PSALMS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Chapter 45
Psal | WelBeibl | 45:1 | Mae gen i destun cerdd hyfryd yn fy ysbrydoli. Dw i am adrodd fy marddoniaeth i'r brenin; mae fy nhafod fel ysgrifbin yn llaw awdur profiadol. | |
Psal | WelBeibl | 45:2 | Ti ydy'r dyn mwya golygus sy'n bod, ac mae dy eiriau mor garedig. Mae'n dangos fod Duw wedi dy fendithio di bob amser. | |
Psal | WelBeibl | 45:4 | Dangos dy fawredd! Dos allan i ennill buddugoliaeth! Marchoga dros y gwir a dros gyfiawnder. Drwy dy nerth byddi'n cyflawni pethau rhyfeddol! | |
Psal | WelBeibl | 45:5 | Bydd dy saethau miniog yn trywanu calonnau dy elynion, a bydd pobloedd yn syrthio wrth dy draed. | |
Psal | WelBeibl | 45:6 | Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth; a byddi di'n teyrnasu mewn ffordd sy'n deg. | |
Psal | WelBeibl | 45:7 | Ti'n caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni; felly mae Duw, ie, dy Dduw di, wedi dy eneinio di a thywallt olew llawenydd arnat ti yn fwy na neb arall. | |
Psal | WelBeibl | 45:8 | Mae arogl hyfryd myrr, aloes a chasia ar dy ddillad i gyd. Mae offerynnau llinynnol o balasau ifori yn cael eu canu i dy ddifyrru di. | |
Psal | WelBeibl | 45:9 | Mae tywysogesau ymhlith dy westeion, ac mae dy briodferch yn sefyll wrth dy ochr, yn gwisgo tlysau o aur coeth Offir. | |
Psal | WelBeibl | 45:11 | Gad i'r brenin gael ei hudo gan dy harddwch! Fe ydy dy feistr di bellach, felly ymostwng iddo. | |
Psal | WelBeibl | 45:13 | Mae'r dywysoges yn anhygoel o hardd, a'i gwisg briodas wedi'i brodio gyda gwaith aur manwl. | |
Psal | WelBeibl | 45:14 | Mae hi'n cael ei harwain at y brenin, ac mae gosgordd o forynion yn ei dilyn, i'w chyflwyno i ti. | |
Psal | WelBeibl | 45:16 | Bydd dy feibion yn dy olynu yn llinach dy hynafiaid, ac yn cael eu gwneud yn dywysogion yn y wlad. | |