DEUTERONOMY
Chapter 15
Deut | WelBeibl | 15:2 | Dyma beth sydd i ddigwydd: Rhaid i'r credydwr ddileu unrhyw ddyledion sydd gan bobl eraill iddo. Ddylai e ddim gorfodi run o'i gydwladwyr yn Israel i dalu'r ddyled. Mae'r amser i ganslo dyledion wedi dechrau. | |
Deut | WelBeibl | 15:3 | Gallwch hawlio ad-daliad gan bobl o'r tu allan, ond mae dyledion eich cyd-Israeliaid i gael eu canslo. | |
Deut | WelBeibl | 15:4 | “Ddylai neb fod mewn angen yn eich plith chi, am fod yr ARGLWYDD yn mynd i'ch bendithio chi yn y wlad mae'n ei rhoi i chi, | |
Deut | WelBeibl | 15:6 | Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, fel gwnaeth e addo. Bydd pobl Israel yn benthyg i wledydd eraill, ond ddim yn gorfod benthyca gan unrhyw un. Bydd Israel yn rheoli gwledydd eraill, ond fyddan nhw ddim yn eich rheoli chi. | |
Deut | WelBeibl | 15:7 | “Os bydd un o bobl Israel, sy'n byw yn un o'ch pentrefi chi, mewn angen, peidiwch bod yn galon-galed ac yn grintachlyd. | |
Deut | WelBeibl | 15:8 | Yn lle hynny, byddwch yn garedig ac yn hael, a benthyg beth bynnag sydd arno'i angen. | |
Deut | WelBeibl | 15:9 | Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn meddwl pethau drwg pan mae'r seithfed flwyddyn (sef blwyddyn canslo dyledion) yn agosáu. Peidiwch meithrin agwedd anghywir tuag at eich cyd-Israeliad sydd mewn angen, a gwrthod benthyg iddo. Bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu. | |
Deut | WelBeibl | 15:10 | Dylech chi fod yn frwd i'w helpu, a pheidio bod yn flin eich bod wedi gwneud hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn talu'n ôl i chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi. | |
Deut | WelBeibl | 15:11 | Bydd yna bobl dlawd yn y wlad bob amser, a dyna pam dw i'n dweud wrthoch chi am fod yn hael tuag at eich cydwladwyr tlawd. | |
Deut | WelBeibl | 15:12 | “Os ydy un o'ch pobl, Hebrëwr neu Hebraes, yn gwerthu'i hun i chi, dylai weithio i chi am chwe mlynedd, ond yna ar ddechrau'r seithfed flwyddyn rhaid i chi ei ollwng yn rhydd. | |
Deut | WelBeibl | 15:14 | dylech roi defaid a geifr iddo, a digon o ŷd a gwin. Fel mae'r ARGLWYDD wedi bod yn hael atoch chi, rhaid i chi fod yn hael atyn nhw. | |
Deut | WelBeibl | 15:15 | Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD wedi'ch gollwng chi'n rhydd. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn heddiw. | |
Deut | WelBeibl | 15:16 | “Ond os ydy'r gwas yn dweud, ‘Dw i ddim eisiau dy adael di,’ am ei fod yn hapus gyda ti a dy deulu, a bod bywyd yn dda arno, | |
Deut | WelBeibl | 15:17 | cymer fynawyd a gwneud twll drwy ei glust i'r drws. Wedyn bydd yn was i ti am weddill ei oes (ac mae'r un peth i'w wneud gyda dy forwyn). | |
Deut | WelBeibl | 15:18 | “Paid cwyno os ydy'r gwas neu'r forwyn am gael mynd yn rhydd. Wedi'r cwbl, byddi wedi cael chwe blynedd o wasanaeth am hanner y gost o gadw gwas cyflog. Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn bendithio popeth wnei di os byddi di'n ufudd. | |
Deut | WelBeibl | 15:19 | “Rhaid i bob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni o'r gwartheg, defaid a geifr gael ei gadw i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD. Peidiwch gwneud i'r ych cyntaf i gael ei eni weithio, na cneifio'r ddafad neu'r afr gyntaf i gael ei geni. | |
Deut | WelBeibl | 15:20 | Bob blwyddyn, dych chi a'ch teulu i'w bwyta o flaen yr ARGLWYDD yn y lle mae e wedi'i ddewis. | |
Deut | WelBeibl | 15:21 | Ond peidiwch aberthu anifail sydd â rhywbeth o'i le arno i'r ARGLWYDD – anifail sy'n gloff, yn ddall, neu gydag unrhyw beth arall o'i le arno. | |
Deut | WelBeibl | 15:22 | Cewch fwyta'r anifeiliaid hynny yn eich pentrefi, fel petai'n gig gasél neu garw. A gall pawb eu bwyta – y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim. | |