PSALMS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Chapter 68
Psal | WelBeibl | 68:1 | Pan mae Duw yn codi, mae'r gelynion yn cael eu gwasgaru; mae'r rhai sydd yn ei erbyn yn dianc oddi wrtho. | |
Psal | WelBeibl | 68:2 | Chwytha nhw i ffwrdd, fel mwg yn cael ei chwythu gan y gwynt! Bydd pobl ddrwg yn cael eu difa gan Dduw, fel cwyr yn cael ei doddi gan dân. | |
Psal | WelBeibl | 68:3 | Ond bydd y rhai cyfiawn yn dathlu, ac yn gorfoleddu o flaen Duw; byddan nhw wrth eu boddau! | |
Psal | WelBeibl | 68:4 | Canwch i Dduw! Canwch gân o fawl iddo, a chanmol yr un sy'n marchogaeth y cymylau! Yr ARGLWYDD ydy ei enw! Dewch i ddathlu o'i flaen! | |
Psal | WelBeibl | 68:6 | Mae Duw yn rhoi'r digartref mewn teulu, ac yn gollwng caethion yn rhydd i sain cerddoriaeth. Ond bydd y rhai sy'n gwrthryfela yn byw mewn anialwch. | |
Psal | WelBeibl | 68:7 | O Dduw, pan oeddet ti'n arwain dy bobl allan, ac yn martsio ar draws yr anialwch, Saib | |
Psal | WelBeibl | 68:8 | dyma'r ddaear yn crynu, a'r awyr yn arllwys y glaw o flaen Duw, yr un oedd ar Sinai, o flaen Duw, sef Duw Israel. | |
Psal | WelBeibl | 68:9 | Rhoist ddigonedd o law i'r tir, O Dduw, ac adfer dy etifeddiaeth pan oedd yn gwywo. | |
Psal | WelBeibl | 68:11 | Mae'r ARGLWYDD yn dweud y gair, ac mae tyrfa o ferched yn cyhoeddi'r newyddion da: | |
Psal | WelBeibl | 68:12 | Mae'r brenhinoedd a'u byddinoedd yn ffoi ar frys, a gwragedd tŷ yn rhannu'r ysbail. | |
Psal | WelBeibl | 68:13 | “Er dy fod wedi aros adre rhwng y corlannau, dyma i ti adenydd colomen wedi'u gorchuddio ag arian a blaenau'r adenydd yn aur melyn coeth.” | |
Psal | WelBeibl | 68:14 | Pan oedd y Duw Hollalluog yn gwasgaru'r brenhinoedd, roedd fel petai storm eira yn chwythu ar Fynydd Salmon! | |
Psal | WelBeibl | 68:16 | O fynydd y copaon uchel, pam wyt ti mor genfigennus o'r mynydd mae Duw wedi'i ddewis i fyw arno? Dyna lle bydd yr ARGLWYDD yn aros am byth! | |
Psal | WelBeibl | 68:17 | Mae gan Dduw ddegau o filoedd o gerbydau, a miloedd ar filoedd o filwyr. Mae'r ARGLWYDD gyda nhw; mae Duw Sinai wedi dod i'w gysegr. | |
Psal | WelBeibl | 68:18 | Ti wedi mynd i fyny i'r ucheldir, ac arwain caethion ar dy ôl, a derbyn rhoddion gan bobl – hyd yn oed gan y rhai oedd yn gwrthwynebu i ti aros yno, ARGLWYDD Dduw. | |
Psal | WelBeibl | 68:19 | Mae'r ARGLWYDD yn Dduw bendigedig! Mae e'n edrych ar ein holau ni o ddydd i ddydd. Duw ydy'n hachubwr ni! Saib | |
Psal | WelBeibl | 68:20 | Ein Duw ni ydy'r Duw sy'n achub! Gyda'r ARGLWYDD, ein Meistr, gallwn ddianc rhag marwolaeth. | |
Psal | WelBeibl | 68:21 | Fe ydy'r Duw sy'n taro pennau ei elynion – pob copa walltog sy'n euog o'i flaen. | |
Psal | WelBeibl | 68:22 | Dwedodd yr ARGLWYDD, “Bydda i'n dod â'r gelynion yn ôl o Bashan, ie, hyd yn oed yn ôl o waelod y môr! | |
Psal | WelBeibl | 68:23 | Byddi'n trochi dy draed yn eu gwaed, a bydd tafodau dy gŵn yn cael eu siâr o'r cyrff.” | |
Psal | WelBeibl | 68:24 | Mae pobl yn gweld dy orymdaith, O Dduw, yr orymdaith pan mae fy Nuw, fy mrenin, yn mynd i'r cysegr: | |
Psal | WelBeibl | 68:25 | y cantorion ar y blaen, yna'r offerynnwr yng nghanol y merched ifanc sy'n taro'r tambwrîn. | |
Psal | WelBeibl | 68:26 | “Bendithiwch Dduw yn y gynulleidfa fawr! Bendithiwch yr ARGLWYDD, bawb sy'n tarddu o ffynnon Israel.” | |
Psal | WelBeibl | 68:27 | Dacw Benjamin, yr ifancaf, yn arwain; penaethiaid Jwda yn dyrfa swnllyd; penaethiaid Sabulon a Nafftali. | |
Psal | WelBeibl | 68:28 | Mae dy Dduw yn dy wneud di'n gryf! O Dduw, sydd wedi gweithredu ar ein rhan, dangos dy rym | |
Psal | WelBeibl | 68:30 | Cerydda fwystfil y corsydd brwyn, y gyr o deirw a'r bobl sy'n eu dilyn fel lloi! Gwna iddyn nhw blygu o dy flaen a rhoi arian i ti'n rhodd. Ti'n gyrru'r bobloedd sy'n mwynhau rhyfel ar chwâl! | |
Psal | WelBeibl | 68:31 | Bydd llysgenhadon yn dod o'r Aifft, a bydd pobl Affrica yn brysio i dalu teyrnged i Dduw. | |
Psal | WelBeibl | 68:33 | I'r un sy'n marchogaeth drwy'r awyr – yr awyr sydd yno o'r dechrau. Gwrandwch! Mae ei lais nerthol yn taranu. | |
Psal | WelBeibl | 68:34 | Cyfaddefwch mor rymus ydy Duw! Mae e'n teyrnasu yn ei holl ysblander dros Israel, ac yn dangos ei rym yn yr awyr. | |