Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LUKE
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 16
Luke WelBeibl 16:1  Dyma Iesu'n dweud y stori yma wrth ei ddisgyblion: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn cyflogi fforman, ac wedi clywed sibrydion ei fod yn gwastraffu ei eiddo.
Luke WelBeibl 16:2  Felly dyma'r dyn yn galw'r fforman i'w weld, a gofyn iddo, ‘Beth ydy hyn dw i'n ei glywed amdanat ti? Dw i eisiau gweld y llyfrau cyfrifon. Os ydy'r stori'n wir, cei di'r sac.’
Luke WelBeibl 16:3  “‘Beth wna i?’ meddyliodd y fforman. ‘Dw i'n mynd i golli fy job. Dw i ddim yn ddigon cryf i fod yn labrwr, a fyddwn i byth yn gallu cardota.
Luke WelBeibl 16:4  Dw i'n gwybod! Dw i'n mynd i wneud rhywbeth fydd yn rhoi digon o ffrindiau i mi, wedyn pan fydda i allan o waith bydd digon o bobl yn rhoi croeso i mi yn eu cartrefi.’
Luke WelBeibl 16:5  “A dyma beth wnaeth – cysylltodd â phob un o'r bobl oedd mewn dyled i'w feistr. Gofynnodd i'r cyntaf, ‘Faint o ddyled sydd arnat ti i'm meistr i?’
Luke WelBeibl 16:6  “‘Wyth can galwyn o olew olewydd,’ meddai. “Yna meddai'r fforman, ‘Tafla'r bil i ffwrdd. Gad i ni ddweud mai pedwar cant oedd e.’
Luke WelBeibl 16:7  “Yna gofynnodd i un arall, ‘Faint ydy dy ddyled di?’ “‘Can erw o wenith,’ atebodd. “‘Tafla'r bil i ffwrdd,’ meddai'r fforman. ‘Dwedwn ni wyth deg.’
Luke WelBeibl 16:8  “Roedd rhaid i'r meistr edmygu'r fforman am fod mor graff, er ei fod yn anonest. Ac mae'n wir fod pobl y byd yn fwy craff wrth drin pobl eraill na phobl y golau.
Luke WelBeibl 16:9  Dw i'n dweud wrthoch chi, gwnewch ffrindiau drwy ddefnyddio'ch arian er lles pobl eraill. Pan fydd gynnoch chi ddim ar ôl, bydd croeso i chi yn y nefoedd.
Luke WelBeibl 16:10  “Os gellir eich trystio chi gyda phethau bach, gellir eich trystio chi gyda phethau mawr. Ond os ydych chi'n twyllo gyda phethau bach, sut mae eich trystio chi gyda phethau mawr?
Luke WelBeibl 16:11  Felly os dych chi ddim yn onest wrth drin arian, pwy sy'n mynd i'ch trystio chi gyda'r gwir gyfoeth?
Luke WelBeibl 16:12  Os dych chi ddim yn onest wrth drin eiddo pobl eraill, pwy sy'n mynd i roi eiddo i chi ei gadw i chi'ch hun?
Luke WelBeibl 16:13  “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac arian ar yr un pryd.”
Luke WelBeibl 16:14  Pan glywodd y Phariseaid hyn roedden nhw'n gwneud hwyl am ben Iesu, gan eu bod nhw'n hoff iawn o'u harian.
Luke WelBeibl 16:15  Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n hoffi rhoi'r argraff eich bod chi mor dduwiol, ond mae Duw yn gwybod beth sydd yn eich calonnau chi! Mae beth mae pobl yn ei gyfri'n bwysig yn ddiwerth yng ngolwg Duw.”
Luke WelBeibl 16:16  “Cyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi oedd gynnoch chi nes i Ioan Fedyddiwr ddechrau pregethu. Ond ers hynny mae'r newyddion da fod Duw'n teyrnasu yn cael ei gyhoeddi, ac mae pawb yn cael eu hannog yn frwd i ymateb.
Luke WelBeibl 16:17  Ond dydy hynny ddim yn golygu fod y Gyfraith bellach yn ddiwerth. Bydd y nefoedd a'r ddaear yn diflannu cyn i'r manylyn lleia o'r Gyfraith golli ei rym.
Luke WelBeibl 16:18  “Os ydy dyn yn ysgaru ei wraig er mwyn priodi rhywun arall mae'n godinebu. Hefyd, mae'r dyn sy'n priodi'r wraig sydd wedi'i hysgaru yn godinebu.”
Luke WelBeibl 16:19  “Roedd rhyw ddyn cyfoethog oedd bob amser yn gwisgo'r dillad mwya crand ac yn byw yn foethus.
Luke WelBeibl 16:20  Y tu allan i'w dŷ roedd dyn tlawd o'r enw Lasarus yn cael ei adael i gardota; dyn oedd â briwiau dros ei gorff i gyd.
Luke WelBeibl 16:21  Dyna lle roedd, yn disgwyl am unrhyw sbarion bwyd oedd yn cael eu taflu gan y dyn cyfoethog! Byddai cŵn yn dod ato ac yn llyfu'r briwiau agored ar ei gorff.
Luke WelBeibl 16:22  “Un diwrnod dyma'r cardotyn yn marw, a daeth yr angylion i'w gario i'r nefoedd at Abraham. Ond pan fuodd y dyn cyfoethog farw, a chael ei gladdu,
Luke WelBeibl 16:23  aeth i uffern. Yno roedd yn dioddef yn ofnadwy, ac yn y pellter roedd yn gweld Abraham gyda Lasarus.
Luke WelBeibl 16:24  Gwaeddodd arno, ‘Fy nhad Abraham, plîs helpa fi! Anfon Lasarus yma i roi blaen ei fys mewn dŵr a'i roi ar fy nhafod i'w hoeri. Dw i mewn poen ofnadwy yn y tân yma!’
Luke WelBeibl 16:25  “Ond dyma Abraham yn ei ateb, ‘Fy mab, roedd gen ti bopeth roeddet ti eisiau ar y ddaear, ond doedd gan Lasarus ddim byd. Bellach mae e yma'n cael ei gysuro, a tithau'n cael dy arteithio.
Luke WelBeibl 16:26  A beth bynnag, mae'r hyn rwyt yn ei ofyn yn amhosib achos mae yna agendor enfawr yn ein gwahanu ni. Does neb yn gallu croesi o'r fan yma atat ti, a does neb yn gallu dod drosodd o lle rwyt ti aton ni chwaith.’
Luke WelBeibl 16:27  “Felly dyma'r dyn cyfoethog yn dweud, ‘Os felly, dw i'n ymbil arnat ti, plîs wnei di anfon Lasarus i rybuddio fy nheulu i.
Luke WelBeibl 16:28  Mae gen i bum brawd, a fyddwn i ddim am iddyn nhw ddod i'r lle ofnadwy yma pan fyddan nhw farw.’
Luke WelBeibl 16:29  “Ond atebodd Abraham, ‘Mae Cyfraith Moses ac ysgrifau'r proffwydi yn eu rhybuddio nhw. Does ond rhaid iddyn nhw wrando ar y rheiny.’
Luke WelBeibl 16:30  “‘Na, fy nhad,’ meddai'r dyn cyfoethog. ‘Petai rhywun sydd wedi marw yn cael ei anfon atyn nhw, bydden nhw'n troi cefn ar eu pechod.’
Luke WelBeibl 16:31  “Ond meddai Abraham, ‘Os ydyn nhw ddim yn gwrando ar Moses a'r Proffwydi, fyddan nhw ddim yn gwrando chwaith os bydd rhywun yn dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.’”