LUKE
Chapter 21
Luke | WelBeibl | 21:1 | Pan oedd yn y deml, sylwodd Iesu ar y bobl gyfoethog yn rhoi arian yn y blychau casglu at drysorfa'r deml. | |
Luke | WelBeibl | 21:3 | “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “mae'r wraig weddw dlawd yna wedi rhoi mwy yn y blwch na neb arall. | |
Luke | WelBeibl | 21:4 | Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben; ond yn ei thlodi rhoddodd y wraig yna y cwbl oedd ganddi i fyw arno.” | |
Luke | WelBeibl | 21:5 | Roedd rhai o'i ddisgyblion yn tynnu sylw at waith cerrig hardd y deml a'r meini coffa oedd yn ei haddurno. Ond dyma Iesu'n dweud, | |
Luke | WelBeibl | 21:6 | “Mae'r amser yn dod pan fydd y cwbl welwch chi yma yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi'i gadael yn ei lle.” | |
Luke | WelBeibl | 21:7 | A dyma nhw'n gofyn iddo, “Pryd mae hyn i gyd yn mynd i ddigwydd, Athro? Fydd unrhyw rybudd cyn i'r pethau yma ddigwydd?” | |
Luke | WelBeibl | 21:8 | Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud, ‘Fi ydy'r Meseia’ a ‘Mae'r diwedd wedi dod’. Peidiwch eu dilyn nhw. | |
Luke | WelBeibl | 21:9 | Pan fyddwch yn clywed am ryfeloedd a chwyldroadau, peidiwch dychryn. Mae'r pethau yma'n siŵr o ddigwydd gyntaf, ond fydd diwedd y byd ddim yn digwydd yn syth wedyn.” | |
Luke | WelBeibl | 21:10 | Dwedodd wrthyn nhw, “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. | |
Luke | WelBeibl | 21:11 | Bydd daeargrynfeydd mawr, a newyn a heintiau mewn gwahanol leoedd, a digwyddiadau dychrynllyd eraill ac arwyddion o'r nefoedd yn rhybuddio pobl. | |
Luke | WelBeibl | 21:12 | “Ond cyn i hyn i gyd ddigwydd, byddwch chi'n cael eich erlid a'ch cam-drin. Cewch eich llusgo o flaen y synagogau a'ch rhoi yn y carchar. Cewch eich cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi o flaen brenhinoedd a llywodraethwyr. | |
Luke | WelBeibl | 21:15 | Bydda i'n rhoi'r geiriau iawn i chi. Fydd gan y rhai sy'n eich gwrthwynebu chi ddim ateb! | |
Luke | WelBeibl | 21:16 | Byddwch yn cael eich bradychu gan eich rhieni, eich brodyr a'ch chwiorydd, eich perthnasau eraill a'ch ffrindiau. Bydd rhai ohonoch chi'n cael eich lladd. | |
Luke | WelBeibl | 21:20 | “Byddwch chi'n gwybod fod Jerwsalem ar fin cael ei dinistrio pan welwch chi fyddinoedd yn ei hamgylchynu. | |
Luke | WelBeibl | 21:21 | Bryd hynny dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd. Dylai pawb ddianc o'r ddinas, a ddylai neb yng nghefn gwlad fynd yno i chwilio am loches. | |
Luke | WelBeibl | 21:22 | Dyna pryd y bydd Duw yn ei chosbi, a bydd y cwbl mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud am y peth yn dod yn wir. | |
Luke | WelBeibl | 21:23 | Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny! Bydd trybini mawr yn y tir, a bydd digofaint Duw ar y genedl. | |
Luke | WelBeibl | 21:24 | Byddan nhw'n cael eu lladd â'r cleddyf neu'n cael eu symud i wledydd eraill yn garcharorion. Bydd pobl o genhedloedd eraill yn concro Jerwsalem a'i sathru dan draed hyd nes i amser y cenhedloedd hynny ddod i ben. | |
Luke | WelBeibl | 21:25 | “Bydd pethau rhyfedd yn digwydd yn yr awyr – arwyddion yn yr haul, y lleuad a'r sêr. Ar y ddaear bydd gwledydd mewn cynnwrf a ddim yn gwybod beth i'w wneud am fod y môr yn corddi a thonnau anferth yn codi. | |
Luke | WelBeibl | 21:26 | Bydd pobl yn llewygu mewn dychryn wrth boeni am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd i'r byd, achos bydd hyd yn oed y sêr a'r planedau yn ansefydlog. | |
Luke | WelBeibl | 21:27 | Bryd hynny bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod mewn cymylau gyda grym ac ysblander mawr. | |
Luke | WelBeibl | 21:28 | Pan fydd hyn i gyd yn dechrau digwydd, safwch ar eich traed a daliwch eich pennau'n uchel. Mae rhyddid ar ei ffordd!” | |
Luke | WelBeibl | 21:29 | Dyma fe'n darlunio'r peth fel yma: “Meddyliwch am y goeden ffigys a'r coed eraill i gyd. | |
Luke | WelBeibl | 21:31 | Felly'r un fath, pan fyddwch yn gweld y pethau yma'n digwydd, byddwch yn gwybod fod Duw ar fin dod i deyrnasu. | |
Luke | WelBeibl | 21:32 | “Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd. | |
Luke | WelBeibl | 21:33 | Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ddweud yn aros am byth. | |
Luke | WelBeibl | 21:34 | “Gwyliwch eich hunain! Peidiwch gwastraffu'ch bywydau yn gwneud dim byd ond joio, meddwi a phoeni am bethau materol, neu bydd y diwrnod hwnnw yn eich dal chi'n annisgwyl – | |
Luke | WelBeibl | 21:36 | Cadwch eich llygaid yn agored! Gweddïwch y byddwch chi'n gallu osgoi'r pethau ofnadwy sy'n mynd i ddigwydd, ac y cewch chi sefyll o flaen Mab y Dyn.” | |
Luke | WelBeibl | 21:37 | Roedd Iesu yn dysgu pobl yn y deml bob dydd, ac yna gyda'r hwyr yn mynd yn ôl i dreulio'r nos ar ochr Mynydd yr Olewydd. | |