Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LUKE
Prev Up Next
Chapter 11
Luke WelBeibl 11:1  Un diwrnod roedd Iesu'n gweddïo mewn lle arbennig. Pan oedd wedi gorffen, dyma un o'i ddisgyblion yn gofyn iddo, “Arglwydd, dysgodd Ioan ei ddisgyblion i weddïo, felly dysga di ni.”
Luke WelBeibl 11:2  Dwedodd wrthyn nhw, “Wrth weddïo dwedwch fel hyn: ‘Dad, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu. Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu.
Luke WelBeibl 11:3  Rho i ni ddigon o fwyd i'n cadw ni'n fyw bob dydd.
Luke WelBeibl 11:4  Maddau ein pechodau i ni – achos dŷn ni'n maddau i'r rhai sy'n pechu yn ein herbyn ni. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi.’”
Luke WelBeibl 11:5  Yna dwedodd hyn: “Cymerwch fod gynnoch chi ffrind, a'ch bod yn mynd ato am hanner nos ac yn dweud, ‘Wnei di fenthyg tair torth o fara i mi?
Luke WelBeibl 11:6  Mae yna ffrind arall i mi wedi galw heibio i ngweld i, a does gen i ddim byd i'w roi iddo i'w fwyta.’
Luke WelBeibl 11:7  “Mae'r ffrind sydd yn y tŷ yn ateb, ‘Gad lonydd i mi. Dw i wedi cloi'r drws ac mae'r plant yn y gwely gyda mi. Alla i ddim dy helpu di.’
Luke WelBeibl 11:8  Ond wir i chi, er ei fod yn gwrthod codi i roi bara iddo am eu bod yn ffrindiau; rhag achosi cywilydd bydd yn codi yn y diwedd, ac yn rhoi popeth mae e eisiau iddo.
Luke WelBeibl 11:9  “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch y drws a bydd yn cael ei agor.
Luke WelBeibl 11:10  Mae pawb sy'n gofyn yn derbyn; pawb sy'n chwilio yn cael; ac mae'r drws yn cael ei agor i bawb sy'n curo.
Luke WelBeibl 11:11  “Pwy ohonoch chi fyddai'n rhoi neidr i'ch plentyn pan mae'n gofyn am bysgodyn?
Luke WelBeibl 11:12  Neu sgorpion pan mae'n gofyn am ŵy? Wrth gwrs ddim!
Luke WelBeibl 11:13  Felly os ydych chi sy'n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i'ch plant, mae'r Tad nefol yn siŵr o roi'r Ysbryd Glân i'r rhai sy'n gofyn iddo!”
Luke WelBeibl 11:14  Roedd Iesu'n bwrw cythraul allan o ddyn oedd yn fud. Pan aeth y cythraul allan ohono dyma'r dyn yn dechrau siarad, ac roedd y bobl yno wedi'u syfrdanu.
Luke WelBeibl 11:15  Ond roedd rhai yn dweud, “Beelsebwl (y diafol ei hun), tywysog y cythreuliaid, sy'n rhoi'r gallu iddo wneud hyn.”
Luke WelBeibl 11:16  Ac roedd eraill yn ceisio cael Iesu i brofi ei hun drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol.
Luke WelBeibl 11:17  Ond roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd drwy eu meddyliau, ac meddai wrthyn nhw: “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd teulu sy'n ymladd â'i gilydd o hyd yn chwalu.
Luke WelBeibl 11:18  Os ydy Satan yn ymladd ei hun, a'i deyrnas wedi'i rhannu, sut mae'n bosib i'w deyrnas sefyll? Dw i'n gofyn y cwestiwn am eich bod chi'n honni mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid.
Luke WelBeibl 11:19  Felly os mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi, pwy sy'n rhoi'r gallu i'ch dilynwyr chi? Byddan nhw'n eich barnu chi!
Luke WelBeibl 11:20  Ond os Duw sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu.
Luke WelBeibl 11:21  “Pan mae dyn cryf arfog yn amddiffyn ei gartref, mae ei eiddo yn ddiogel.
Luke WelBeibl 11:22  Ond pan mae rhywun cryfach yn ymosod arno a'i drechu, mae'n cymryd ei arfau oddi ar y dyn, ac yn dwyn ei eiddo.
Luke WelBeibl 11:23  “Os ydy rhywun ddim ar fy ochr i, mae yn fy erbyn i. Ac os ydy rhywun ddim yn gweithio gyda mi, mae'n gweithio yn fy erbyn i.
Luke WelBeibl 11:24  “Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae'n mynd i grwydro lleoedd anial yn edrych am le i orffwys. Ond yna pan mae'n methu dod o hyd i rywle, mae'n meddwl, ‘Dw i am fynd yn ôl i lle roeddwn i'n byw.’
Luke WelBeibl 11:25  Mae'n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ wedi'i lanhau a'i dacluso drwyddo.
Luke WelBeibl 11:26  Wedyn mae'n mynd â saith ysbryd gwaeth na'i hun i fyw gydag e! Mae'r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau!”
Luke WelBeibl 11:27  Pan oedd Iesu wrthi'n dweud y pethau yma, dyma ryw wraig yn y dyrfa yn gweiddi, “Mae dy fam, wnaeth dy gario di'n ei chroth a'th fagu ar ei bronnau, wedi'i bendithio'n fawr!”
Luke WelBeibl 11:28  Atebodd Iesu, “Mae'r rhai sy'n gwrando ar neges Duw ac yn ufuddhau iddo wedi'u bendithio'n fwy!”
Luke WelBeibl 11:29  Wrth i'r dyrfa fynd yn fwy, meddai Iesu, “Mae'r genhedlaeth yma yn ddrwg. Mae pobl yn gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i. Ond yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona.
Luke WelBeibl 11:30  Fel roedd beth ddigwyddodd i Jona yn arwydd i bobl Ninefe, bydd yr hyn fydd yn digwydd i mi, Mab y Dyn, yn arwydd i bobl y genhedlaeth yma.
Luke WelBeibl 11:31  Bydd Brenhines Seba yn condemnio pobl y genhedlaeth yma ar ddydd y farn, achos roedd hi'n fodlon teithio o ben draw'r byd i wrando ar ddoethineb Solomon. Mae un mwy na Solomon yma nawr!
Luke WelBeibl 11:32  Bydd pobl Ninefe hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr!
Luke WelBeibl 11:33  “Does neb yn goleuo lamp ac wedyn yn ei gosod yn rhywle o'r golwg neu o dan fowlen. Mae lamp yn cael ei gosod mewn lle amlwg, fel bod pawb sy'n dod i mewn yn cael golau.
Luke WelBeibl 11:34  Dy lygad di ydy lamp y corff. Mae llygad iach, sef bod yn hael, yn gwneud dy gorff yn olau drwyddo. Ond llygad sâl ydy bod yn hunanol, a bydd dy gorff yn dywyll drwyddo.
Luke WelBeibl 11:35  Felly gwylia, rhag ofn bod y golau sydd gen ti yn dywyllwch!
Luke WelBeibl 11:36  Felly os ydy dy gorff yn olau drwyddo, heb dywyllwch yn unman, bydd dy fywyd i gyd yn olau fel petai lamp yn disgleirio arnat ti.”
Luke WelBeibl 11:37  Ar ôl i Iesu orffen siarad, dyma un o'r Phariseaid yn ei wahodd i'w gartref am bryd o fwyd. Felly aeth Iesu yno ac eistedd wrth y bwrdd.
Luke WelBeibl 11:38  Roedd y dyn oedd wedi'i wahodd yn synnu gweld Iesu yn eistedd wrth y bwrdd heb fynd drwy'r ddefod Iddewig o olchi ei ddwylo cyn bwyta.
Luke WelBeibl 11:39  Dyma'r Arglwydd Iesu yn dweud wrtho, “Dych chi'r Phariseaid yn glanhau tu allan y cwpan neu'r ddysgl, ond y tu mewn dych chi'n gwbl hunanol a drwg!
Luke WelBeibl 11:40  Y ffyliaid dall! Oes gan Dduw ddim diddordeb yn y tu mewn yn ogystal â'r tu allan?
Luke WelBeibl 11:41  Rhowch beth sydd tu mewn i'r ddysgl i'r tlodion (yn lle ei gadw i chi'ch hunain) – wedyn byddwch yn lân i gyd.
Luke WelBeibl 11:42  “Gwae chi'r Phariseaid! Dych chi'n ofalus iawn gyda rhyw fanion fel rhoi un rhan o ddeg o beth sydd gynnoch chi i Dduw – hyd yn oed o'ch mintys, arianllys a'ch perlysiau eraill! Ond dych chi'n esgeuluso byw'n gyfiawn a charu Duw. Dylech wneud y pethau pwysicach yma heb ddiystyru'r pethau eraill.
Luke WelBeibl 11:43  “Gwae chi'r Phariseaid! Dych chi wrth eich bodd yn cael y seddi pwysica yn y synagogau a chael pobl yn symud o'ch ffordd chi a'ch cyfarch yn barchus yn sgwâr y farchnad.
Luke WelBeibl 11:44  “Gwae chi! Dych chi fel beddau mewn cae heb ddim arwydd i ddweud fod bedd yna, a phobl yn llygru eu hunain wrth gerdded drostyn nhw heb wybod beth maen nhw'n ei wneud!”
Luke WelBeibl 11:45  Dyma un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ymateb, “Athro, rwyt ti'n ein sarhau ni hefyd wrth ddweud y fath bethau!”
Luke WelBeibl 11:46  “Ie, a gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith!” meddai Iesu. “Dych chi'n llethu pobl gyda'ch rheolau crefyddol, a wnewch chi ddim codi bys bach i'w helpu nhw a gwneud pethau'n haws iddyn nhw.
Luke WelBeibl 11:47  “Gwae chi! Dych chi'n codi cofgolofnau i anrhydeddu'r proffwydi, a'ch cyndeidiau chi laddodd nhw!
Luke WelBeibl 11:48  Dych chi'n gwybod yn iawn beth wnaeth eich cyndeidiau, ac yn cytuno â nhw; nhw laddodd y proffwydi dych chi'n codi'r cofgolofnau iddyn nhw!
Luke WelBeibl 11:49  Dyma ddwedodd Duw yn ei ddoethineb, ‘Bydda i'n anfon proffwydi a negeswyr atyn nhw. Byddan nhw'n lladd rhai ac yn erlid y lleill.’
Luke WelBeibl 11:50  Bydd y genhedlaeth yma'n cael ei galw i gyfrif am ladd pob un o'r proffwydi ers i'r byd gael ei greu –
Luke WelBeibl 11:51  o lofruddiaeth Abel hyd Sechareia, gafodd ei lofruddio rhwng yr allor a'r cysegr. Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd y genhedlaeth yma yn cael ei galw i gyfrif am y cwbl!
Luke WelBeibl 11:52  “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith! Dych chi wedi cuddio allwedd y drws sy'n arwain at ddeall yr ysgrifau sanctaidd oddi wrth y bobl. Felly dych chi'ch hunain ddim yn mynd i mewn, a dych chi'n rhwystro pobl eraill rhag mynd i mewn hefyd.”
Luke WelBeibl 11:53  Ar ôl iddo adael y tŷ, dyma'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dechrau gwrthwynebu Iesu'n ffyrnig. Roedden nhw'n ymosod arno gyda chwestiynau di-baid,
Luke WelBeibl 11:54  yn y gobaith o'i gael i ddweud rhywbeth bydden nhw'n gallu ei ddefnyddio yn ei erbyn.