PSALMS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Chapter 140
Psal | WelBeibl | 140:3 | Mae ganddyn nhw dafodau miniog; maen nhw'n brathu fel nadroedd, ac mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau. Saib | |
Psal | WelBeibl | 140:4 | O ARGLWYDD, paid gadael i bobl ddrwg gael gafael ynof fi! Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiol sydd eisiau fy maglu i. | |
Psal | WelBeibl | 140:5 | Mae dynion balch yn cuddio trap i mi; pobl lygredig yn lledu rhwydau i mi; ac yn gosod maglau ar fy llwybr. Saib | |
Psal | WelBeibl | 140:6 | Dwedais wrth yr ARGLWYDD: “Ti ydy fy Nuw i.” Gwranda, O ARGLWYDD, wrth i mi erfyn am drugaredd! | |
Psal | WelBeibl | 140:7 | O ARGLWYDD, Meistr, ti ydy'r un cryf sy'n achub; ti oedd yn gysgod i mi yn y frwydr. | |
Psal | WelBeibl | 140:8 | O ARGLWYDD, paid gadael i'r rhai drwg gael eu ffordd! Paid gadael i'w cynllwyn nhw lwyddo, rhag iddyn nhw ymffrostio. Saib | |
Psal | WelBeibl | 140:9 | Ac am y rhai sydd o'm cwmpas i – boed i'r pethau drwg maen nhw wedi eu dweud eu llethu! | |
Psal | WelBeibl | 140:10 | Boed i farwor tanllyd ddisgyn arnyn nhw! Boed iddyn nhw gael eu taflu i bydewau, byth i godi eto! | |
Psal | WelBeibl | 140:11 | Paid gadael i enllibwyr aros yn y tir. Gad i ddrygioni'r dynion treisgar eu hela nhw a'u bwrw nhw i lawr. | |
Psal | WelBeibl | 140:12 | Dw i'n gwybod y bydd yr ARGLWYDD yn gweithredu ar ran y rhai sy'n diodde. Bydd yn sicrhau cyfiawnder i'r rhai mewn angen. | |