PSALMS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Chapter 55
Psal | WelBeibl | 55:2 | Gwranda arna i, ac ateb fi. Mae'r sefyllfa yma'n fy llethu; dw i wedi drysu'n lân! | |
Psal | WelBeibl | 55:3 | Mae'r gelyn yn gweiddi arna i, ac yn bygwth pob math o ddrwg. Dŷn nhw ond eisiau creu helynt ac ymosod arna i'n wyllt. | |
Psal | WelBeibl | 55:9 | Dinistria nhw, ARGLWYDD, a drysu eu cynlluniau nhw! Dw i'n gweld dim byd ond trais a chweryla yn y ddinas. | |
Psal | WelBeibl | 55:10 | Mae milwyr yn cerdded ei waliau i'w hamddiffyn ddydd a nos, ond y tu mewn iddi mae'r drwg go iawn: | |
Psal | WelBeibl | 55:11 | pobl yn bygwth ei gilydd ym mhobman – dydy gormes a thwyll byth yn gadael ei strydoedd! | |
Psal | WelBeibl | 55:12 | Nid y gelyn sy'n fy ngwawdio i – gallwn oddef hynny; nid y gelyn sy'n fy sarhau i – gallwn guddio oddi wrth hwnnw; | |
Psal | WelBeibl | 55:15 | Gad i'r gelynion yn sydyn gael eu taro'n farw! Gad i'r bedd eu llyncu nhw'n fyw! Does dim ond drygioni lle bynnag maen nhw. | |
Psal | WelBeibl | 55:17 | Dw i'n dal ati i gwyno a phledio, fore, nos a chanol dydd. Dw i'n gwybod y bydd e'n gwrando! | |
Psal | WelBeibl | 55:18 | Bydd e'n dod â fi allan yn saff o ganol yr ymladd, er bod cymaint yn fy erbyn i. | |
Psal | WelBeibl | 55:19 | Bydd Duw, sy'n teyrnasu o'r dechrau cyntaf, yn gwrando arna i ac yn eu trechu nhw. Saib Maen nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd, a dangos parch tuag at Dduw. | |
Psal | WelBeibl | 55:21 | Roedd yn seboni gyda'i eiriau, ond ymosod oedd ei fwriad. Roedd ei eiriau'n dyner fel olew, ond cleddyfau noeth oedden nhw go iawn. | |
Psal | WelBeibl | 55:22 | Rho dy feichiau trwm i'r ARGLWYDD; bydd e'n edrych ar dy ôl di. Wnaiff e ddim gadael i'r cyfiawn syrthio. | |