Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II SAMUEL
Prev Up Next
Chapter 15
II S WelBeibl 15:1  Beth amser wedyn dyma Absalom yn paratoi cerbyd a cheffylau iddo'i hun, a hanner cant o warchodwyr personol.
II S WelBeibl 15:2  Byddai'n codi'n fore a sefyll ar ochr y ffordd wrth giât y ddinas. Pan oedd unrhyw un yn dod heibio gydag achos cyfreithiol i'w setlo gan y brenin, byddai Absalom yn ei alw draw. Byddai'n gofyn iddo, “Un o ble wyt ti?” Os oedd hwnnw'n dweud ei fod yn perthyn i un o lwythau Israel,
II S WelBeibl 15:3  byddai Absalom yn dweud wrtho, “Gwranda, mae gen ti achos cryf, ond does gan y brenin neb ar gael i wrando arnat ti.”
II S WelBeibl 15:4  Wedyn byddai'n ychwanegu, “Piti na fyddwn ni'n cael fy ngwneud yn farnwr yn y wlad yma! Byddai pawb oedd ag achos ganddo yn gallu dod ata i. Byddwn i'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael tegwch.”
II S WelBeibl 15:5  Hefyd, pan fyddai rhywun yn dod ato ac ymgrymu o'i flaen, byddai Absalom yn estyn ei law a'i gofleidio a rhoi cusan iddo.
II S WelBeibl 15:6  Roedd yn gwneud hyn i bawb o Israel oedd yn dod i ofyn am gyfiawnder gan y brenin. A dyna sut wnaeth Absalom ennill cefnogaeth pobl Israel.
II S WelBeibl 15:7  Ar ôl pedair blynedd, dyma Absalom yn gofyn i'r brenin, “Plîs ga i fynd i Hebron i gyflawni adduned wnes i i'r ARGLWYDD?
II S WelBeibl 15:8  Pan oeddwn i'n byw yn Geshwr yn Syria, gwnes i addo ar lw: ‘Os bydd yr ARGLWYDD yn mynd â fi'n ôl i Jerwsalem, gwna i addoli'r ARGLWYDD yn Hebron.’”
II S WelBeibl 15:9  A dyma'r brenin yn ei ateb, “Dos, a bendith arnat ti.” Felly dyma Absalom yn mynd i ffwrdd i Hebron.
II S WelBeibl 15:10  Ond yna dyma Absalom yn anfon negeswyr cudd at lwythau Israel i gyd i ddweud, “Pan fyddwch chi'n clywed sŵn y corn hwrdd, cyhoeddwch: ‘Mae Absalom yn frenin yn Hebron.’”
II S WelBeibl 15:11  Roedd dau gant o ddynion wedi mynd gydag Absalom o Jerwsalem. Roedden nhw wedi cael gwahoddiad ganddo, ac wedi mynd yn gwbl ddiniwed heb wybod dim am ei fwriadau.
II S WelBeibl 15:12  Yna dyma Absalom yn cael Achitoffel, swyddog strategaeth Dafydd, i ddod ato o Gilo (y dre lle roedd e'n byw) i gyflwyno aberthau gydag e. Roedd y cynllwyn yn cryfhau, a nifer y bobl oedd o blaid Absalom yn cynyddu.
II S WelBeibl 15:13  Daeth neges at Dafydd i ddweud fod pobl Israel wedi troi at Absalom.
II S WelBeibl 15:14  Felly dyma Dafydd yn dweud wrth ei swyddogion yn Jerwsalem, “Rhaid i ni ffoi, neu wnawn ni ddim dianc oddi wrth Absalom. Dewch! Brysiwch i ni adael, rhag iddo'n dal ni a lladd pawb yn y ddinas!”
II S WelBeibl 15:15  Dyma'r swyddogion yn ateb, “Mae dy weision yn barod i wneud beth bynnag mae ein meistr, y brenin, yn ei benderfynu.”
II S WelBeibl 15:16  Felly dyma'r brenin yn gadael, a'i deulu a'i staff i gyd gydag e. Ond gadawodd ddeg o'i gariadon i edrych ar ôl y palas.
II S WelBeibl 15:17  Wrth iddo fynd, a'r bobl i gyd yn ei ddilyn, dyma nhw'n aros wrth y Tŷ Pellaf.
II S WelBeibl 15:18  Safodd yno tra oedd ei warchodlu i gyd yn mynd heibio (Cretiaid a Pelethiaid) a'r chwe chant o ddynion oedd wedi'i ddilyn o Gath. Wrth iddyn nhw fynd heibio
II S WelBeibl 15:19  dyma'r brenin yn galw ar Itai (oedd o Gath), “Pam ddylet ti ddod gyda ni? Dos yn ôl ac aros gyda'r brenin newydd. Un o'r tu allan wyt ti, yn alltud ac yn bell oddi cartref.
II S WelBeibl 15:20  Dim ond newydd gyrraedd wyt ti. Alla i ddim gwneud i ti grwydro o le i le ar fy ôl i! Dos yn ôl, a dos â dy bobl gyda ti. A boed i'r Duw ffyddlon dy amddiffyn di.”
II S WelBeibl 15:21  Ond dyma Itai yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a'm meistr y brenin yn fyw, bydda i'n mynd ble bynnag fyddi di'n mynd – hyd yn oed os fydd hynny'n golygu marw gyda ti.”
II S WelBeibl 15:22  A dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos yn dy flaen, felly.” Ac aeth Itai yn ei flaen gyda'i ddynion i gyd a'u teuluoedd.
II S WelBeibl 15:23  Roedd pawb yn crio'n uchel wrth i'r fyddin fynd heibio. Dyma'r brenin yn croesi Dyffryn Cidron ac aethon nhw i gyd ymlaen i gyfeiriad yr anialwch.
II S WelBeibl 15:24  Roedd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yno, a'r Lefiaid yn cario Arch Ymrwymiad Duw. Dyma nhw'n gosod yr Arch i lawr, a wnaethon nhw ddim ei chodi eto nes oedd y bobl i gyd wedi gadael y ddinas.
II S WelBeibl 15:25  Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Sadoc, “Dos ag Arch Duw yn ôl i'r ddinas. Os bydd yr ARGLWYDD yn garedig ata i, bydd yn dod â fi'n ôl i'w gweld hi a'i chartref eto.
II S WelBeibl 15:26  Ond os ydy e'n dweud nad ydy e fy eisiau i bellach, dw i'n fodlon iddo wneud beth bynnag mae eisiau gyda mi.”
II S WelBeibl 15:27  Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Sadoc yr offeiriad, “Wyt ti'n deall? Dos yn ôl i'r ddinas yn dawel fach, ti ac Abiathar a'ch meibion – Achimaäts, dy fab di, a Jonathan, mab Abiathar.
II S WelBeibl 15:28  Bydda i'n aros wrth y rhydau ar y ffordd i'r anialwch nes bydda i wedi clywed gynnoch chi.”
II S WelBeibl 15:29  Felly dyma Sadoc ac Abiathar yn mynd ag Arch Duw yn ôl i Jerwsalem, ac aros yno.
II S WelBeibl 15:30  Aeth Dafydd yn ei flaen i fyny Mynydd yr Olewydd, yn crio wrth fynd. Roedd yn cuddio'i ben a doedd dim am ei draed. Ac roedd pawb arall oedd gydag e wedi gorchuddio'u pennau ac yn crio hefyd.
II S WelBeibl 15:31  Clywodd Dafydd fod Achitoffel yn un o'r rhai oedd wedi cynllwynio gydag Absalom, dyma fe'n gweddïo, “ARGLWYDD, plîs gwna gyngor Achitoffel yn gyngor gwirion.”
II S WelBeibl 15:32  Wrth i Dafydd gyrraedd copa'r bryn lle roedd pobl yn arfer addoli, dyma Chwshai yr Arciad yn dod i'w gyfarfod, wedi rhwygo'i ddillad a rhoi pridd ar ei ben.
II S WelBeibl 15:33  Dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Os doi di gyda mi, byddi'n faich arna i;
II S WelBeibl 15:34  ond os ei di yn ôl i'r ddinas, dywed wrth Absalom, ‘Dw i am fod yn was i ti, o frenin. Mae'n wir mod i wedi bod yn was i Dafydd dy dad, ond nawr dw i am fod yn was i ti.’ Wedyn byddi'n gallu drysu cyngor Achitoffel.
II S WelBeibl 15:35  Bydd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yna gyda ti. Rhanna gyda nhw bopeth fyddi di'n ei glywed yn y palas brenhinol.
II S WelBeibl 15:36  Mae eu meibion gyda nhw hefyd, Achimaäts fab Sadoc, a Jonathan fab Abiathar. Gallwch eu hanfon nhw ata i i ddweud beth sy'n digwydd.”
II S WelBeibl 15:37  Felly dyma Chwshai, ffrind Dafydd, yn cyrraedd Jerwsalem pan oedd Absalom ar fin mynd i mewn i'r ddinas.