tir i chi. Wnaethoch chi ddim gweithio amdano, a wnaethoch chi ddim adeiladu'r trefi. Dych chi'n bwyta ffrwyth gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo'u plannu.
Josh WelBeibl 24:14  “Felly byddwch yn ufudd i'r ARGLWYDD, a'i addoli o ddifrif. Taflwch i ffwrdd y duwiau hynny roedd eich hynafiaid yn eu haddoli yr ochr arall i afon Ewffrates, a duwiau'r Aifft. Addolwch yr ARGLWYDD.
Josh WelBeibl 24:15  Os nad ydych chi am addoli'r ARGLWYDD, penderfynwch heddiw pwy dych chi am ei addoli. Y duwiau roedd eich hynafiaid yn eu haddoli yr ochr arall i'r Ewffrates? Neu falle dduwiau'r Amoriaid dych chi'n byw ar eu tir nhw? Ond dw i a'm teulu yn mynd i addoli'r ARGLWYDD!”
Josh WelBeibl 24:16  Dyma'r bobl yn ymateb, “Fydden ni ddim yn meiddio troi cefn ar yr ARGLWYDD i addoli duwiau eraill!
Josh WelBeibl 24:17  Yr ARGLWYDD ein Duw wnaeth ein hachub ni a'n hynafiaid o fod yn gaethweision yn yr Aifft, a gwneud gwyrthiau rhyfeddol o flaen ein llygaid. Fe wnaeth ein cadw ni'n saff ar y daith, wrth i ni basio drwy diroedd gwahanol bobl.
Josh WelBeibl 24:18  Yr ARGLWYDD wnaeth yrru'r bobloedd i gyd allan o'n blaenau ni, gan gynnwys yr Amoriaid oedd yn byw yn y wlad yma. Felly dŷn ni hefyd am addoli'r ARGLWYDD. Ein Duw ni ydy e.”
Josh WelBeibl 24:19  Yna dyma Josua yn rhybuddio'r bobl, “Wnewch chi ddim dal ati i addoli'r ARGLWYDD. Mae e'n Dduw sanctaidd. Mae e'n Dduw eiddigeddus. Fydd e ddim yn maddau i chi am wrthryfela a phechu yn ei erbyn.
Josh WelBeibl 24:20  Mae e wedi bod mor dda atoch chi! Os byddwch chi'n troi cefn arno ac yn addoli duwiau eraill, bydd e'n troi yn eich erbyn chi, yn achosi trychineb ac yn eich dinistrio chi!”
Josh WelBeibl 24:21  Ond dyma'r bobl yn dweud wrth Josua, “Na! Dŷn ni'n mynd i addoli'r ARGLWYDD!”
Josh WelBeibl 24:22  Felly dyma Josua yn gofyn i'r bobl, “Ydych chi'n derbyn eich bod chi'n atebol iddo ar ôl gwneud y penderfyniad yma i addoli'r ARGLWYDD?” A dyma nhw'n dweud, “Ydyn, dŷn ni'n atebol.”
Josh WelBeibl 24:23  “Iawn,” meddai Josua, “taflwch y duwiau eraill sydd gynnoch chi i ffwrdd, a rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, Duw Israel.”
Josh WelBeibl 24:24  A dyma'r bobl yn dweud wrth Josua, “Dŷn ni'n mynd i addoli'r ARGLWYDD ein Duw, a gwrando arno.”
Josh WelBeibl 24:25  Felly dyma Josua yn gwneud cytundeb gyda'r bobl, a gosod rheolau a chanllawiau iddyn nhw yn Sichem.
Josh WelBeibl 24:26  A dyma fe'n ysgrifennu'r cwbl yn Sgrôl Cyfraith Duw. Wedyn dyma fe'n cymryd carreg fawr, a'i gosod i fyny o dan y goeden dderwen oedd wrth ymyl cysegr yr ARGLWYDD.
Josh WelBeibl 24:27  A dyma fe'n dweud wrth y bobl, “Mae'r garreg yma wedi clywed popeth mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud wrthon ni. Bydd yn dyst yn eich erbyn chi os gwnewch chi droi cefn ar Dduw.”
Josh WelBeibl 24:28  Yna dyma Josua yn gadael i'r bobl fynd, a dyma nhw i gyd yn mynd adre i'w tir eu hunain.
Josh WelBeibl 24:29  Yn fuan wedyn, dyma Josua fab Nwn, gwas yr ARGLWYDD, yn marw. Roedd yn gant a deg.
Josh WelBeibl 24:30  Dyma nhw'n ei gladdu ar ei dir ei hun yn Timnath-serach ym mryniau Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaash.
Josh WelBeibl 24:31  Tra oedd Josua'n fyw, roedd pobl Israel yn addoli'r ARGLWYDD. A dyma nhw'n dal ati i'w addoli tra oedd yr arweinwyr eraill o'r un genhedlaeth yn dal yn fyw – y dynion oedd wedi gweld drostyn nhw eu hunain y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD i bobl Israel.
Josh WelBeibl 24:32  Roedd pobl Israel wedi cario esgyrn Joseff o'r Aifft, a dyma nhw'n eu claddu yn Sichem, ar y darn o dir roedd Jacob wedi'i brynu am gant o ddarnau arian gan feibion Hamor, tad Sichem. Roedd y tir hwnnw yn rhan o diriogaeth disgynyddion Joseff.
Josh WelBeibl 24:33  Pan fuodd Eleasar fab Aaron farw, dyma nhw'n ei gladdu yn Gibea ym mryniau Effraim, ar y tir oedd wedi cael ei roi i'w fab Phineas.