LUKE
Chapter 20
Luke | WelBeibl | 20:1 | Un diwrnod roedd Iesu'n dysgu'r bobl ac yn cyhoeddi'r newyddion da yn y deml. Dyma'r prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, | |
Luke | WelBeibl | 20:2 | a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy yn union roddodd yr awdurdod i ti?” | |
Luke | WelBeibl | 20:5 | Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu?’ | |
Luke | WelBeibl | 20:6 | Ond allwn ni ddim dweud ‘Na’ … Bydd y bobl yn ein llabyddio ni â cherrig. Maen nhw'n credu'n gwbl bendant fod Ioan yn broffwyd.” | |
Luke | WelBeibl | 20:9 | Aeth yn ei flaen i ddweud y stori yma wrth y bobl: “Roedd dyn wedi plannu gwinllan. Gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd am amser hir. | |
Luke | WelBeibl | 20:10 | Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin anfonodd un o'i weision i nôl y siâr roedd y tenantiaid i fod i'w rhoi iddo. Ond dyma'r tenantiaid yn curo'r gwas a'i anfon i ffwrdd heb ddim. | |
Luke | WelBeibl | 20:11 | Felly dyma'r dyn yn anfon gwas arall; dyma nhw'n curo hwnnw hefyd a'i gam-drin a'i anfon i ffwrdd heb ddim. | |
Luke | WelBeibl | 20:13 | “‘Beth wna i?’ meddai'r dyn oedd biau'r winllan. ‘Dw i'n gwybod! Anfona i fy mab annwyl atyn nhw. Byddan nhw'n ei barchu e.’ | |
Luke | WelBeibl | 20:14 | “Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan i ni'n hunain!’ | |
Luke | WelBeibl | 20:15 | Felly dyma nhw'n ei daflu allan o'r winllan a'i ladd. Felly beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud iddyn nhw? | |
Luke | WelBeibl | 20:16 | Bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid hynny ac yn rhoi'r winllan i bobl eraill.” Pan glywodd y bobl y stori yma, eu hymateb oedd, “Na! Byth!” | |
Luke | WelBeibl | 20:17 | Edrychodd Iesu i fyw eu llygaid, ac meddai, “Felly beth ydy ystyr y geiriau yma o'r ysgrifau sanctaidd: ‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen’? | |
Luke | WelBeibl | 20:18 | Bydd pawb sy'n baglu dros y garreg honno yn dryllio'n ddarnau, a bydd pwy bynnag mae'r garreg yn syrthio arno yn cael ei fathru.” | |
Luke | WelBeibl | 20:19 | Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r prif offeiriaid yn gwybod yn iawn ei fod yn sôn amdanyn nhw yn y stori. Roedden nhw eisiau gafael ynddo yn y fan a'r lle, ond roedd arnyn nhw ofn y bobl. | |
Luke | WelBeibl | 20:20 | Roedden nhw'n ei wylio'n ofalus, a dyma nhw'n anfon dynion ato oedd yn cymryd arnynt eu bod yn ddidwyll. Roedden nhw'n gobeithio dal Iesu yn dweud rhywbeth o'i le, ac wedyn bydden nhw'n gallu dod â chyhuddiad yn ei erbyn o flaen y llywodraethwr Rhufeinig. | |
Luke | WelBeibl | 20:21 | Felly dyma'r rhai gafodd eu hanfon i geisio ei dwyllo yn gofyn iddo, “Athro, dŷn ni'n gwybod fod yr hyn rwyt ti'n ei ddweud ac yn ei ddysgu yn wir. Ti ddim yn dangos ffafriaeth, a ti'n dysgu ffordd Duw ac yn glynu wrth yr hyn sy'n wir. | |
Luke | WelBeibl | 20:24 | “Dewch â darn arian yma,” meddai wrthyn nhw. “Llun pwy sydd arno? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?” “Cesar,” medden nhw. | |
Luke | WelBeibl | 20:25 | “Felly,” meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.” | |
Luke | WelBeibl | 20:26 | Felly roedden nhw wedi methu ei gael i ddweud unrhyw beth o'i le o flaen y bobl. Roedd ei ateb wedi'u syfrdanu'n llwyr – doedden nhw ddim yn gallu dweud dim. | |
Luke | WelBeibl | 20:27 | Dyma rai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn i Iesu. (Nhw ydy'r arweinwyr Iddewig sy'n dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.) | |
Luke | WelBeibl | 20:28 | “Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodi'r weddw a chael plant yn ei le | |
Luke | WelBeibl | 20:30 | Dyma'r ail, ac yna'r trydydd yn priodi'r weddw. Yn wir, digwyddodd yr un peth gyda'r saith – wnaeth yr un ohonyn nhw adael plentyn ar ei ôl. | |
Luke | WelBeibl | 20:31 | Dyma'r ail, ac yna'r trydydd yn priodi'r weddw. Yn wir, digwyddodd yr un peth gyda'r saith – wnaeth yr un ohonyn nhw adael plentyn ar ei ôl. | |
Luke | WelBeibl | 20:33 | Felly dyma'n cwestiwn ni: ‘Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pwy fydd hi?’ Roedd hi wedi bod yn wraig i'r saith ohonyn nhw!” | |
Luke | WelBeibl | 20:35 | Ond yn yr oes sydd i ddod, fydd pobl ddim yn priodi – sef y bobl hynny sy'n cael eu cyfri'n deilwng i fod yn rhan ohoni ac wedi codi yn ôl yn fyw. | |
Luke | WelBeibl | 20:36 | A fyddan nhw ddim yn marw eto. Byddan nhw yr un fath â'r angylion yn hynny o beth. Maen nhw'n blant Duw wedi'u codi yn ôl i fywyd newydd. | |
Luke | WelBeibl | 20:37 | A bydd y meirw'n dod yn ôl yn fyw! Mae hyd yn oed Moses yn dangos fod hynny'n wir! Yn yr hanes am y berth yn llosgi mae'n dweud mai'r Arglwydd Dduw ydy ‘Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob’. | |
Luke | WelBeibl | 20:38 | Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw'r rhai sy'n fyw! Maen nhw i gyd yn fyw iddo fe!” | |
Luke | WelBeibl | 20:39 | Dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ymateb, “Go dda, athro! Clywch, clywch!” | |
Luke | WelBeibl | 20:41 | Yna dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Pam maen nhw'n dweud fod y Meseia yn fab i Dafydd? | |
Luke | WelBeibl | 20:42 | Mae Dafydd ei hun yn dweud yn Llyfr y Salmau: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd | |
Luke | WelBeibl | 20:46 | “Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, ac yn hoffi cael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn sgwâr y farchnad. Mae'n rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd. | |