JUDGES
Chapter 13
Judg | WelBeibl | 13:1 | Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly gadawodd yr ARGLWYDD i'r Philistiaid eu rheoli nhw am bedwar deg o flynyddoedd. | |
Judg | WelBeibl | 13:2 | Bryd hynny, roedd dyn o'r enw Manoa, o lwyth Dan, yn byw yn Sora. Doedd gwraig Manoa ddim yn gallu cael plant. | |
Judg | WelBeibl | 13:3 | Un diwrnod, dyma angel yr ARGLWYDD yn rhoi neges iddi, “Er dy fod ti wedi methu cael plant hyd yn hyn, ti'n mynd i feichiogi a byddi'n cael mab. | |
Judg | WelBeibl | 13:4 | Bydd yn ofalus! Paid yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol arall, na bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di'n aflan. | |
Judg | WelBeibl | 13:5 | Wir i ti, rwyt ti'n mynd i feichiogi a chael mab. Ond rhaid i ti beidio torri ei wallt, am fod y plentyn i gael ei gysegru'n Nasaread i'r ARGLWYDD o'r eiliad mae'n cael ei eni. Bydd yn mynd ati i achub Israel o afael y Philistiaid.” | |
Judg | WelBeibl | 13:6 | Aeth i ddweud wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd. “Mae dyn wedi dod ata i oddi wrth Dduw. Roedd fel angel Duw – yn ddigon i godi braw arna i! Wnes i ddim gofyn iddo o ble roedd e'n dod, a wnaeth e ddim dweud ei enw. | |
Judg | WelBeibl | 13:7 | Dwedodd wrtho i, ‘Ti'n mynd i fod yn feichiog a byddi'n cael mab. Felly, paid yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol arall, a phaid bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di'n aflan. Bydd y plentyn wedi'i gysegru yn Nasaread i Dduw o'i eni i'w farw.’” | |
Judg | WelBeibl | 13:8 | Yna dyma Manoa'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “Meistr, plîs gad i'r dyn wnest ti ei anfon ddod aton ni eto, iddo ddysgu i ni beth i'w wneud gyda'r bachgen fydd yn cael ei eni.” | |
Judg | WelBeibl | 13:9 | A dyma Duw yn ateb ei weddi. Dyma'r angel yn dod at wraig Manoa eto. Roedd hi'n eistedd yn y cae ar ei phen ei hun – doedd Manoa ei gŵr ddim gyda hi. | |
Judg | WelBeibl | 13:10 | Felly dyma hi'n rhedeg ar unwaith i ddweud wrtho, “Tyrd, mae e wedi dod yn ôl! Y dyn ddaeth ata i y diwrnod o'r blaen. Mae e yma!” | |
Judg | WelBeibl | 13:11 | Dyma Manoa'n mynd yn ôl gyda'i wraig, a dyma fe'n gofyn i'r dyn, “Ai ti ydy'r dyn sydd wedi bod yn siarad gyda'm gwraig i?” “Ie, fi ydy e,” meddai wrtho. | |
Judg | WelBeibl | 13:12 | Wedyn dyma Manoa'n gofyn iddo, “Pan fydd dy eiriau'n dod yn wir, sut ddylen ni fagu'r plentyn, a beth fydd e'n wneud?” | |
Judg | WelBeibl | 13:14 | Rhaid iddi beidio bwyta grawnwin na rhesins, peidio yfed gwin na diod feddwol arall, a pheidio bwyta unrhyw fwyd fydd yn ei gwneud hi'n aflan. Rhaid iddi wneud popeth dw i wedi'i ddweud wrthi.” | |
Judg | WelBeibl | 13:15 | Yna dyma Manoa'n dweud, “Plîs wnei di aros am ychydig i ni baratoi pryd o fwyd i ti, gafr ifanc.” | |
Judg | WelBeibl | 13:16 | “Gwna i aros ond wna i ddim bwyta,” meddai'r angel. “Os wyt ti eisiau cyflwyno offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, gelli wneud hynny.” (Doedd Manoa ddim yn sylweddoli mai angel yr ARGLWYDD oedd e.) | |
Judg | WelBeibl | 13:17 | Yna dyma Manoa'n gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di? Pan fydd hyn i gyd yn dod yn wir, dŷn ni eisiau dy anrhydeddu di.” | |
Judg | WelBeibl | 13:18 | A dyma'r angel yn ateb, “Pam wyt ti'n gofyn am fy enw i? Mae e tu hwnt i dy ddeall di.” | |
Judg | WelBeibl | 13:19 | Dyma Manoa'n cymryd gafr ifanc ac offrwm o rawn, a'u gosod nhw ar garreg i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD. A dyma angel yr ARGLWYDD yn gwneud rhywbeth anhygoel o flaen llygaid Manoa a'i wraig. | |
Judg | WelBeibl | 13:20 | Wrth i'r fflamau godi o'r allor, dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd i fyny yn y fflamau. Pan welodd Manoa a'i wraig hynny'n digwydd, dyma nhw'n plygu gyda'u hwynebau ar lawr. | |
Judg | WelBeibl | 13:21 | Wnaeth Manoa a'i wraig ddim gweld yr angel eto. A dyna pryd sylweddolodd Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd e. | |
Judg | WelBeibl | 13:22 | A dyma fe'n dweud wrth ei wraig, “Dŷn ni'n siŵr o farw! Dŷn ni wedi gweld bod dwyfol!” | |
Judg | WelBeibl | 13:23 | Ond dyma'i wraig yn dweud, “Petai'r ARGLWYDD eisiau'n lladd ni, fyddai e ddim wedi derbyn yr offrwm i'w losgi a'r offrwm o rawn gynnon ni. A fyddai e ddim wedi dangos hyn i gyd i ni a siarad â ni fel y gwnaeth e.” | |
Judg | WelBeibl | 13:24 | Cafodd gwraig Manoa fab a dyma hi'n rhoi'r enw Samson iddo. Tyfodd y plentyn a dyma'r ARGLWYDD yn ei fendithio. | |