Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LUKE
Prev Up Next
Chapter 17
Luke WelBeibl 17:1  Dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Bydd bob amser bethau'n digwydd sy'n temtio pobl i bechu, ond gwae'r sawl sy'n gwneud y temtio!
Luke WelBeibl 17:2  Byddai'n well i'r person hwnnw gael ei daflu i'r môr gyda maen melin wedi'i rwymo am ei wddf, na gorfod wynebu canlyniadau gwneud i un o'r rhai bach yma bechu.
Luke WelBeibl 17:3  Felly gwyliwch eich hunain! Os ydy rhywun arall sy'n credu ynof fi yn pechu, rhaid i ti ei geryddu; ond pan mae'n edifar ac yn troi cefn ar ei bechod, rhaid i ti faddau iddo.
Luke WelBeibl 17:4  Hyd yn oed petai'n pechu yn dy erbyn saith gwaith y dydd, ond yn dod yn ôl bob tro ac yn gofyn am faddeuant, rhaid i ti faddau.”
Luke WelBeibl 17:5  Dyma'r apostolion yn gofyn i'r Arglwydd, “Sut allwn ni gael mwy o ffydd?”
Luke WelBeibl 17:6  Atebodd Iesu, “Petai'ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y goeden forwydden yma am gael ei chodi o'r ddaear wrth ei gwreiddiau a'i thaflu i'r môr, a byddai'n gwneud hynny!
Luke WelBeibl 17:7  “Pan mae eich gwas yn dod i'r tŷ ar ôl bod wrthi'n aredig y tir neu'n gofalu am y defaid drwy'r dydd, ydych chi'n dweud wrtho, ‘Tyrd i eistedd i lawr yma, a bwyta’?
Luke WelBeibl 17:8  Na, dych chi'n dweud, ‘Gwna swper i mi gyntaf. Cei di fwyta wedyn.’
Luke WelBeibl 17:9  A dych chi ddim yn diolch iddo, am fod y gwas ddim ond yn gwneud beth mae gwas i fod i'w wneud.
Luke WelBeibl 17:10  Felly chithau – ar ôl gwneud popeth dw i'n ei ofyn, dylech chi ddweud, ‘Dŷn ni'n haeddu dim. Gweision ydyn ni, sydd ddim ond yn gwneud beth mae disgwyl i ni ei wneud.’”
Luke WelBeibl 17:11  Aeth Iesu ymlaen ar ei ffordd i Jerwsalem, a daeth at y ffin rhwng Galilea a Samaria.
Luke WelBeibl 17:12  Wrth iddo fynd i mewn i ryw bentref, dyma ddeg dyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod i'w gyfarfod. Dyma nhw'n sefyll draw
Luke WelBeibl 17:13  ac yn gweiddi'n uchel arno o bell, “Feistr! Iesu! – wnei di'n helpu ni?”
Luke WelBeibl 17:14  Pan welodd Iesu nhw, dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i ddangos eich hunain i'r offeiriaid.” Ac roedden nhw ar eu ffordd i wneud hynny pan wnaeth y gwahanglwyf oedd ar eu cyrff ddiflannu!
Luke WelBeibl 17:15  Dyma un ohonyn nhw'n troi'n ôl pan welodd ei fod wedi cael ei iacháu. Roedd yn gweiddi'n uchel, “Clod i Dduw!”
Luke WelBeibl 17:16  Taflodd ei hun ar lawr o flaen Iesu, a diolch iddo am yr hyn roedd wedi'i wneud. (Gyda llaw, Samariad oedd y dyn.)
Luke WelBeibl 17:17  Meddai Iesu, “Rôn i'n meddwl mod i wedi iacháu deg o ddynion. Ble mae'r naw arall?
Luke WelBeibl 17:18  Ai dim ond y Samariad yma sy'n fodlon rhoi'r clod i Dduw?”
Luke WelBeibl 17:19  Yna dwedodd wrth y dyn, “Cod ar dy draed, a dos adre. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.”
Luke WelBeibl 17:20  Un diwrnod, dyma'r Phariseaid yn gofyn i Iesu, “Pryd mae teyrnasiad Duw yn mynd i ddechrau?” Atebodd Iesu, “Does yna ddim arwyddion gweledig yn dangos fod teyrnasiad Duw wedi cyrraedd!
Luke WelBeibl 17:21  Fydd pobl ddim yn gallu dweud, ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ achos mae Duw yma'n teyrnasu yn eich plith chi.”
Luke WelBeibl 17:22  Roedd yn siarad am hyn gyda'i ddisgyblion wedyn, ac meddai, “Mae'r amser yn dod pan fyddwch chi'n dyheu am gael rhyw gipolwg bach o'r dyddiau pan fydda i, Mab y Dyn gyda chi eto, ond byddwch yn methu.
Luke WelBeibl 17:23  Bydd pobl yn honni fod Mab y Dyn wedi dod yn ôl; ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ byddan nhw'n ei ddweud. Ond peidiwch gwrando arnyn nhw a mynd allan i edrych amdano.
Luke WelBeibl 17:24  Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o un pen i'r llall!
Luke WelBeibl 17:25  Ond cyn i hynny ddigwydd mae'n rhaid i mi ddioddef yn ofnadwy a chael fy ngwrthod gan bobl y genhedlaeth bresennol.
Luke WelBeibl 17:26  “Bydd hi yn union yr un fath â roedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.
Luke WelBeibl 17:27  Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i'r arch. Wedyn daeth y llifogydd a'u dinistrio nhw i gyd!
Luke WelBeibl 17:28  “A'r un fath yn amser Lot. Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed, yn prynu a gwerthu, yn ffermio ac yn adeiladu.
Luke WelBeibl 17:29  Ond wedyn pan adawodd Lot Sodom daeth tân a brwmstan i lawr o'r awyr a'u dinistrio nhw i gyd.
Luke WelBeibl 17:30  “Fel yna'n union fydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod i'r golwg.
Luke WelBeibl 17:31  Y diwrnod hwnnw fydd yna ddim cyfle i neb sydd y tu allan i'w dŷ fynd i mewn i bacio ei bethau. A ddylai neb sydd allan yn y maes feddwl mynd adre.
Luke WelBeibl 17:33  Bydd y rhai sy'n ceisio achub eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd yn diogelu bywyd go iawn.
Luke WelBeibl 17:34  Y noson honno bydd dau yn rhannu gwely; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei adael.
Luke WelBeibl 17:35  Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda'i gilydd; bydd un yn cael ei chymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei gadael.”
Luke WelBeibl 17:37  “Arglwydd, ble bydd hyn yn digwydd?” gofynnodd y disgyblion. Atebodd Iesu, “Bydd mor amlwg â'r ffaith fod yna gorff marw lle mae fwlturiaid wedi casglu.”