Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LUKE
Prev Up Next
Chapter 22
Luke WelBeibl 22:1  Roedd hi'n agos at Ŵyl y Bara Croyw, sy'n dechrau gyda dathlu'r Pasg.
Luke WelBeibl 22:2  Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dal i edrych am ffordd i gael gwared â Iesu. Ond roedd arnyn nhw ofn beth fyddai'r bobl yn ei wneud.
Luke WelBeibl 22:3  Ond yna aeth Satan i mewn i Jwdas Iscariot, oedd yn un o'r deuddeg disgybl.
Luke WelBeibl 22:4  Aeth Jwdas at y prif offeiriaid a swyddogion diogelwch y deml, i drafod sut y gallai fradychu Iesu iddyn nhw.
Luke WelBeibl 22:5  Roedden nhw wrth eu bodd, a dyma nhw'n addo rhoi arian iddo.
Luke WelBeibl 22:6  Cytunodd yntau a dechrau edrych am gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw pan oedd y dyrfa ddim o gwmpas.
Luke WelBeibl 22:7  Daeth diwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan oedd rhaid aberthu oen y Pasg).
Luke WelBeibl 22:8  Dyma Iesu'n anfon Pedr ac Ioan yn eu blaenau i wneud y trefniadau. “Ewch i baratoi swper y Pasg i ni, er mwyn i ni i gyd gael bwyta gyda'n gilydd,” meddai wrthyn nhw.
Luke WelBeibl 22:9  “Ble rwyt ti am i ni fynd i'w baratoi?” medden nhw wrtho.
Luke WelBeibl 22:10  Atebodd e, “Wrth i chi fynd i mewn i'r ddinas bydd dyn yn dod i'ch cyfarfod yn cario llestr dŵr. Ewch ar ei ôl
Luke WelBeibl 22:11  i mewn i'r tŷ y bydd yn mynd iddo, a gofyn i'r perchennog, ‘Mae'r athro eisiau gwybod ble mae'r ystafell westai, iddo ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion.’
Luke WelBeibl 22:12  Bydd yn mynd â chi i fyny'r grisiau i ystafell fawr wedi'i pharatoi'n barod. Gwnewch swper i ni yno.”
Luke WelBeibl 22:13  I ffwrdd â nhw, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw'n paratoi swper y Pasg yno.
Luke WelBeibl 22:14  Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd, a'i apostolion gydag e.
Luke WelBeibl 22:15  Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi edrych ymlaen yn fawr at gael bwyta'r swper Pasg yma gyda chi cyn i mi ddioddef.
Luke WelBeibl 22:16  Dw i'n dweud wrthoch chi y bydda i ddim yn ei fwyta eto nes i'r cwbl gael ei gyflawni pan ddaw Duw i deyrnasu.”
Luke WelBeibl 22:17  Yna cymerodd gwpan o win, adrodd gweddi o ddiolch, ac yna dweud wrth ei ddisgyblion, “Cymerwch hwn a'i rannu rhyngoch.
Luke WelBeibl 22:18  Dw i'n dweud wrthoch chi, fydda i ddim yn yfed gwin eto nes i Dduw ddod i deyrnasu.”
Luke WelBeibl 22:19  Yna cymerodd dorth o fara, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Dyma fy nghorff i, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”
Luke WelBeibl 22:20  Wedyn ar ôl bwyta swper gafaelodd yn y cwpan eto, a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd drwy fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt ar eich rhan chi.
Luke WelBeibl 22:21  Ond mae'r un sy'n mynd i mradychu i yn eistedd wrth y bwrdd yma gyda mi.
Luke WelBeibl 22:22  Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw fel mae wedi'i drefnu, ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i!”
Luke WelBeibl 22:23  Yna dechreuodd y disgyblion drafod pwy ohonyn nhw fyddai'n gwneud y fath beth.
Luke WelBeibl 22:24  Ond yna dyma ddadl yn codi yn eu plith nhw ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y pwysica.
Luke WelBeibl 22:25  Felly dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae brenhinoedd y cenhedloedd yn ei lordio hi dros bobl; ac mae pobl fawr eraill sy'n hoffi dangos eu hawdurdod yn cael teitlau fel ‛Cyfaill y bobl‛!
Luke WelBeibl 22:26  Ond dim fel yna dylech chi fod. Dylai'r pwysica ohonoch chi ymddwyn fel y person lleia pwysig, a dylai'r un sy'n arwain fod fel un sy'n gwasanaethu.
Luke WelBeibl 22:27  Pwy ydy'r pwysica fel arfer? Ai'r sawl sy'n eistedd wrth y bwrdd neu'r sawl sy'n gwasanaethu? Y sawl sy'n eistedd wrth y bwrdd wrth gwrs! Ond dw i yma fel un sy'n gwasanaethu.
Luke WelBeibl 22:29  a dw i'n mynd i roi hawl i chi deyrnasu yn union fel gwnaeth y Tad ei roi i mi.
Luke WelBeibl 22:30  Cewch chi fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i pan fydda i'n teyrnasu, a byddwch yn eistedd ar orseddau i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel.
Luke WelBeibl 22:31  “Simon, Simon – mae Satan wedi bod eisiau'ch cymryd chi i gyd i'ch ysgwyd a'ch profi chi fel mae us yn cael ei wahanu oddi wrth y gwenith.
Luke WelBeibl 22:32  Ond dw i wedi gweddïo drosot ti, Simon, y byddi di ddim yn colli dy ffydd. Felly pan fyddi di wedi troi'n ôl dw i eisiau i ti annog a chryfhau'r lleill.”
Luke WelBeibl 22:33  “Ond Arglwydd,” meddai Pedr, “dw i'n fodlon mynd i'r carchar neu hyd yn oed farw drosot ti!”
Luke WelBeibl 22:34  “Pedr,” meddai'r Arglwydd wrtho, “gwranda'n ofalus ar beth dw i'n ddweud. Cyn i'r ceiliog ganu bore fory byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di hyd yn oed yn fy nabod i.”
Luke WelBeibl 22:35  Wedyn dyma Iesu'n gofyn i'w ddisgyblion, “Pan wnes i'ch anfon chi allan heb bwrs na bag teithio na sandalau sbâr, fuoch chi'n brin o gwbl?” “Naddo,” medden nhw.
Luke WelBeibl 22:36  Yna dwedodd wrthyn nhw, “Ond nawr, ewch â'ch pwrs a'ch bag gyda chi; ac os oes gynnoch chi ddim cleddyf, gwerthwch eich côt i brynu un.
Luke WelBeibl 22:37  Mae'r broffwydoliaeth sy'n dweud, ‘Roedd yn cael ei ystyried yn un o'r gwrthryfelwyr’, yn mynd i ddod yn wir. Ydy, mae'r cwbl sydd wedi'i ysgrifennu amdana i yn yr ysgrifau sanctaidd yn mynd i ddod yn wir.”
Luke WelBeibl 22:38  “Edrych, Arglwydd,” meddai'r disgyblion, “mae gynnon ni ddau gleddyf yn barod!” “Dyna ddigon!” meddai.
Luke WelBeibl 22:39  Dyma Iesu'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd eto, fel roedd wedi gwneud bob nos. Ac aeth ei ddisgyblion ar ei ôl.
Luke WelBeibl 22:40  Pan gyrhaeddodd lle roedd yn mynd, dwedodd wrthyn nhw, “Gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi.”
Luke WelBeibl 22:41  Yna aeth yn ei flaen dafliad carreg, a mynd ar ei liniau a dechrau gweddïo,
Luke WelBeibl 22:42  “Dad, os wyt ti'n fodlon, cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”
Luke WelBeibl 22:43  Yna gwelodd angel o'r nefoedd, ac roedd yr angel yn ei annog ac yn cryfhau ei benderfyniad.
Luke WelBeibl 22:44  Gweddïodd yn fwy taer, ond gan ei fod mewn cymaint o boen meddwl, roedd ei chwys yn disgyn ar lawr fel dafnau o waed.
Luke WelBeibl 22:45  Pan gododd ar ei draed a mynd yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. Roedd tristwch yn eu llethu nhw.
Luke WelBeibl 22:46  Gofynnodd iddyn nhw, “Pam dych chi'n cysgu? Codwch ar eich traed, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi.”
Luke WelBeibl 22:47  Wrth iddo ddweud hyn, dyma dyrfa yn dod ato. Jwdas, un o'r deuddeg disgybl oedd yn eu harwain, ac aeth at Iesu i'w gyfarch â chusan.
Luke WelBeibl 22:48  Ond dyma Iesu'n gofyn iddo, “Wyt ti'n bradychu Mab y Dyn â chusan?”
Luke WelBeibl 22:49  Pan sylweddolodd dilynwyr Iesu beth oedd ar fin digwydd, dyma nhw'n gweiddi, “Arglwydd, wyt ti eisiau i ni ymladd gyda'r cleddyfau yma?”
Luke WelBeibl 22:50  A dyma un ohonyn nhw yn taro gwas yr archoffeiriad, a thorri ei glust dde i ffwrdd.
Luke WelBeibl 22:51  “Stopiwch! Dyna ddigon!” meddai Iesu. Yna cyffyrddodd glust y dyn a'i iacháu.
Luke WelBeibl 22:52  Yna trodd at y prif offeiriaid, swyddogion diogelwch y deml a'r arweinwyr eraill oedd wedi dod i'w ddal, “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth? Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma?
Luke WelBeibl 22:53  Pam na ddalioch chi fi yn y deml? Rôn i yno gyda chi bob dydd! Ond dyma'ch cyfle chi – yr amser pan mae pwerau'r tywyllwch yn rheoli.”
Luke WelBeibl 22:54  Dyma nhw'n gafael ynddo, a mynd ag e i dŷ'r archoffeiriad. Roedd Pedr yn eu dilyn o bell.
Luke WelBeibl 22:55  Ond yna ar ôl iddyn nhw gynnau tân yng nghanol yr iard dyma Pedr yn mynd yno ac yn eistedd gyda nhw.
Luke WelBeibl 22:56  Dyma un o'r morynion yn sylwi ei fod yn eistedd yno. Edrychodd hi'n ofalus arno yng ngolau'r tân, ac yna dweud, “Roedd y dyn yma gyda Iesu!”
Luke WelBeibl 22:57  Ond gwadu wnaeth Pedr. “Dw i ddim yn nabod y dyn, ferch!” meddai.
Luke WelBeibl 22:58  Yna ychydig yn ddiweddarach dyma rywun arall yn sylwi arno ac yn dweud, “Rwyt ti'n un ohonyn nhw!” “Na dw i ddim!” atebodd Pedr.
Luke WelBeibl 22:59  Yna ryw awr yn ddiweddarach dyma rywun arall eto yn dweud, “Does dim amheuaeth fod hwn gyda Iesu; mae'n amlwg ei fod yn dod o Galilea.”
Luke WelBeibl 22:60  Atebodd Pedr, “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti'n sôn, ddyn!” A dyma'r ceiliog yn canu wrth iddo ddweud y peth.
Luke WelBeibl 22:61  Dyma'r Arglwydd Iesu yn troi ac yn edrych yn syth ar Pedr. Yna cofiodd Pedr beth roedd yr Arglwydd wedi'i ddweud: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu.”
Luke WelBeibl 22:63  Dyma'r milwyr oedd yn cadw Iesu yn y ddalfa yn dechrau gwneud hwyl ar ei ben a'i guro.
Luke WelBeibl 22:64  Dyma nhw'n rhoi mwgwd arno ac yna ei daro a dweud wrtho, “Tyrd, Proffwyda! Pwy wnaeth dy daro di y tro yna?”
Luke WelBeibl 22:65  Roedden nhw'n ei regi ac yn hyrddio pob math o enllibion ato.
Luke WelBeibl 22:66  Pan oedd hi'n gwawrio dyma'r Sanhedrin yn cyfarfod, hynny ydy, yr arweinwyr oedd yn brif-offeiriaid neu'n arbenigwyr yn y Gyfraith. A dyma Iesu'n cael ei osod o'u blaenau nhw.
Luke WelBeibl 22:67  “Dwed wrthon ni ai ti ydy'r Meseia,” medden nhw. Atebodd Iesu, “Fyddech chi ddim yn credu taswn i yn dweud.
Luke WelBeibl 22:68  A taswn i'n gofyn y cwestiwn i chi, wnaech chi ddim ateb.
Luke WelBeibl 22:69  Ond o hyn ymlaen, bydd Mab y Dyn yn llywodraethu gyda'r Duw grymus.”
Luke WelBeibl 22:70  “Felly wyt ti'n dweud mai ti ydy Mab Duw?” medden nhw gyda'i gilydd. “Chi sydd wedi dweud y peth,” meddai.
Luke WelBeibl 22:71  A dyma nhw'n dweud, “Pam mae angen tystiolaeth bellach? Dŷn ni wedi'i glywed yn dweud y peth ei hun.”