PSALMS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Chapter 105
Psal | WelBeibl | 105:1 | Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw! Dwedwch wrth bawb beth mae wedi'i wneud. | |
Psal | WelBeibl | 105:2 | Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i'w foli! Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud. | |
Psal | WelBeibl | 105:5 | Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth – ei wyrthiau, a'r cwbl mae wedi ei ddyfarnu. | |
Psal | WelBeibl | 105:11 | “Dw i'n rhoi gwlad Canaan i chi,” meddai, “yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.” | |
Psal | WelBeibl | 105:14 | Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw; roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw: | |
Psal | WelBeibl | 105:17 | Ond roedd wedi anfon un o'u blaenau, sef Joseff, gafodd ei werthu fel caethwas. | |
Psal | WelBeibl | 105:20 | Dyma'r brenin yn ei ryddhau o'r carchar; llywodraethwr y cenhedloedd yn ei ollwng yn rhydd. | |
Psal | WelBeibl | 105:21 | Gwnaeth e'n gyfrifol am ei balas, a rhoi iddo'r awdurdod i reoli popeth oedd ganddo. | |
Psal | WelBeibl | 105:22 | Disgyblu'r arweinwyr eraill fel y mynnai, a dysgu doethineb i'r cynghorwyr hŷn. | |
Psal | WelBeibl | 105:27 | Dyma nhw'n dweud am yr arwyddion gwyrthiol roedd Duw yn mynd i'w gwneud yn nhir Cham: | |
Psal | WelBeibl | 105:28 | Anfon tywyllwch, ac roedd hi'n dywyll iawn! Wnaethon nhw ddim herio beth ddwedodd. | |
Psal | WelBeibl | 105:35 | Roedden nhw'n difetha'r planhigion i gyd, ac yn bwyta popeth oedd yn tyfu ar y tir! | |
Psal | WelBeibl | 105:37 | Daeth ag Israel allan yn cario arian ac aur! Doedd neb drwy'r llwythau i gyd yn baglu. | |
Psal | WelBeibl | 105:38 | Roedd pobl yr Aifft mor falch pan aethon nhw, achos roedd Israel wedi codi dychryn arnyn nhw. | |
Psal | WelBeibl | 105:40 | Dyma nhw'n gofyn am fwyd, a dyma soflieir yn dod; rhoddodd ddigonedd o fwyd iddyn nhw o'r awyr. | |
Psal | WelBeibl | 105:41 | Holltodd graig, nes bod dŵr yn pistyllio allan ohoni; roedd yn llifo fel afon drwy dir sych. | |
Psal | WelBeibl | 105:42 | Oedd, roedd Duw'n cofio'r addewid cysegredig roedd wedi'i wneud i'w was Abraham. | |
Psal | WelBeibl | 105:43 | Daeth â'i bobl allan yn dathlu! Roedd y rhai wedi'u dewis ganddo'n bloeddio canu. | |
Psal | WelBeibl | 105:44 | Rhoddodd dir y cenhedloedd iddyn nhw; cawson nhw fwynhau ffrwyth llafur pobl eraill. | |